Sai’n gwybod pa mor hir roeddwn i lan y goeden. Roedd e’n teimlo fel canrifoedd. Yn araf bach, ataliodd y llifogydd eu rhuo a berwi a syrthio i lapio’n ysgafn wrth foncyff y goeden. Cwtshodd Betsi i lawr yn fy mreichiau. Suddodd yr haul i’r môr yn y gorllewin, ac aeth popeth yn dawel iawn ac yn oer iawn. Roedd clychau’r eglwys wedi rhoi’r gorau i ganu ers amser maith. Yn araf deg, rhewodd pob rhan ohona i. Trodd fy mysedd, a oedd wedi’u glynu wrth foncyff y goeden, i grafangau. Roedd cefn fy ngwddf yn crynu, fel un Betsi pan mae hi’n oer iawn ac yn crychu ei phlu. Heb neb yno i fy ngweld, roeddwn i’n meddwl efallai fy mod yn troi’n gyw iâr, yn clwydo yno yn y canghennau gyda Betsi. Dyma’r nos yn dod. Roedd hi mor, mor oer. Doeddwn i ddim yn meiddio dringo yn ôl i lawr, oherwydd doedd gen i ddim syniad os oedd y dŵr yn dal i fod yno. Felly arhosais i fyny yn y goeden. Efallai wnes i gysgu, oherwydd rwy’n cofio’r pethau rhyfeddaf. Roedd hi fel petai bod straeon Mam i gyd yn dod yn ôl ataf, un ar ôl y llall, i chwarae allan yn fy mhen. Yn gyntaf daeth cawr mawr barfog coch a ymladdodd yn erbyn brenin, a gosod ei gorff i lawr i wneud mynydd pan oedd y y frwydr yn dod i ben. Cynigiodd ei law i mi ac addawodd fy nghario i ddiogelwch.
“Dere gyda fi, Cyw,” dywedodd e, ond atebais i na, roedd angen i mi aros fan hyn.
Yna meddyliais fy mod i’n edrych draw ar dwr yr eglwys a roedd e wedi ei oleuo gyda rhyw fath o olau hudol ac yn sefyll uwchben y dwr roedd gwrach, gwrach go iawn, ond mor brydferth ac mor bwerus ac yn sydyn fe neidiodd i fyny yn yr awyr a phlymio i lawr i’r llifddwr a, fel y gwnaeth, trodd hi’n ddyfrgi ac edrychais i lawr o fy nghoeden a’i gweld hi’n nofio heibio yn y dwr tywyll, wedi’i goleuo â golau rhyfedd ei hun, yn hela pysgodyn bach sgleiniog. Ac wrth iddi nofio heibio galwodd ataf, “Cyw! Neidia i lawr! Byddaf yn rhoi cynffon a chennau i ti a gallet ti droi yn bysgodyn hefyd!”
Ond fe wnes i ddal yn dynn yn y goeden a gwrthod.
Ac yn olaf, breuddwydiais fy mod yn eistedd yn y goeden, yn union fel hwn, ond y tro hwn yn nheyrnas hynafol Cantre’r Gwaelod dan y dŵr, ac o amgylch roedd clychau’r eglwysi i gyd yn canu. Roedd Mam yn arfer dweud y stori hon wrtha i drwy’r amser. Sut roedd y Brenin wedi ymddiried yn ei filwr i gau pyrth y forglawdd pan oedd y llanw yn dod i mewn, ond bu’r milwr yn meddwi’n dwll a chysgodd yn lle hynny â’i gefn yn erbyn y wal a lluthrodd y môr i mewn, modfedd wrth fodfedd, i lyncu’r wlad.
A dyma fi’n deffro’n sydyn i weld golau haul y bore yn ymlusgo o’r dwyrain a Betsi yn pigo fy moch. Nid oedd y dŵr yn lapio ragor ar foncyff y goeden afalau. Roedd gweddillion y storm – canghennau coed, dodrefn pobl – wedi’u pentyrru o gwmpas ar y pridd. Roedd y ddaear yn wlyb domen. Ond roedd y dŵr wedi mynd yn ôl i ble roedd e wedi dod, tu ôl i ddeilchion y forglawdd.