Roedd yn anodd i’r ferch gadw ei llygaid ar agor yn ystod y dyddiau nawr. Roedd hi’n treulio bob noson ar lan y llyn, yn gwylio’r alarch-forwynion yn dawnsio, wedi’i chuddio yn nyfnder y llwyni, gan hiraethu yn fwy na dim am gael ymuno gyda nhw. Dechreuodd eu hadnabod – roedden nhw i gyd yn wahanol – rhai’n hŷn, rhai’n iau – ond pob un rhywsut yn alarch ac yn fenyw ar yr un pryd, gyda’u gwallt gwyn a’u llygaid melyn llachar. Roedd hi’n eu gwylio nhw’n dawnsio ac weithiau’n dynwared eu symudiadau. Roedd hi’n gwybod bod gan bob un ohonyn nhw ei phlu ei hun, a byddai bob amser yn gwisgo’r un rhai unwaith eto pan ddaeth y ddawns i ben. Roedd hi’n gwybod, hefyd, sut fydd hi’n teimlo pan fyddai’r elyrch wedi troi’n adar unwaith eto ac wedi hedfan tuag at yr haul: fel petai ei chalon wedi torri, bob tro – ac hefyd sut y byddai’r diwrnod a ddilynodd yn teimlo’n llwyd ac yn ddibwrpas, yn wastraff amser, yn rhywbeth i’w gwastraffu nes daeth y nos unwaith eto, a gallai hi gropian i ffwrdd a’u gweld nhw eto.
Roedd y ferch dal yn pysgota, i lawr yn y ffosydd a’r afonydd. Roedd hi’n gwybod bod yn rhaid iddi ddod â physgod adref i’w theulu, neu bydden nhw’n amau bod rywbeth o’i le. Ac ar nifer o weithiau, roedd hi wedi bod yn breuddwydio yn y brwyn ar lan y llyn ac yn cael ei deffro gan Rhedwr yn ei phrocio hi. “Pysgotferch! Beth sy’n bod arnat ti?”
Mwy a mwy, roedd Pysgotferch yn dymuno cael gadael ei theulu ac ymuno â’r alarch-forwynion. Doedd hi ddim yn siŵr beth oedd yn ei denu cymaint atyn nhw, ond roedden nhw’n ymddangos mor llawen, rhywsut. Mor rhydd, yn dawnsio yng ngolau’r lleuad, heb ofn creaduriaid nos yr oedd hi a’i theulu yn eu hofni. A dymunodd y ferch gael hedfan gyda nhw, i ble bynnag yr oedden nhw’n mynd pan gododd yr haul. Dyma lle oedd hi, yn sownd ar y ddaear, yn stompio o amgylch ar ei dwy droed noeth, pan allai eu hadenydd fynd â nhw i unrhyw le.
Roedd yna un alarch-forwyn y dechreuodd Pysgotferch wylio’n agosach na’r lleill. Hi oedd yr ieuengaf, meddyliodd y ferch, ac roedd ganddi un streipen dywyll
yn ei gwallt gwyn. Roedd hi bob amser yn gosod ei phlu alarch wrth ymyl coeden helyg a dyfodd o lan y llyn – efallai y gallwch chi ei gweld nawr?
Roedd Pysgotferch yn meddwl ei bod hi a’r alarch tua’r un oedran yn ôl.
Roedd hi’n meddwl, tybed a fydden nhw’n gallu bod yn ffrindiau. Ond petai hi’n camu i ganol yr elyrch yn dawnsio, roedd hi’n gwybod rhywsut na fyddai croeso iddi. Bydden nhw siwr o fod yn gwasgaru i’r llyn yn syth, yn tynnu eu plu ymlaen, yn hisian arni ac yn cymryd i’r awyr, ac efallai na fyddai hi byth yn eu gweld eto.
Ond roedd hi’n dyheu am gael siarad â’r alarch ifanc. I edrych arni, i fod yn ffrind iddi.
Ac un noson, penderfynodd Pysgotferch wneud i hynny ddigwydd.