Roedd Eleri’n dechrau teimlo ei bod hi wedi bod yn cerdded ers dyddiau. Cofiwch, dim ond glas y dorlan bach oedd hi – oedd yn ddigon bach i ffitio yng nghledr eich llaw – ac roedd rhaid iddi gerdded yr holl ffordd ar hyd y llwybr troellog i lawr i’r nant er mwyn ffeindio’r hen froga doeth. Roedd hi wir yn gobeithio y byddai’r broga’n gallu helpu.
Erbyn cyrraedd glan y nant, roedd Eleri’n pryderu eto. Doedd hi erioed wedi gweld broga, felly doedd hi ddim yn gwybod ymhle i chwilio. Roedd hi’n gallu gweld mân gerrig yn y nant, a physgod bychain bach hefyd. Roedd hi’n gallu gweld pluen yn arnofio. Ac roedd hi’n gallu gweld y bancyn oedd yn ei hatgoffa am ei bancyn a’i thwnnel hi ei hun. Meddyliodd tybed beth oedd ei mam a’i thad yn ei wneud nawr. I ble’r oedd ei brodyr yn hedfan yn eu cotiau amryliw newydd. Arhosodd Eleri wrth y nant. Doedd dim syniad ganddi beth i’w wneud nesaf.
Beth fyddech chi wedi ei wneud i ffeindio’r broga pe baech chi yn ei sefyllfa hi? Arhosodd am amser hir, ond doedd dim golwg o’r hen froga doeth. Galwodd: ‘Mr Broga, wyt ti yma? Mae angen eich cymorth arna’i!’ Ond atebodd neb.
Wedyn cofiodd Eleri beth oedd y wiwer wedi dweud wrthi: mae’r hen froga’n hoffi’r cysgod a’r dŵr. Tybed a oedd e yn y nant? Aeth ias trwy Eleri wrth feddwl am orfod cerdded yn nŵr y nant. Doedd hi ddim hyd yn oed wedi trochi ei thraed yn ei llyn ei hun, ac roedd hi’n pryderu y byddai’n oer ac annifyr. Ond roedd hi wedi bod yn aros yn ddigon hir, ac wedi ceisio galw. Pa ddewis arall oedd ganddi?
Anadlodd Eleri’n ddwfn, a dechreuodd gerdded i lawr y bancyn yn araf bach nes cyrraedd glan y nant. Cododd ei throed bychan bach a’i dal dros y dŵr am ennyd. Rwyt ti’n gallu gwneud hyn Eleri, meddai wrthi hi ei hun. Heb oedi mwy, rhoddodd ei throed yn y dŵr. Er syndod iddi, roedd y dŵr yn gynnes braf.
Cerddodd Eleri i’r nant gan deimlo’r creigiau a’r cerrig llyfn dan ei thraed. Roedd hi’n gweld bod yna le cysgodlyd y tu draw i’r bancyn. Welwch chi’r lle o ble rydych chi’n sefyll?
Dechreuodd Eleri gerdded i’r cyfeiriad yna pan glywodd hi sŵn.
Sŵn dwfn, rhyfedd oedd hi.
‘Crawc, crawc’
Trodd Eleri a gweld broga mawr yn neidio allan o’r lle cysgodlyd ar y lan. Roedd e bron mor fawr â hi!
‘….Helo’ meddai Eleri’n swil.
‘HELO!’ Meddai’r hen froga doeth yn ei lais mawr cryg. ‘Beth sy’n dod â glas y dorlan ifanc fel ti i’r nant?’
‘Wel’ meddai Eleri, ‘fe gwrddais i â’r gwiwerod, ac fe ddywedon nhw y byddech chi’n gallu fy helpu. Chi’n gweld, mae angen i mi gael nodwydd o ben un o’r coed pinwydd mawr ar ddiwedd y llwybr, a dwi ddim yn gwybod sut, oherwydd chaf i ddim hedfan yn y goedwig am taw prawf…’
‘i gael dy blu lliwgar yw hi, ie?’ Winciodd y broga.
‘Ie, sut oeddech chi’n gwybod?’
‘Wel, r’yn ni’r brogaod doeth yn gweld ac yn clywed lot fawr o gwmpas y gronfa. R’yn ni’n rhai da am edrych a gwrando.’
‘O’ meddai Eleri. ‘Wel, ydych chi’n gallu fy helpu i i gael nodwydd o’r goeden?’
‘Wyt ti’n un da am wrando, fy merch?’
‘Ym, ydw dwi’n credu.’
‘Wel, dwed wrtha i beth rwyt ti wedi ei glywed ar dy siwrnai hyd yn hyn.’ Meddai’r hen froga doeth.
Meddyliodd Eleri am funud. ‘Wel, fe glywais i lais mam yn dweud wrtha’i am y prawf yma, wedyn glywais i sŵn y dŵr yn symud wrth i mi hedfan draw yma, wedyn glywais i sŵn crafu a llusgo, hwtian a gweiddi, mwmian a gwichian yn y coed, wedyn fe glywais i’r gwiwerod yn clebran a chi’n crawcian, a… dyna ni dwi’n credu?’
‘A, ond wyt ti wedi clywed y coed? Wyt ti wedi gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud?’
Roedd Eleri wedi drysu. ‘Dwi ddim yn deall.’
‘Shhh, gwranda. Gwranda’n ofalus.’
Edrychodd i fyny am funud a cheisio gwrando ar y coed. Roedd hi’n clywed pob math o synau eraill, ond nid y coed, wedyn SBLASH! Roedd y broga wedi mynd. Chwiliodd o’i chwmpas a galwodd amdano, a cherddodd ar hyd y lan eto, ond dim byd. Roedd e wir wedi mynd.
Cerddodd Eleri nôl i fyny’r bancyn i’r llwybr, sychodd ei thraed ac eisteddodd i lawr. Beth oedd hi’n mynd i’w wneud nawr? Doedd y broga ddim wedi helpu dim. Nawr doedd hi ddim yn gwybod ble i fynd, na phwy i siarad â nhw. A fyddai hi byth yn cael ei phlu lli-
‘Shhhhhh’. Daeth sŵn tawel meddal ati ar y gwynt. Edrychodd Eleri i fyny.
Dechreuodd yr holl goed blygu a phwyntio at ymyl y goedwig. Sefodd Eleri ar ei thraed a phenderfynodd eu dilyn nhw. Ddylech chi fynd hefyd.
(stori gan Christina Thatcher)