Newidiodd y Don Anferth bopeth. Nid oeddem ni’n gallu ymddiried mwyach y byddai’r môr yn aros yn ddiogel, yn daclus, y tu ôl i’w forglawdd. Nid oeddem ni’n gallu ymddiried mwyach y byddai popeth yn iawn. Roedd y byd wedi cael ei wthio’n wyneb i waered i bob un ohonom. A hyd yn oed ar ôl i’r tir sychu a’r tai gael eu hailadeiladu, hyd yn oed pan ddaeth pobl newydd i fyw yn y pentref a ffermio’r tir a chlirio’r ffosydd a gweithio’r pridd, nid oedd pethau ’run fath ag oedden nhw o’r blaen. Ni yr un byd oedd hi bellach. I’r rhai ohonom ni oedd wedi gweld y tonnau’n yn codi, ac wedi colli cymaint i’r môr, nid oeddem ni fyth yr un fath eto.
Ond aeth amser heibio ac mae amser yn gwella popeth.
Mae pedwar can mlynedd wedi pasio ers y don anferth. Ac, fel y gwelwch, mae pobl dal i fod yn dod yma, i fyw a gweithio a cherdded a chwarae. Cafodd y llyn hwn ei greu i gadw’r tir yn ddiogel rhag y môr, i gadw’r tir wedi’i ddraenio, fel y gellir adeiladu’r holl dai newydd hyn. Mae’n rhaid bod rhywbeth arbennig am y lle hwn, nagwyt ti’n feddwl, gan fodpobl yn dal i ddod yma? A’r rhai sy’n gadael, maen nhw’n dod yn ôl?
Ond nid Mam. Doedd Mam ddim yn un o’r rhai a ddaeth yn ôl. Rwy’n hoffi meddwl aeth hi ymlaen, rhywle newydd, rhywle hyd yn oed yn fwy prydferth. Efallai i’r tir coll o dan y môr, tir Cantre’r Gwaelod, y gwnaeth hi adrodd straeon i mi amdano erioed. Arhosodd Betsi a fi yma am amser hir, ond ni ddaeth hi byth yn ôl. Roedd yn ofnadwy, wrth gwrs, i ddechrau. Ond roedd yn rhaid i mi ddal ati. Roeddwn i’n gwybod y byddai hi eisiau i mi wneud hynny. Trwsiais wellt y bwthyn, gosodais y drws yn ôl, sgwriais arogl y môr oddi ar y llawr garreg yn araf. Ac yn ara’ deg, daeth y gwanwyn, ar ôl y gaeaf hiraf a fu erioed. A gyda’r gwanwyn daeth gobaith. Yn union fel ein cymydog ni, roedd pobl y pentref yn gofalu amdana i. Wnaethon nhw ddod â chywion ifanc i mi, i fagu fy hun, nes yn syth bin roedd gen i nyth gyfan o ieir newydd a mwy o wyau nag oeddwn i’n gwybod beth i wneud â nhw, a Betsi’n bugeilio’r ieir o gwmpas yn ofalus, yn ddoethach fyth am ei hantur i lan i dop y goeden.
A phan ddaeth y cynhaeaf, dringais i’r coed a phigo’r afalau fy hun, a gwneud seidr fel y dysgodd Mam i mi. Rwy’n meddwl weithiau yr oedd hi yno gyda mi, yn y flwyddyn gyntaf honno ar ôl iddi fynd ar goll. Gwelais hi ym mhopeth. Yn yr wyau cynnes a adawyd gan yr ieir wrth iddyn nhw farstio allan i olau’r haul bob bore, yn dilyn Betsi. Yn y mwyar duon cyntaf yn tyfu yn y llwyni ac wrth ymyl y ffos. Ac un bore fe ddeffrais i ddarganfod ei bod hi’n amlwg roedd hi yno, oherwydd ar stepen flaen y bwthyn roedd basged, basged wiail, gyda lliain coch y tu mewn. Roedd hi wedi’i malu braidd o’i thaith i galon y cefnfor ac yn ôl eto, ond roedd yn dal yn ddigon da i gasglu wyau. Dwi’n licio meddwl bod dipyn o Mam wedi dod yn ôl ata i, i sicrhau fy mod i’n iawn.
Mae amser yn mynd heibio hyd yn oed nawr. A mae fy amser ar ben. Dyna fy stori i. **A gaf i ofyn un peth olaf ohonot ti?
Ti’n gwybod, hyd yn oed pan oeddwn i wedi tyfu lan i fod yn fenyw, roedd pobl yn dal i fy ngalw i’n Cyw. Allet ti ddweud fy enw i nawr? Allet ti ei ddweud yn uchel ac yn glir, allan i’r llyn a’r adar ac atgofion yr holl bobl a oedd yn arfer byw yma? Felly unwaith eto gellir fy nghofio, am y bywyd rhyfeddol roeddwn i’n ei fyw, yma, lle rwyt ti’n sefyll nawr. Dwed e wrth i ti grwydro i fyny’r ffos o dy flaen. Mae’r ffos hon yn hynafol, yn hen, hen iawn. Mae e wedi bod yma yn hirach o lawer na’r llyn. Mae’n rhan o’r ddaear. Efallai ei fod wedi bod yma mor hir ag ydw i. Gallet ti gerdded i fyny glan y ffos, ac yna dilyn llwybr i’r chwith, i dy arwain di yn ôl i’r man cychwyn. Meddylia amdanaf wrth i ti gerdded. **Meddylia amdanaf yn cerdded llwybrau yn union fel yr un yma, gyda golygfa o’r gors a’r dŵr, a’r ieir yn martsio tu ôl i mi, mor bell, amser maith yn ôl.
I ffwrdd â ti. Galwa fy enw wrth i ti fynd!