Amser maith yn ôl, dechreuodd y bobl gyntaf a gerddodd y ddaear deithio i’r lle hwn. Daethon nhw yn ôl ac ymlaen, wrth i’r iâ gilio a dychwelyd, wrth i’r môr godi a disgyn. Pryd bynnag y byddai tir yma, dyma nhw’n dod, a phan lyncwyd y wlad unwaith eto gan y môr, byddent yn ymadael ac yn mynd i dir uwch. Pobl oedd yn cario eu bywydau gyda nhw oedden nhw, ac yn mynd â’u hanifeiliaid a’u cartrefi a’u teuluoedd, ac yn teithio i ble roedd y llanw’n mynd â nhw, ble roedd y tir yn ffrwythlon, a ble roedd bwyd ar gael.
Dyna sut y daeth y bysgotferch i fod yma. Roedd ei theulu wedi bod yn dod i’r lle hwn ers miloedd o flynyddoedd. Hyd yn oed pan oedd y môr yun rhy uchel a’r lle hwn yn gefnfor a doedden nhw ddim yn gallu teithio yma, roedden nhw’n dal i adrodd straeon am y lle hwn. Roedd yn lle arbennig, medden nhw. Man lle roedd y tir yn ffrwythlon ac yn llawn bywyd, lle gallech chi hela. Fe allech chi fynd â;ch gwaywffon a’i phlymio i mewn i’r pridd gwlyb, corsiog, a thynnu lan digon o bysgod i fwydo teulu mewn ychydig funudau.
Dyna hi: wyt ti’n gallu ei gweld hi? Wyt ti’n gweld pa mor graff yw ei llygaid hi? Sut mae hi’n gwybod yn union ble i sefyll, traed wedi’u plannu’n gadarn ar y pridd llaith, a sut i syllu i’r dŵr oddi tani hi. Sut mae hi’n gadael i’w hun freuddwydio ychydig, yn gadael i’w meddwl lithro, ac yna mae’n ei weld, y fflach ariannaidd o dan yr wyneb, ac mae hi’n symud fel mellten yn pasio ar draws yr awyr, neu fel aderyn sy’n plymio o dan arwyneb y dwr, ac mae’n suddo ei gwaywffon i’r dyfnder ac yn codi rhywbeth sgleiniog a disgleiriog: pysgodyn tew ar gyfer cinio ei theulu.
Y Bysgotferch hon oedd y pysgotwr gorau yn ei theulu hi. Dyna sut gafodd hi ei henw hi: Pysgotferch. Ac yr oedd yn dda ei bod hi mor dalentog am bysgota, gan ei bod yn cyrraedd yr oedran pan oedd ei theulu am iddi hi ofalu am y plant llai, ac yn lle gwneud hwn, y gallai lithro i ffwrdd gyda’i gwaywffon a neb yn gofyn pa,m. Roedd hi mor gyflym am ei physgota fel, yn aml, byddai’n cael dal digon mewn awr neu ddwy, ac yn gallu treulio gweddill y dydd ar ei phen ei hun.
Pan ddaeth ei theulu yma dros fisoedd yr haf, rhwng y gaeafau pan oedd y môr yn uchel, cerddodd Fisher Girl y llwybrau a arferai fod yma, lle rydych chi’n sefyll nawr. Daeth i adnabod y mannau lle’r oedd y gors yn ddwfn ac yn drwchus ac yn llawn pysgod. Daeth at y llyn hwn cyn ei fod yn llyn ar hyd y flwyddyn, a chafodd eiliadau tawel i eistedd wrth ei ymyl a bod ar ei phen ei hun. Roedd y ferch yn dyheu am y tawelwch, yn dyheu am fod i ffwrdd oddi wrth ei theulu a’u grŵp, y rhai oedd yn teithio gyda nhw.
Roedd un yn arbennig yr oedd hi bob amser yn ceisio ei osgoi. Fe oedd Rhedwr, y Rhedwr cyflymaf oll, ychydig flynyddoedd yn hŷn na Pysgotferch. Roedd yn hoffi’r ferch yn fwy nag yr oedd hi’n ei hoffi fe, ac roedd e bob amser yn
ceisio ei dilyn pan gymerodd ei gwaywffon a mynd i ffwrdd oddi wrth weddill y grŵp. “Ble ti’n mynd?” byddai’n dweud. “Gad i mi ddod gyda ti.”
Weithiau, roedd y ferch yn gallu llithro i ffwrdd cyn i Rhedwr sylweddoli. Ond roedd e’n gyflym. Roedd yna ormod o weithiau pan, gan feddwl ei bod ar ei phen ei hun, byddai’n rhoi ei gwaywffon i lawr ar ôl llenwi ei basged o bysgod ac eistedd i lawr ar lan y llyn i fwynhau ei chwmni ei hun, ac yna bydd e’n troi i fyny o’r llwyn neu o du ôl i goeden.
“Dyfala pwy?” Byddai Rhedwr yn dweud, a byddai Pysgotferch yn rholio ei llygaid ac yn casglu ei phethau ac yn mynd yn ôl at y grŵp, Rhedwr yn dilyn wrth ei sodlau, ei diwrnod perffaith wedi’i ddifetha.
Roedd Pysgotferch eisiau’r llyn iddi hi ei hun, ti’n gweld. Roedd hi eisiau amser iddi hi ei hun. Pan oedd hi gyda’i theulu a gweddill y grŵp, roedd bob amser rhywbeth i’w wneud. Plentyn i’w ddal a’i lanhau a’i fwydo, bwyd i’w baratoi, pysgod i’w glanhau a’u paratoi, crwyn anifeiliaid i’w crafu a’u gwella, gwaywffyn i’w drwsio. Pan oedd hi yma, ar ei phen ei hun, ar ymyl y dŵr disglair, roedd ganddi dipyn o amser i feddwl. I ddychmygu rhywbeth gwahanol.
Am beth wyt ti’n ei feddwl nawr, wrth edrych allan dros y llyn?
Efallai yr hoffet ti, fel y ferch, i fod ar dy ben dy hun yma, i weld pa hud a allai ymddangos?
Wel, roedd Pysgotferch yn dyheu am fod yma ar ei ben ei hun. Heb Rhedwr. Heb wybod y byddai’n rhaid iddi, rywbryd, codi ei gwaywffon a’r pysgod a mynd yn ôl at ei theulu. Roedd hi’n dyheu am gael oriau yma.
Meddyliodd hi, os ddaeth hi gyda’r nos, a fyddai hi’n eu cael nhw? Ac os wnaeth hi, beth fyddai’n gweld yma?