Pan ddechreuon ni ar ein taith i fod yn “ddinas sy’n dda i blant”, gwnaethom ofyn i blant a phobl ifanc beth roedden nhw’n meddwl y dylai ein blaenoriaethau fod. Un o’r meysydd roedden nhw eisiau i ni ganolbwyntio arno oedd addysg, felly aethom ati i wneud yn siŵr bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad i addysg o safon uchel sy’n hyrwyddo eu hawliau ac yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u doniau i’r eithaf.
Un o’r llawer o ffyrdd y ceisiwyd cyflawni hyn oedd trwy weithio gydag UNICEF i gefnogi ysgolion a gynhelir i ymuno â Gwobrau Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF a rhoi hawliau plant wrth wraidd eu cymunedau.
Mae tri cham i’r Wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau: Efydd (Wedi ymrwymo i Hawliau), Arian (Yn Ymwybodol o Hawliau) ac Aur (Yn Parchu Hawliau). Drwy gydol ein taith mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi dod o hyd i gyfleoedd ariannu niferus i dalu am hyfforddiant ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu ac yn gynnar yn 2022, sicrhaodd Cyngor Caerdydd gyllid i dalu cost tanysgrifio holl ysgolion Caerdydd gan roi cyfle cyfartal iddynt gymryd rhan!
Ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru a Lloegr i ariannu’r Wobr hon yn ganolog!
Rydym wedi gweld llawer o gynnydd ers i ni ddechrau. Yn 2018 pan lansiwyd y rhaglen Caerdydd sy’n Dda i Blant, roedd yna:
- 2 Ysgol Aur
- 2 Ysgol Arian
- 16 Ysgol Efydd
Ym mis Hydref 2023, roedd gan Gaerdydd:
- 18 Ysgol Aur
- 33 Ysgol Arian
- 45 Ysgol Efydd
Gyda’i gilydd mae pobl ifanc a chymunedau ysgolion ar draws y ddinas yn dysgu am hawliau plant ac yn eu rhoi ar waith bob dydd. Yn ogystal â chydnabod yr hyn y mae plant yn ei wneud, mae’r wobr hefyd yn cydnabod yr hyn mae oedolion yn ei wneud, sy’n bwysig. Mewn Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, caiff hawliau plant eu hyrwyddo a’u gwireddu, ac mae oedolion a phlant yn gweithio tuag at y nod hwn gyda’i gilydd.
Mae pedwar maes allweddol o effaith i blant mewn Ysgol sy’n Parchu Hawliau; lles, cyfranogiad, perthnasoedd a hunan-barch.
Mae’r gwahaniaeth y mae Ysgol sy’n Parchu Hawliau yn ei wneud yn mynd y tu hwnt i gatiau’r ysgol, gan gael effaith gadarnhaol ar y gymuned gyfan.
- Mae plant yn iachach ac yn hapusach
- Mae plant yn teimlo’n ddiogel
- Mae gan blant well perthnasoedd
- Mae plant yn dod yn weithgar ac yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol a’r byd ehangach
Dysgwch fwy am effaith y wobr yma.
Os nad yw eich ysgol wedi cofrestru, neu os ydyw ond nad oeddech yn gwybod, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn CaerdyddSynDdaIBlant@caerdydd.gov.uk