Nid oedd Pysgotferch eisiau gadael yr alarch-forwyn ar ben ei hun y noson honno, ond roedd hi’n gwybod bod ei theulu yn dechrau bod yn amheus. Roedd sibrydion wedi bod. Roedd Rhedwr wedi dweud bod Pysgotferch yn dod â llai o bysgod yn ôl ond ei bod hi i ffwrdd am hirach. Roedd mam Pysgotferch wedi dechrau awgrymu efallai ei bod wedi colli ei dawn gyda’r waywffon ac efallai y byddai’n fwy defnyddiol iddi h ofalu am y plant.
Felly aeth Pysgotferch yn ôl at y tân. Eisteddodd gyda’i theulu wrth i’r lleuad godi yn yr awyr. Arhosodd hi – roedd yn teimlo fel oes – nes i bob un ohonynt ddechrau syrthio i gysgu. Yn araf, pan roedd hi’n siŵr mai hi oedd yr unig un ar ddihun, cododd hi ar draed tawel a mynd i ffwrdd o’r tân tuag at lan y llyn.
Roedd yr elyrch yno yn barod erbyn iddi gyrraedd. Roedden nhw wedi dadwisgo eu plu ac yn dawnsio unwaith eto, yn llawn llawenwch, ac yn eu plith dawnsiai’r alarch-forwyn ifanc. Edrychodd yn fwy llawen nag a fu am amser hir iawn, a gwyliodd Pysgotferch a’i chalon yn torri. Gwyliodd hi drwy’r nos, nes i’r haul ddechrau codi, a gwnaeth yr alarch-forwynion eu ffordd i’r plu oedd wedi’u pentyrru ar y lan. Ac fel yr oeddyn nhw’n mynd, gafaelodd yr alarch-forwyn ifanc yn nwylo pob un, a llefain, a roedden nhw’n crio hefyd, a chriodd Pysgotferch gyda nhw gan wybod mai hi a achosodd eu poen nhw. Ac o’r diwedd gadawodd yr elyrch eraill eu chwaer ar y lan a nofio fel elyrch yn ôl i ganol y llyn, ac fel y gwnaethon nhw hwn, clywodd Pysgotferch sŵn ofnadwy, sŵn a danfonodd iâs i lawr ei chefn hi –
Cri anferthol, ac yno, yn codi o’r llwyni o amgylch glan y llyn, daeth gwaywffyn a saethau yn hedfan drwy’r awyr, a’r elyrch yn codi i ffwrdd o’r dwr mewn panig mawr o blu gwyn. Teulu Pysgotferch ydoedd. Sylweddolodd gydag arswyd nad oedd hi wedi bod mor ofalus ag yr oedd hi wedi meddwl, oherwydd dyna lle roedd Rhedwr, yn gwenu fel ffŵl.
“Felly dyma dy gyfrinach!” roedd yn dweud. “Oeddet ti’n mynd i’w cadw nhw i gyd i ti dy hun?”
Mae’n rhaid ei fod e wedi ei dilyn hi, ac wedi dod â’i theulu hi gydag ef, er mwyn hela’r elyrch.
“Stopiwch!” Roedd Pysgotferch yn sgrechian. “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n ei wneud!”
Ond roedd yr elyrch wedi hen ddiflannu, yn hedfan tuag at yr haul, curiadau eu hadenydd yn atseinio â phanig newydd, a’r alarch-forwyn wedi diflannu i’w nyth yn y gors.
Ni lwyddodd teulu Pysgotferch i ddal yr un alarch y bore hwnnw, ac yn araf deg, dychwelodd yr helwyr i lan y tân. Arhosodd y ferch nes eu bod nhw i gyd wedi mynd. Yna aeth hi i chwilio’r cyrs am yr alarch-forwyn.
Daeth o hyd iddi yn y diwedd, wedi’i chyrlio yn y rhan ddyfnaf, fel pe bai’n ceisio dod yn rhan o’r llyn.
“Paid â chrio,” meddai Pysgotferch wrthi. “Bydd popeth yn iawn. Byddai’nd dy helpu. Fi yw dy ffrind.”
Ond nid oedd yr alarch-forwyn am wrando arni.
Tan o’r diwedd cododd ei llygaid melyn a dweud yn glir, “Fyddan nhw byth yn dod yn ôl.”
Nid oedd Pysgotferch erioed wedi ei chlywed yn siarad fel hyn o’r blaen. Ond roedd hi’n gwybod yn union beth roedd angen iddi ei wneud.
“Dere gyda fi,” meddai.
Cymerodd yr alarch-forwyn gerfydd ei llaw a’i harwain at y goeden wag. Estynnodd i’w chalon dywyll a thynnu plu’r alarch ohono. Roedden nhw mor wyn a disglair â’r noson roedd hi wedi’u dwyn nhw. Rhoddodd hi nhw yn nwylo’r ferch.
Ac yn olaf, dyma Pysgotferch yn edrych ar ei ffrind, i fewn i fyw ei llygaid hi. “Dylwn i byth fod wedi ei wneud,” meddai. “Ond roeddwn i mor unig. A roeddwn i eisiau i ti fod yn ffrind i mi.”
Roedd llygaid melyn y ferch yn llawn llawenwch. Daliodd ei phlu yn dynn. Ac yn sydyn roedd hi wedi tynnu i ffwrdd o Pysgotferch a roedd hi’n rhedeg i lawr i lan y llyn. Tynnodd ei phlu ymlaen. Daeth yn alarch unwaith yn rhagor. Plymiodd i’r dwr, a sgidio ar draws wyneb y llyn, cododd i’r awyr, a hedfanodd i mewn i’r haul, i ymuno â’i chwiorydd.
Gwyliodd Pysgotferch hi’n mynd.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ei thro hi i adael oedd hi. Roedd angen i’w theulu symud i dir uwch cyn i stormydd y gaeaf lyncu’r wlad hon unwaith yn rhagor. Roedd hi’n gwybod na fyddai hi byth yn gweld yr alarch-forwyn eto. Ond roedd hi’n gallu ei chofio. Yn ystod misoedd hir y gaeaf, wedi’i chwtsio o amgylch tân ei theulu, byddai’n dwyn ychydig eiliadau iddi’i hun trwy gau ei llygaid a dychmygu golau’r lleuad ar blu gwyn, a dychmygu ei hun yn dawnsio gyda’r elyrch, yn nosweithiau’r haf, wrth y llyn.
Achos mae diweddglo hapus i’r stori hon, er gwaethaf popeth. Yn y diwedd daeth yr elyrch yn ôl i’r lle hwn. Dyna pam rydym ni’n galw’r parc hwn yn Barc Tredelerch. Ac fel rwyt ti’n gwbod, mae Pysgotferch yma o hyd, hefyd, yn sefyll uwchben y dŵr, yn barod i ddal pysgodyn gyda’i gwaywffon. Ac efallai yn awr, pan fydd tywyllwch yn disgyn, mae’r elyrch ar y dŵr yn nofio am y lan, ac yn tynnu eu plu i ffwrdd, a dawnsio, ac efallai mae gymaint o amser wedi pasio erbyn hwn fel bod popeth wedi cael ei faddau, a mae Pysgotferch yn gallu ymuno â nhw, a gallai hi ddawnsio hefyd.