Rhan 1

Gwranda. Be wyt ti’n clywed? Mae’r parc ma’n llawn bywyd. Gwranda’n astud.

1940 oedd hi. Dyna yw swn seiren y cyrch awyr yn mynd bant. Lawr yn dociau Caerdydd, roedd y bomio ar fin gwaethygu. Dyna pan benderfynodd Mam Sion bod angen i Sion fynd i ffwrdd rywle diogel, er mwyn osgoi’r bomiau.

“Rwyt ti’n mynd i aros gydag Anti Maud am ychydig,” dywedodd hi. “Yn Llysfaen.”

Ti’n gweld, bryd hynny, roedd y rhan ’ma o Gaerdydd dal i fod yn bentref bach. Dim ond caeau gwyrdd a choedwigoedd trwchus o’n hamgylch ni. Nid oedd gweddill y ddinas wedi tyfu’n ddigon fawr i ymuno lan gyda ni eto.

Ond nid oedd Sion am fynd i aros gyda Anti Maud yn Llysfaen. Nid oedd e am fynd am ddwy rheswm. Y rheswm gyntaf oedd bod ei ffrindiau i gyd wedi cael eu danfon fel faciwis i’r cymoedd, a roedd e am fynd gyda nhw. A’r rheswm arall oedd bod e ddim yn hoffi Anti Maud. Dim o gwbl.

Roedd Anti Maud yn dal iawn ac yn denau iawn a roedd golwg sur arni hi drwy’r amser. Roedd hi’n gyfoethog iawn, lot yn fwy gyfoethog na Sion a’i fam, a roedd hi’n byw mewn ty enfawr wedi’i amgylchynu gan gaeau gwyrdd a choedwigoedd. Efallai dest ti heibio’i thy hi heddi! Nid caeau fydd o’i amgylch e nawr, ond mae’n siwr bod e dal i fod mor fawr a chrand ag oedd e amser maith yn ôl. Roedd gan y ty lot o ffenestri a lot o goridorau hir tywyll a roedd llwyn mawr trwchus o’i amgylch.

Tan nawr, dim ond ar achlysurau pwysig roedd Sion yn ymweld ag Anti Maud, fel ar ei phenblwydd hi. Roedd hi bob amser yn gorfodi iddo fe gymryd tê gyda hi yn ei thy gwydr. Roedd hi’n llym iawn am bethau fel eistedd yn syth a defnyddio’r cyllell a fforc cywir. Pan defnyddiodd Sion ei fys i lyfu lan y briwsion cacen o’i blat, bu bron iddi hi lewygu mewn sioc.

A nawr roedd rhaid i Sion fyw gyda hi. Nid oedd e’n hapus am y syniad o gwbl.

“Gai aros ’da ti, Mam?” gofynnodd e. “Dwi ddim yn ofni’r bomiau.”

Roedd Mam yn edrych mor drist ag oedd Sion yn teimlo am orfod ei adael e gyda Anti Maud. Ond doedd hi ddim chwaith am roi’r gorau arni. Rhoddodd ei gês iddo, a rhoi cwtsh mawr iddo, a dweud bod angen bod yn gwrtais. Ac wedyn dyma hi’n diolch i Anti Maud am edrych ar ôl Sion, a’i gadael nhw.

Roedd Sion methu credu’r peth. Roedd hi wir wedi ei adael, ei longddrullio, gydag Anti Maud o bawb, yng nghanol nunlle.

Roedd e’n casau’r diwrnodau gynta. Yn casau ei fodryb. Yn casau ei fam am orfodi iddo fe aros yma. Roedd e’n casau’r ty mawr dwl ma. Roedd y ty yn hen ac yn gwichlyd ac yn llawn pethau nid oedd Sion i fod i gyffwrdd na chwarae gyda. Yn y bore, roedd Anti Maud yn gorfodi i Sion wneud ei fathemateg a’i ddarllen fel nad oedd e’n disgyn yn ysgol. Ac yn y p’nawn, byddai Anti Maud yn mynd i orffwys yn ei stafell wely hi am oriau a roedd gan Sion dim byd i’w wneud. Dim byd o gwbl. Roedd e wedi diflasu’n llwyr.

Yr unig beth roedd e’n hoffi am y ty oedd bod e’n gallu gweld Caerdydd o ffenestr ei stafell wely. Efallai bod modd i ti ffeindio rywle yn y parc ma lle fedri di weld y ddinas? Mae yna olygfeydd arbennig o fan hyn. Ar ddiwrnod clîr, roedd Sion yn gallu gweld yr holl ffordd i lawr i’r dociau. Roedd e’n gallu dychmygu ei fod e nôl adre, gyda’i fam.

Ond nid oedd dychmygu pethau’n ddigon i Sion. Roedd e am WNEUD rywbeth. Felly, ar y trydydd diwrnod, penderfynodd Sion i fynd ar antur.

Ar waelod gardd Anti Maud roedd llwyn mawr trwchus a thywyll. Coed bach oedd yn y llwyn, a phob un gyda boncyff trwchus, a roedd bylchau bach rhyngddyn nhw. Roedd un bwlch yn ddigon mawr i fachgen wthio drwyddi. Dyna be ’nath Sion. Pan roedd e’n sicr bod Anti Maud yn cysgu’n sownd yn ei stafell wely, dyma fe’n gwasgu drwy’r bwlch ac ymddangos … mewn beth oedd yn edrych fel parc. Roedd yna goed a llwybrau bach yn ymdroelli fan hyn a fan draw a blodau ac adar a roedd e mor, mor brydferth.

Cerddodd Sion. Ymlwybrodd ymlaen ac ymlaen. Ceisiodd e edrych ar bopeth. Ei le ef oedd hwn. Ei barc cyfrinachol, hudol ef.

Cerddodd e nes bod e’n bennu lan – yma. Reit ble rwyt ti.

Beth am i ti gerdded gyda Sion wrth iddo fel archwilio ymhellach? Parha lan y llwybr ma nawr, nes bod ti’n cyrraedd llyn.