Arhosodd Sion yn nhy Anti Maud am bron i fod wythnos gyfan. Gweithiodd ar ei fathemateg, darllennodd e lyfrau, a thriodd ei orau glas i gerdded yn dawel o amgylch y ty tra bod Anti Maud yn gorffwys yn y prynhawn. Ond nid oedd e’n ddigon. Tu fas, roedd y byd yn llawn swn canu’r adar. Roedd Sion yn gallu dychmygu pa mor brydferth oedd y pant ar hyn o bryd. Ac hefyd roedd e’n dyheu cael gweld Cecil eto. Gwyddai y bydd Cecil yn unig hebddo fe. A dechreuodd e gysuro’i hun: nid oedd sgarff goch yn beth mor od wedi’r cyfan. Jyst ryw gyd-ddigwyddiad od oedd hi bod ffrind Anti Maud wedi gwisgo un hefyd, amser maith yn ôl.
Felly, un prynhawn, dyma fe’n mynd ati i wasgu drwy’r twll yn y llwyni unwaith eto.
Cerddodd am oes yn edrych am Cecil. Roedd e’n teimlo fel petai bod Cecil yn ei wylio fe, ond doedd e ddim yn dod allan, efallai er mwyn dysgu gwers iddo am aros i ffwrdd am gymaint o amser.
“Cecil? Cecil! Fi sy’ ’ma! Sion! Dwi wedi dod nôl.”
O’r diwedd, cyrhaeddodd Sion y bont fach hon.
Eisteddodd i lawr, yn teimlo’n drist. Mae’n rhaid bod Cecil yn wyllt gacwn. Daeth e o hyd i gerrig bach a’u taflu i fewn i’r nant fach a gwrando ar y swn sblashio. Teimlodd yn unig iawn. Nid oedd y pant yn lle llawn hwyl heb Cecil.
Cododd ei ben a siarad dros swn y nant yn ymdroelli.
“Gwrando, dwi’n sori, iawn? Nes i aros i ffwrdd. Roeddwn i –”
Ro’n i ofn, meddyliodd i’w hun. Ond doedd e ddim am ddweud hwnna wrth Cecil.
A dyna le roedd e. Cecil. Fel petai oedd e wedi bod yno am byth. Yn sefyll draw fyna, wrth ymyl y pwll bach o gerrig.
Roedd golwg mulaidd ar ei wyneb. “Ble wyt ti wedi bod? Rwyt ti wedi bod ar goll am ddiwrnodau maith. Ro’n i’n dy golli di. Nid yw neb yn dod fan hyn rhagor. Dwi bob amser ar ben fy hun.”
“Dwi yma nawr, Cecil,” meddai Sion.
A roedd hwnna, hefyd, yn ddiwrnod i’r brenin.
Triodd Sion ei orau glas i gadw trac ar amser. Ond pob tro iddo awgrymu i Cecil ei bod hi’n amser iddo fynd yn ôl i dy Anti Maud, bydd Cecil yn edrych mor drist. “Jyst pum munud mwy,” meddai. “Roeddwn i’n dy golli di gymaint pan oeddet ti i ffwrdd.”
Felly dyma Sion yn aros ac yn aros ac yn aros. Nes bod y cysgodion mor hir nid cysgodion oedden nhw ragor ond tywyllwch go iawn. Roedd hi’n anodd gweld Cecil yn y tywyllwch.
“Mae’n rhaid i mi fynd!” dywedodd Sion o’r diwedd, mewn panig llwyr. “Ddoi nôl yfory!”
Ei galon yn pwmpio yn yn ei fron, ei wynt yn ei ddwrn, rhedodd e tuag at y bwlch yn y llwyni. Gwasgu trwy. Paratoi ei hun i redeg lan y lawnt tuag at dy ei fodryb.
Ond roedd hi’n rhy hwyr. Roedd Anti Maud yn aros amdano.