Byddai Mam bob amser yn dweud storis i mi am y bobl oedd yn dod cyn ni. Ein cyndeidiadau ni. Roedd hi’n dweud bod ein cyndeidiau ni’n deall y môr. Byddai’n adrodd yr holl straeon ’ma am sut, cannoedd o flynyddoedd yn ôl – nid yn fy amser i, na chwaith ei hamser hi, ond yn amser rhywun – byddai pobl wedi dod i’r lle ’ma dim ond yn y gwanwyn a’r haf. Dim ond pan roedd y gwenyn yn suo a’r byd i gyd yn llawn bywyd. Achos dim ond bryd hynny roedd hi’n saff i fod fan hyn. Roedd y môr bob amser yn agos, ti’n gweld, nid yn bell o ble rwyt ti’n sefyll nawr, ar y tir yma a oedd arfer bod yn gors. Roeddet ti’n gallu ei glywed e, y tonnau’n lapio, y môr yn anadlu, roedd e bob amser yn agos iawn bryd hynny. A byddai’n codi lan, y gors yn troi’n halennog, a dyna pryd byddai’n dod, y tonnau anferth a oedd yn llyncu’r tir, yn gorchuddio’r gors mor bell ag oeddech chi’n gallu gweld. Ond roedd hwn yn digwydd pob flwyddyn. Roedd y bobl yn gwybod eu bod e’n mynd i ddigwydd. Felly, roedden nhw’n pacio’u pethau, dadglymu eu hanifieiliad, ac yn symud i dir uwch.
“Pobl cerdded oedden ni bryd hynny,” dywedodd Mam i fi. “Roedden ni’n gwybod pan roedd yr amser wedi dod i ni symud ’mlan. Bydden ni’n symud lan i’r mynyddoedd am y gaeaf, yn cadw ein gilydd yn gynnes a chlud yn yr ogofau, a dim ond yn mynd allan pan roedd angen. Ac yna, yn yr haf, pan gadawodd y môr eto, bydden ni’n dod nôl lawr, i’r tiroedd haf.”
Fy enw i yw Susanna. Ond rwyt ti’n gallu fy ngalw i’n Cyw. Mae pawb yn gwneud, achos roedd Mam yn arfer cadw ieir yn ystod yr amser hwn. Roedden ni’n gwneud ein harian ni drwy werthu wyau, a chywion yr ieir, digon o arian fel ein bod ni’n gallu byw, ac hefyd roedden ni’n gwneud pwt bach o’r berllan afalau tu ôl i’r bwthyn. Fe fyddem ni’n gwneud ein seidr ein hun a gwerthu hwnna hefyd, ond swydd Mam oedd hwnna. Fy swydd i oedd i edrych ar ôl yr ieir.
Roeddwn i’n hoff iawn o edrych ar ôl yr ieir, ond roedden nhw’n dwp iawn. Bydden nhw bob amser yn llwyddo ffeindio’u hun yn y sefyllfaoedd mwyaf dwl! Roedden nhw’n trio dianc trwy’r amser, allan o’r berllan, a roeddwn i o hyd yn eu ffeindio nhw eto o dan y llwyni, ac weithiau hyd yn oed i lawr yn y ffos – yr afon – a oedd yn llifo ar hyd gwaelod ein cae ni.
Os rwyt ti’n edrych i gornel y llyn nawr, i’r chwith, fe weli di’r ffos nawr, yn llifo i fewn i’r llyn.
Pwrpas y ffos oedd i gadw dwr y môr allan o’n caeau ni ac i sicrhau bod yn tir yn sych ac wedi’i ddraenio. Os oedd hi’n haf, byddai’r dwr yn y ffos yn isel, a phryd hynny roedd yr ieir yn hoffi mynd i lawr a sblashio o amgylch yn y dwr. Ond roeddwn i bob amser yn poeni y bydden nhw’n trio gwneud yr un peth yn y gaeaf, pan roedd lefel y dwr lot yn uwch. Achos, ti’n gwybod, nid yw ieir yn gallu nofio. A maen nhw mor dwp.
Heblaw am Betsi. Hi oedd fy hoff iâr. Roeddwn i’n meddwl efallai ei bod hi’n eithaf clyfar. Hi oedd yn arwain yr holl ieir eraill o amgylch. A roedd hi bob amser yn dod os oeddwn i’n galw ei henw hi. Ie – Betsi oedd fy hoff iâr, o bell ffordd.
Ond er chwaith pa mor glyfar oedd hi, nid oedd Betsi yn gallu hedfan. Oeddet ti’n gwybod hwnna? Nid yw ieir yn gallu hedfan. Maen nhw’n gallu ysgwyd eu hadenydd a chodi rywfaint i’r awyr, lan i’w clwydi neu i geisio dianc rag llwynog, ond nid ydyn nhw’n gallu hedfan. Weithiau, roedd Betsi yn edrych lan ar yr adar yn y coed afal uwch ei phen a roeddwn i bob amser yn meddwl efallai ei bod hi’n drist. Fel ei bod hi’n meddwl, sut fyddai’n teimlo i fedru hedfan mor uchel?
Dwi mor hapus dy fod ti yma gyda mi. Dere gyda fi. ** Mae gen i gymaint i dy ddangos di. Gymaint o stori i’w hadrodd!