Nid oedd y ferch erioed wedi bod i ffwrdd o’r grŵp gyda’r nos. Cysgodd pawb yn agos at ei gilydd, yn cwtshio’n agos at olau’r tân, i’w hamddiffyn. Roedd yna fleiddiaid ac eirth y dyddiau hynny, yn ogystal â grwpiau eraill o bobl a allai fod yn beryglus. Creodd y tân gylch o olau a chynhesrwydd, diogelwch, ac yn y golau roedd teulu Pysgotferch yn cysgu. Ond ni wnaeth y ferch gysgu y noson honno. Arhosodd hi’n effro nes bod pawb arall wedi mynd yn araf, yn ysgafn, i gysgu. Tan y cwbl allai hi ei glywed oedd swn eu hanadl, yn ddwfn ac yn wastad, a swn y nos tu draw, ac oddi tano, yn ddigon agos fel y gallai redeg ato, swn y dwr yn lapio ar lan y llyn.
Yn dawel, mor dawel ag y gallai, cododd Pysgotferch. Daeth hi allan o olau’r tân. Am eiliad, roedd hi’n disgwyl i flaidd ei llyncu. Roedd hi’n gallu clywed curiad ei chalon ei hun yn curo yn ei brest mor uchel fel ei bod yn siŵr y byddai’n deffro rhywun arall. Yn araf, mor araf, anadlodd hi nes iddo setlo.
Estynnodd am ei gwaywffon, fel y bydd ganddi rywbeth i amddiffyn ei hun ag ef. A gadawodd y ferch y golau tân a’i theulu a cherdded i’r tywyllwch.
Ond nid oedd hi’n dywyllwch go-iawn. Roedd y lleuad yn disgleirio mor llachar o’r awyr glir uwchben fel y gall y ferch weld ei ffordd bron mor hawdd ag yn ystod y dydd. Roedd y llwybrau roedd hi’n eu hadnabod mor dda i’r llyn yn edrych yn rhyfedd yng ngolau’r lleuad, ond roedd ei thraed yn gwybod y ffordd. Cydiodd yn ei gwaywffon yn dynn am ddewrder. Cerddodd hi, y ddaear yn sugno ac yn bownsio’n wlyb o dan ei thraed noeth.
A dyna lle yr oedd, o’i blaen hi, y llyn, yn llyfn o dan y lleuad, yn disgleirio â’r un goleuni ariannaidd. Roedd hi wedi bod yn iawn: roedd hi’n lle hudolus yn y nos. Suddodd i lawr ar y lan. Roedd ganddi oriau. Gallai hi fod yma mor hir ag y mynnai.
Eisteddodd Pysgotferch wrth y llyn wrth i’r lleuad godi i’w man uchaf yn yr awyr, wrth i’r sêr ddod allan fesul un, a gwyliodd y dŵr a golau’r lleuad a byddai hynny wedi bod yn ddigon iddi. Ond yna clywodd hi – araf a chyson – ar y dechrau dim ond sibrwd ar y gwynt, ond yn tyfu’n gryfach ac yn gryfach – sŵn curiadau adenydd yn yr awyr. A phan edrychodd i fyny tua’r awyr, gwelodd nhw wedi’u hamlinellu yn erbyn y lleuad, elyrch yn hedfan, yn wyn pur ac wedi’u goleuo gan olau’r lleuad, a daethant i lawr i lanio ar y dŵr, gan lithro ar yr arwyneb a thaflu lan tonnau mawr a lapiodd y lan lle eisteddai’r ferch.
Gwyliodd hi nes bod yr alarch olaf wedi glanio ac yna cododd ei gwaywffon uwch ei phen. Fydd hi’n beth da i ddod ag alarch i lawr. Os oedd hi’n anelu’n dda, gallai dynnu un i lawr, a nofio allan iddo, a mynd ag ef yn ôl at ei theulu. Ni fyddai neb yn gofyn ble roedd hi wedi bod pe bai’n mynd ag alarch yn ôl gyda hi. Byddai’n gwneud pryd o fwyd arbennig i bawb.
Ond wrth iddi dynnu ei braich yn ôl, ei chyhyrau’n tynhau’n barod i daflu, gwnaeth yr elyrch rywbeth rhyfedd iawn. Trodd pob un ohonyn nhw, fel pe bai’n ymateb i’r un neges, a dechrau nofio tuag at y lan bell. Wrth gyrraedd y lan, dyma nhw’n dringo o’r dŵr. Ac fel y gwnaethant, digwyddodd y peth rhyfeddaf. Dechreuodd pob un o’r elyrch dynnu ei phlu i ffwrdd, a’u gosod mewn pentyrrau disglair ar lan y llyn. Ac islaw’r plu, merched oedden nhw, a roedden nhw’n dawnsio gyda’i gilydd ar lan y llyn yng ngolau’r lleuad. Roedd ganddyn nhw wallt gwyn hir a oedd yn disgleirio yn ngolau’r lleuad yr un ffordd â’r plu roedden nhw’n ei wisgo. Roedden nhw’n dawnsio gyda llawenwch nad oedd Pysgotferch erioed wedi’i weld o’r blaen, ac wrth iddyn nhw ddawnsio, cropiodd hi’n nes ac yn nes, prin y gallai anadlu, yn hiraethu i gael bod yn rhan o’r ddawns lawen honno, oherwydd ni fu erioed wedi gweld hapusrwydd tebyg iddo.
Ni wyddai pa mor hir y parhaodd y ddawns. Efallai ei bod hi’n noson, neu efallai ei bod hi’n gannoedd o nosweithiau, oherwydd roedd gwylio’r merched alarch yn dawnsio fel bod mewn breuddwyd nad ydych chi byth am ei diwedd.
Ond daeth y ddawns i ben, yn union fel y dechreuodd pelydrau cyntaf yr haul ymddangos i’r dwyrain a’r lleuad wedi cwblhau taith ei nos ac yn suddo yn yr awyr. Aeth yr alarch-forwynion at eu plu ar lan y llyn, a thynnodd pob un ohonyn nhw y plu ymlaen eto, ac fel y gwnaethon nhw, roedden nhw’n chwerthin a chlebran, ac o’r diwedd, elyrch oedden nhw unwaith eto a chodon nhw ac hedfan tuag at yr haul yn codi ar y gorwel, curiadau eu hadenydd yn mynd yn dawelach ac yn dawelach.
Aeth Pysgotferch yn ôl at ei theulu, ei chalon yn llawn tristwch nad oedd hi yn eu plith nhw. Roedd hi’n gwybod y byddai’n dod yn ôl at y llyn, i wylio am yr alarch-forwynion, bob nos roedd ei theulu yn aros yn y lle hwn.