Rhan 4
March y Eryr
Wrth i’r dyfrgi ddod i stop, clywodd hi swn cri uchel ac yna, yn plymio i lawr o’r nefodd daeth marwolaeth ar adenydd – eryr enfawr, ac ar ei gefn dyn yn eistedd wedi’i wisgo mewn arfwisg oedd yn sgleinio yng ngolau’r lleuad. A roedd hi’n swnio fel petai’r eryr yn crio, drosodd a throsodd, “Sut ddest ti yma? Sut ddest ti yma?”
Cododd panig llwyr ym mron y dyfrgi ond cofiodd hi beth roedd y baedd wedi dweud. Felly gwaeddodd hi’n uchel faint o gamau roedd y daith wedi cymryd. A nawr, ar ôl tri, mae angen i ti hefyd i ddweud. 1, 2, 3 –
Ac o’r diwedd roedd yr eryr yn dawel a glaniodd e wrth ei hymyl a syllodd y dyn ar ei gefn yn graff arni.
“Wel, mae’n edrych fel gest ti gyngor da. Pam wyt ti am siarad gyda mi?”
“Dwi wedi cal fy swyno gan wrach y parc. Os nad ydwyf yn dod o hyd i ffordd i dorri’r swyn, fyddai’n aros fel dyfrgi carreg ar wal y parc am byth. Plîs, wyt ti’n gwybod sut mae torri’r swyn?”
Roedd y dyn ar gefn yr eryr yn dawel am amser hir iawn, iawn. Symudodd yr eryr o draed i draed a chadwodd y dyfrgi allan o ffordd ei big enfawr. Nid oedd hi am bennu lan yn cal ei bwyta cyn ffeindio ffordd o dorri’r swyn.
O’r diwedd, siaradodd march yr eryr. “Mae hi’n chwarae’i hen driciau hi eto, dwi’n gweld. Mae gwrach y parc yn fendith ac yn felltith. Mae hi’n cadw’r lle ma’n ddiogel ond mae nifer, fel ti, wedi teimlo ochr miniog ei hud a lledrith hi.”
“Oes yna unrhwbeth fedrai neud?” gofynnodd y dyfrgi, yn teimlo’n anobeithiol.
“Dwi wedi bod yn y lle ma am filoedd o flynyddoedd,” dywedodd y dyn. “Pan ddes i yma, nid oedd yna gastell na chwaith tref, dim ond gwlyptir oedd yn ymestyn am filltiroedd, corsydd a chaeau a llwyni ymhobman. Lle gwyllt oedd hi bryd hynny, gwlad heb gyfraith. Addolwyd yr hen dduwiau a duwiesau bryd hynny, a roedd y bobl a oedd yn cerdded y tir yn gwybod pwer y ddaear o dan eu traed ac yn edrych ar ei hôl. Rydw i wedi bod yma am gymaint o amser dwi wedi gweld dynion yn palu’n ddwfn yn y ddaear a dod o hyd i gyfoeth yno. Dwi wedi gweld y ddinas hon yn tyfu’n fwy ac yn fwy gyfoethog pob dydd, a phobl yn dod yma o bedwar ban y byd i wneud cartref yma. Dwi mor hen nes fy mod i’n gallu deall pob un o’u chwedlau nhw, a gwyddai pa mor bwysig mae pob un ohonynt i’r lle ma. Ond nid ydwyf yn gwybod sut mae torri swyn y wrach.”
Suddodd galon y dyfrgi bach. Ai dyma oedd diwedd ei thaith? Roedd hi wedi’i melltithio i fod yn ddyfrgi carreg am byth, yn eistedd ar y wal anifeiliaid, yn gwylio pobl yn cerdded heibio, yn byw eu bywydau, tra nad oedd hi’n bosib iddi hi symud modfedd?
“Ond mae yna un sydd yn hyn eto na fi.”
Cododd ei chalon modfedd bach.
“Cer i’r cylch blodau a cherdda o’i hamgylch tair gwaith. Ac wedyn dilyna dy drwyn, yr holl ffordd i’r cerflun pellaf yn y parc, yr un sydd bron wedi syrthio’n ddeilchion. Yno, fe gei di dy ateb.”