Rhwydwaith Cymru Tîm Ysgolion Iach Caerdydd
Saith Pwnc Iechyd Allweddol
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd o Wasanaeth Addysg Caerdydd yn cefnogi holl ysgolion yr Awdurdod Lleol i gyflawni dull gweithredu ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd a lles. Ceir saith pwnc iechyd allweddol:
- Bwyd a Ffitrwydd (gan gynnwys agweddau fel darpariaeth bwyd a diod, bwyta’n iach a choginio ymarferol, hydradu, addysg gorfforol a chwarae actif)
- Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol (gan gynnwys agweddau fel asesiadau lles disgyblion, darpariaeth gyffredinol a thargedig, lles staff, a gwrth-fwlio)
- Datblygiad Personol a Pherthnasoedd (gan gynnwys Addysg Rhyw a Pherthnasoedd)
- Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys agweddau megis meddyginiaethau, ysmygu, alcohol a chyffuriau)
- Amgylchedd (cysylltu â’r rhaglen Eco-Sgolion, Masnach Deg ac amgylchedd yr ysgol)
- Diogelwch (gan gynnwys agweddau megis diogelu, e-ddiogelwch, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y ffyrdd)
- Hylendid (gan gynnwys agweddau megis rheoli haint, hylendid y geg, golchi dwylo, hylendid toiledau, hylendid bwyd)
Agwedd Ysgol Gyfan
Er mwyn datblygu a sefydlu agwedd ysgol gyfan tuag at bob pwnc iechyd, eir i’r afael â’r agweddau canlynol:
- Arweinyddiaeth a Chyfathrebu – Polisi a gweithdrefnau, hyfforddi staff, cysylltu â mentrau lleol a chenedlaethol
- Cwricwlwm – Sicrhau bod adnoddau perthnasol yn cael eu defnyddio a’u cysylltu â chwricwlwm newydd Cymru, ynghyd â darpariaeth y tu allan i oriau
- Ethos ac Amgylchedd – Cynnwys llais a chyfranogiad y disgybl, cyfranogiad y staff ac amgylchedd sy’n cefnogi iechyd a lles
- Cynnwys Teuluoedd a’r Gymuned – cynnwys rhieni/gofalwyr/teuluoedd a llywodraethwyr, gan gysylltu â sefydliadau partner lleol
Mae gan bob ysgol yng Nghaerdydd Swyddog Ysgolion Iach dynodedig, sy’n cefnogi’n uniongyrchol cydlynwyr ym mhob ysgol i fynd ati i hyrwyddo ac ymgorffori’r pynciau allweddol hyn yng Nghymuned yr ysgol. Mae ysgolion yn symud ymlaen drwy’r cynllun drwy greu cynlluniau gweithredu a chwblhau achrediadau ar ddiwedd pob cam. Yna, mae ysgolion yn parhau â’u dilyniant drwy gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG). Mae’r GAG yn wobr fawreddog a asesir yn annibynnol, sy’n dathlu ymrwymiad ysgol i iechyd a lles ei disgyblion, staff a chymuned yr ysgol gyfan.
Sut mae’r Tîm Ysgolion Iach yn cefnogi ysgolion?
- Ymweliadau cymorth ag ysgolion er mwyn gweithredu cynllun o amgylch y 7 pwnc iechyd allweddol
- Cwblhau achrediadau camau lleol, lle mae ysgolion yn ennill plac cydnabyddiaeth.
- Gweithio gydag asiantaethau partner a chyfeirio ysgolion i gymorth perthnasol
- Darparu a hwyluso hyfforddiant staff ar amrywiaeth o bynciau iechyd.
- Datblygu adnoddau a phecynnau cymorth i helpu i gyflawni’r cwricwlwm
- Datblygu templedi polisi perthnasol
- Rhannu a benthyca adnoddau i gefnogi’r pynciau allweddol hyn
- Trefnu digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer ysgolion a sefydliadau partner
- Rhannu gwybodaeth drwy e-fwletinau, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol.
Os hoffai eich ysgol gael rhagor o gymorth gyda’r cynllun, cysylltwch â’ch swyddog ysgolion iach.
Gweithgareddau iechyd a lles yn y cartref ar gyfer teuluoedd
Dyma restr o adnoddau ac asiantaethau cefnogi a all helpu staff ysgol, disgyblion a rhieni/gofalwyr yn ystod y cyfnod hwn o hunanynysu gartref. Mae croeso i chi rannu a hefyd tagio Tîm Ysgolion Iach Caerdydd ar Twitter gydag unrhyw weithgareddau: @YsgolionIachCaerdydd
Adrannau
1. Gwefannau gyda gweithgareddau iechyd a lles
2. Hybiau Gwybodaeth Eraill
3. Cymorth Meddyliol ac Emosiynol i blant a phobl ifanc – gwefannau, llinellau ffôn, gwasanaethau testun
4. Gwasanaethau gwybodaeth a chymorth i rieni/gofalwyr
Cyfeiriadur i Gefnogi Addysg Perthynasoedd Iach
Mae timau Ysgolion Iach a Chwricwlwm am Oes Caerdydd yng Ngwasanaeth Addysg Caerdydd wedi datblygu cyfeirlyfr i helpu ysgolion gael cymorth a gwasanaethau yn gysylltiedig ag Addysg Perthnasoedd Iach.
Adnoddau i’ch Cynorthwyo i Siarad â’ch Plentyn am y Glasoed a Pherthnasoedd
Mae rhieni a gofalwyr ledled Cymru yn helpu eu plant i wneud gwaith ysgol o gartref ac mae hyn wedi bod yn adeg o ddysgu i lawer ohonom! Un agwedd sydd efallai heb gael ei meddwl amdani ar y dechrau yw helpu eich plentyn i ddysgu am dyfu i fyny a diogelwch personol.
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd wedi casglu rhai dolenni gwefannau ac awgrymiadau ar gyfer adnoddau ar-lein a all helpu rhieni/gofalwyr i gael gafael ar adnoddau perthnasol i gefnogi’r trafodaethau hyn.
Adnoddau Cynradd
Lawrlwythwch yr adnodd Cynradd yn Gymraeg (0.7mb PDF)
Lawrlwythwch yr adnodd Cynradd yn Saesneg (0.7mb PDF)
Adnoddau Uwchradd
Bocsys Bwyd Iach i Ni
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd i helpu myfyrwyr / rhieni / gofalwyr i baratoi pecynnau bwyd iach. Darperir y wybodaeth hon gan y bydd rhai ysgolion yn rhoi’r gorau i ddarparu prydau ysgol dros dro oherwydd COVID-19 a gall gwneud pecynnau cinio fod yn rhywbeth newydd i rai teuluoedd.
Gwefannau ac Appiau Defnyddiol
Gallai cymuned yr ysgol gyfan sef staff, myfyrwyr a rhieni/gofalwyr gael budd o edrych ar rai o’r gwefannau a argymhellir ac appiau defnyddiol. Efallai y bydd myfyrwyr yn hoffi gwneud ymchwil a chreu taflen wybodaeth ar gyfer eu hysgol, fel gweithgaredd cartref/ysgol
Bocsys Bwyd Iachach ‘Newid am Oes’
www.nhs.uk/change4life/recipes/healthierlunchboxes
Mae gan y wefan ddelweddau da o syniadau bocs bwyd. Mae’n cyfeirio at y Canllaw Bwyta’n Dda ac yn annog teuluoedd i ddewis un delwedd prif bryd, ychwanegu ffrwythau neu salad, rhywbeth bach arall, a hefyd diod. Mae enghreifftiau difyr e.e. ‘bytholwyrdd’, pob amser ychwanegu salad at frechdanau, gan ei fod yn cyfrif at un o 5 Y DYDD eich plentyn. ‘Newid y bariau ffrwyth’, ‘newid y losin’, ‘gwyliwch y dannedd!’.
App Sganio Bwyd ‘Newid am Oes’
Dysgwch faint o siwgr, braster dirlawn, halen a chalorïau sydd mewn bwyd a diodydd.
Dewch o hyd i god bar bwyd neu ddiod a’i sganio i weld beth sydd tu fewn. Mae hefyd yn cynnig dewisiadau byrbryd iachach y gallech eu gwneud. Ar ôl i chi lawrlwytho’r app gallwch ei ddefnyddio gartref neu wrth siopa am eitemau sydd i fod yn rhan o focs bwyd.
Sefydliad Maeth Prydain – Bwyd un o Ffeithiau Bywyd
www.foodafactoflife.org.uk
Gwefan wych ag adnoddau ar fwyta’n iach yn gyffredinol, Y Canllaw Bwyta’n Dda a bocsys bwyd ach. Yn cynnwys stori ac adnoddau ‘Y Bocs Bwyd Rhyfeddol’.
Veg Power
vegpower.org.uk
Os hoffech annog eich plentyn i fwyta mwy o lysiau, gweler y wefan Veg Power UK lle ceir gweithgareddau a ryseitiau y gellir eu lawrlwytho
Ystyriaethau Hylendid
Cyngor defnyddiol ar gadw eich bocs bwyd yn lân ac oer:
- Golchwch eich dwylo cyn gwneud y bocs bwyd
- Golchwch ffrwythau a llysiau
- Glanhewch a sychwch eich bocs bwyd yn gywir bob dydd.
- Os byddwch yn paratoi brechdanau / bwyd y noson gynt, storiwch nhw mewn oergell dros nos.
- Os yw’n bosibl, defnyddiwch fag bwyd wedi’i inswleiddio a’i gadw’n lân â chwistrell gwrthfacterol
- Defnyddiwch becynnau iâ neu botel o ddŵr wedi’i rewi
- Cofiwch gadw’r bocs bwyd yn oer yn yr ysgol; sicrhewch ei fod yn cael ei gadw’n rhywle i ffwrdd o reiddiaduron ac ardaloedd cynnes/heulog.
- Rhaid i blant ddilyn canllawiau’r ysgol ar gyfer COVID-19 wrth fwyta eu pecyn cinio yn yr ysgol e.e. golchi dwylo cyn bwyta a pheidio â rhannu bwyd
Ryseitiau
- Colslô crensiog
- Salsa tomato smyl
- Sgonau Caws a Pherlysiau
- Pizzas hawdd
- Myffins ffrwythau a rhai sawrus
- Fflapjacs crymbl ffrwythau
- Potiau teisen gaws a ffrwythau
- Tortilla iachus
- Sglodion tortilla cartref
- Pizzas maint fi
- Salad cwscws yr enfys
- Salad pasta heulog
Gwych bod Coginio Gyda’n Gilydd Cymru’n creu fideos ar sut i wneud ystod o’r ryseitiau hyn. Bydd y fideos hyn ar gael ar wefan Coginio Gyfa’n Gilydd Cymru: www.cookingtogether.co.uk/healthylunchboxes a gallwch fynd i dudalen Facebook ‘Coginio Gyda’n Gilydd Cymru’ a’u ffrwd Twitter (@cook_together1). Bydd tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn hyrwyddo’r fideos ar ein tudalen Twitter @CdfHealthySch – Tagiwch ni gydag unrhyw luniau o ryseitiau ar y cyfryngau cymdeithasol!
Taflenni
Ysgolion Iach Caerdydd – Bocsys Bwyd Iach i Ni (Cynradd)
Ysgolion Iach Caerdydd – Bocsys Bwyd Iach i Ni (Uwchradd)
Taflen Bocs Bwyd ‘Newid am Oes’ (pdf 0.5mb)
Welsh Government Healthy Lunchbox leaflet 2019
Mae taflen A4 Llywodraeth Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n cysylltu â’r Canllaw Bwyta’n Dda a labelu bwyd. Gellir rhannu hon gyda’r gymuned ysgol gyfan.
Mae Tîm Ysgolion Iach Caerdydd yn rhan o Wasanaeth Addysg y Cyngor, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (CYIRhC). Lansiwyd CYIRhC yn 1999 ac ‘Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cydnabod bod y CYIRhC yn chwarae rôl allweddol yn hyrwyddo iechyd plant a phobl ifanc’.