Arhosodd hi wrth lan y llyn i’r elyrch lanio ar y dŵr, ac iddyn nhw wneud eu ffordd i’r lan, i’r plu ddod i ffwrdd a’r ddawns i ddechrau. Ac yna, wrth i’r ddawns gyrraedd ei phwynt uchaf, dyma’r ferch yn cropian tuag at y goeden helyg. Penliniodd i lawr, estynnodd am y plu alarch a berthynai i’r alarch-forwyn ifanc. Caeodd ei bysedd ar rywbeth hynod o feddal, rhywbeth a oedd fel petai ganddo fywyd ei hun. Cyn iddi allu newid ei meddwl, dyma’r ferch yn dwyn plu’r alarch.
Aeth â nhw at goeden wag, yn agos at lan y llyn, a phlygu’r plu i fewn i’r gofod tywyll tu fewn. Ac yna aeth yn ôl i lan y llyn i aros, ei chalon yn curo’n galed, i’r haul godi.
Wrth i’r noson ddod at ei diwedd, a’r llyn goleuo’n araf gan lewyrch pinc meddal yr haul yn codi, gorffennodd yr alarch-forwynion eu dawns. Aethon nhw i lawr at lan y llyn, fel bob tro, a thynnu eu plu ymlaen. Arhosodd Pysgotferch. Gwelodd yr alarch-forwyn ifanc yn gwneud ei ffordd at y goeden helyg. Gwelodd hi’n ymestyn am y plu nad oedd yno. Gwelodd ei phanig a’i ofn yn dechrau tyfu.
Oherwydd roedd yr haul yn codi a’r elyrch yn gorfod gadael. Roedden nhw i gyd allan ar y llyn nawr, yn aros am eu chwaer, ond doedd hi ddim yn gallu ymuno â nhw. Sgrialodd yr alarch-forwyn ifanc o gwmpas mewn ofn a braw, gan weiddi a schrio am ei chwiorydd, a’r dŵr yn berwi gyda fflapio gwyllt eu hadenydd, ond wrth i’r haul wenu’n euraidd ar y gorwel, doedd ganddyn nhw ddim dewis. Gyda llawer o wichian o dristwch, codon nhw i’r awyr, a churiadau eu hadenydd yn diflannu i’r pellter wrth iddynt hedfan tuag at yr haul.
A gadawyd yr alarch-forwyn ifanc gyda’i gwallt gwyn ar lan y llyn ar ben ei hun, ei dagrau yn cymysgu â dwr y llyn.
Dyna pryd y daeth Pysgotferch ati.
“Dwi mor sori bod dy ffrindiau dy adael chi,” meddai.
Neidiodd yr alarch-forwyn mewn braw a dechreuodd symud i ffwrdd ohoni, gan hisian ag ofn. Rhoddodd Pysgotferch ei gwaywffon i lawr a dal ei dwylo lan. “Wna i ddim dy frifo. Dwi am dy helpu.”
Stopiodd yr alarch ac edrychodd ar Pysgotferch gyda llygaid mawr melyn.
“Dw i am fod yn ffrind i ti,” meddai Pysgotferch iddi. “Rwy’n unig hefyd.”
Ac felly daeth y ferch yn ffrind i’r alarch-forwyn. Gwnaeth y pethau roedd hi’n meddwl y byddai un ffrind yn ei wneud i ffrind arall. Daeth â bwyd i’r alarch-forwyn, coginio pysgod yr oedd hi wedi’u smyglo o ochr tân ei theulu, a chroen anifail i’w chadw’n gynnes heb ei phlu. Siaradodd â hi, dechreuodd ei dysgu hi sut i siarad, oherwydd roedd yr alarch-forwyn yn gallu gwneud synau alarch ond nid oedd ganddi unrhyw eiriau o iaith Pysgotferch. Daeth i’w gweld hi ar lan y llyn pryd bynnag y gallai. Roedd yr alarch-forwyn wedi plethu nyth i’w hun ymhlith y llwyni ar cyrs ar lan y llyn, ac yno wnaeth i aros, wedi’i chyrlio lan, yn dawel ac yn drist, ond daeth Pysgotferch i lawr yno i bysgota a byddai’n ei thynnu hi o’r nyth a dangos iddi sut i ddefnyddio gwaywffon, a dangos hefyd pa aeron a ffrwythau oedd yn dda i’w bwyta a’r madarch nad oedd yn dda. Ac yn araf deg stopiodd yr alarch-forwyn i neidio mewn braw pan welodd hi’r ferch, a daeth hi’n yn llai ofnus ohoni hi, a dym Pysgotferch yn teimlo yn sicr eu bod nhw, yn awr, yn ffrindiau go-iawn, a llenwodd ei chalon â hapusrwydd. A thrwy gydol yr amser pan oedden nhw’n ffrindiau, roedd dyddiau’r haf yn tyfu’n fyrrach ac yn oerach, ac roedd yr hydref yn mynd i ddod. A thrwy gydol yr amser hwnnw, roedd Pysgotferch yn gwybod y bydd ei theulu, yn fuan, yn symud i dir uwch ar gyfer y gaeaf. Roedd hi’n pendroni os oedd yna ffordd y gallai ddod â’r alarch-forwyn gyda hi. A oedd yna ffordd i’w ei grŵp teuluol dderbyn merch a oedd yn edrych mor wahanol iddynt, a oedd yn hisian pan oedd yn ofnus, a dim ond ychydig eiriau o’u hiaith oedd ganddi hi?
Un diwrnod, dyma’r ferch yn cropian i ffwrdd â’i gwaywffon, yn esgus chwilio am bysgod, i ddod â mwclis i’r llyn ar gyfer yr alarch-forwyn. Roedd Pysgotferch yn teimlo’n hapus iawn, roedd hi’n gyffrous cael gweld ei ffrind. Roedd hi wedi creu’r mwclis o ddarnau pren wedi’u sgleinio, ac wedi’u staenio nhw â sudd aeron, a roedd hi wedi bod yn gweithio arno’n gyfrinachol i’w roi i’r alarch-forwyn, gan deimlo’n sicr y byddai’n dod â gwên i’w hwyneb, oherwydd nid oedd Pysgotferch erioed wedi ei gweld hi’n gwenu, nid ers y noson roedd hi wedi cymryd ei phlu alarch. Roedd hi mor wahanol nawr i’r ferch lawen oedd wedi dawnsio yng ngolau’r lleuad gyda’i chwiorydd alarch.
Daeth Pysgotferch ar draed tawel i lan y llyn, gan obeithio roi syrpreis i’r alarch-forwyn yn ei nyth hi, ond pan gyrhaeddodd y llyn, synnwyd hi wrth ddod o hyd i’r ferch yn eistedd yno, allan ar y lan.
“Allet ti ddim eistedd yma, hebdda i’n cadw golwg mas,” meddai, “efallai y bydd rhywun o fy nheulu yn dy weld di, ac yn ymosod arnat ti. Cer yn ôl i dy nyth tan iddi nosi.”
Ond ni symudodd yr alarch-forwyn a sylweddolodd Pysgotferch yn sydyn pa mor welw yr oedd hi. Nid oedd hi’n edrych fel y ferch y bu hi ychydig wythnosau yn ôl, pan roedd Pysgotferch wedi cymryd ei phlu. Roedd hi’n sâl. Roedd ei chroen yn hongian oddi wrth ei chorff. Roedd ei llygaid yn ddwfn yn ei hwyneb a chylchoedd tywyll oddi tano nhw. Roedd pob ran ohoni hi’n edrych yn drist ofnadwy.
A sylweddolodd Pysgotferch ei bod hi wedi gwneud rywbeth ofnadwy.