Rhan 2
Y Cylch Cerrig
Wrth i’r ferch, a oedd nawr yn ddyfrgi, agosau at y cylch cerrig, sylweddolodd hi bod y ffigwr yn sefyll ar ei ganol yn enfawr. Roedd e mor fawr roedd e’n cuddio’r lleuad a’r sêr uwchben o olwg. Ond gyda’i llygaid craff dyfrgi roedd hi’n gallu ei weld yn glîr. Roedd e’n gawr o ddyn, gyda coesau fel dau foncyff coeden enfawr, a barf mawr coch, a’r peth mwyaf od amdano oedd ei fod e’n gwisgo clogyn hir a roedd y clogyn wedi’i addurno gyda…barfau. Barfau pobl eraill – barfau du, barfau llwyd, barfau brown, barfau blond. Rhedodd ias i lawr asgwrn cefn y dyfrgi bach – pwy oedd yn berchen ar yr holl farfau yma?
Cododd y cawr ei ben enfawr wrth ei sbio hi. “Fi yw’r cawr aruthrol Rhita Fawr!” dywedodd mewn llais mawr. “Pwy sydd yn cropian i fewn i fy nghylch cerrig gyda’r nos?”
“F-fi,” dywedodd y dyfrgi/ferch. “Ymddiheuriadau mawr am dorri ar draws –”
Ond – STOMP STOMP STOMP! Daeth y cawr yn agosach ac yn agosach a chrynodd y dyfrgi bach i lawr tuag at y ddaear a chau ei llygaid gan ddisgwyl unrhyw funud ei bod hi’n mynd i gal ei llyncu’n fyw tan –
“HAHAHA!”
Agorodd ei llygaid hi damaid bach a dyna ble roedd gwyneb enfawr y cawr mor agos i’w thrwyn hi nes bod yr unig beth fedrai gweld odd golau’r lleuad wedi’i adlewyrchu yn ei lygaid mawr. A roedd e’n chwerthin. Roedd ei chwerthin e mor swnllyd nes bod y tir o dan ei thraed hi’n ysgwyd.
“Wnai ddim dy fwyta di, y ffwl bach gwirion!” gwaeddodd. “Dwi ddim yn bwyta dyfrgwn, dim ond pobl sydd â barfau, a dim ond er mwyn dwyn eu barfau a’i gwnio ar fy nghlogyn i! Drych arno – nad yw e’n glogyn arbennig iawn?”
“O ydy,” meddai’r dyfrgi bach. “Arbennig iawn.”
“Ond ti – dwyt ti ddim wir yn ddyfrgi nac wyt ti? Dwi’n gwybod, dwi’n gallu arogli’r gwirionedd. Ti’n arogli fel dyfrgi y tro gynta i mi dy wynto di ond wedyn mae yna rhywbeth arall. Plant y ddaear/pobl feidrol…ai bod dynol wyt ti?”
“Merch fach oeddwn i tan deg munud yn ôl.”
“Oooo,” meddai’r cawr. “O, nath HI dy ddal di te.”
“Pwy yw HI?”
“Y wrach. Gwrach y parc. Mae hi wedi bod yn cerdded llwybrau parc yma ers yr hen amser. Ac weithiau, pan mae bod dynol yn cropian i fewn i’r parc gyda’r nos, bydd hi’n eu cipio nhw, ac wedyn yn lle bod dynol mae anifail, a dyna sut yw pethau.”
“Ydy hwnna’n meddwl fyddai’n ddyfrgi am byth?”
Nid oedd y dyfrgi bach yn gwbod sut i’w deimlo. Meddyliodd hi am yr holl bethau roedd hi’n hoffi am fod yn ferch – ei ffrindiau, ei theulu, mynd i ysgol, bwyta hufen iâ, chwarae gemau – ond roedd hi hefyd yn mwynhau medru nofio a rhedeg a gwynto pethau fel dyfrgi.
“O na,” meddai’r cawr. “Dim ond dyfrgi fyddet ti am heno. Pan mae’r haul yn codi yn y bore, fe fyddet ti’n troi i garreg ac yn ymuno’r anifeiliaid cerrig eraill ar wal y parc. Y wrach sy’n creu “Gwarchodwyr y Wal”, a dyna lle maen nhw wedi’u rhesu lan ar wal y parc. Maen nhw’n dod i fyw dim ond pan gaiff y parc ei ymosod arno. Am weddill yr amser, anifeiliaid cerrig maen nhw.”
Roedd y dyfrgi bach wedi’i dychryn yn llwyr. “Ti’n dweud fyddai’n dyfrgi carreg…am byth?”
“Siwr o fod,” meddai’r cawr. “Nid oes yna ddyfrgi ar y wal ar hyn o bryd, felly mae gan y wrach fwlch i’w lenwi. Er mae’n rhaid dweud mae hi wedi bod oes ers i hwn ddigwydd. Y tro diwethaf digwyddodd e i fachgen o amgylch dy oedran di. Cafodd ei droi i fewn i fwnci mawr.”
Codwyd fraw ofnadwy ar y dyfrgi. Beth gallai wneud?
“Mae’n rhaid bod yna ryw ffordd i dorri’r swyn cyn i’r haul godi! Plis, wyt ti’n gallu helpu fi?”
“Fedrai neud dim byd o gwbl,” dywedodd y cawr. Yn amlwg doedd dim ots da fe. “Dwi ddim wedi bod yma am amser hir iawn a does gen i ddim pwerau hudol o gwbl, dim ond ceg mawr am grenshio esgyrn a fy nghlogyn arbennig o farfau.”
“Wel, oes yna unrhyw arall gall fy helpu i?”
“Mae’r parc yma’n hen iawn,” meddai’r cawr. “Mae yna greaduriaid ynddo sydd lot yn hyn na fi. Efallai bydden nhw’n gwybod mwy am sut i dorri swyn y wrach.”
“Plis – dwedwch mwy.”
“Os ei di tuag at yr ardal trwchus o goed draw fynna fe weli di greadur sydd lot yn hyn na fi. Efallai bydd e’n gwybod sut i dorri swyn y wrach. Ond bydd yn ofalus. Creadur peryglus iawn yw e. Lot yn fwy beryglus na fi.”
“Diolch,” meddai’r dyfrgi bach, a roedd hi ar fin gwibio i ffwrdd ar draws y lawnt yng ngolau’r lleuad pan –
“Stop!” gwaeddodd y cawr. “Cyn i ti fynd mae angen i ti neud rhywbeth i mi!”
Dringa ar ben y carreg mwyaf ar ganol y cylch a gwaedda nerth dy ben. “RHITA FAWR YW’R CAWR ENWOCAF YN Y BYD MAWR CRWN!”
Wel, am beth wyt ti’n aros? Mae angen i ti hefyd i neud beth mae Rhita Fawr yn gofyn!