Chymerodd hi ddim yn hir i Eleri glywed sŵn clebran a sŵn crafu. Ac fe welodd hi gynffonau hefyd – cynffonau fflwfflyd – yn rasio i fyny ac i lawr y coed. Gwiwerod oedd y rhain heb os nac oni bai, a waw, roedd cynifer ohonyn nhw! Allwch chi weld unrhyw wiwerod o ble’r ydych chi’n sefyll? Pa un fyddech chi’n ei dewis i ofyn am gymorth?
‘Ym, esgusodwch fi, meddai Eleri mewn llais bach. Roedd hi’n meddwl efallai y byddai un o’r gwiwerod yn stopio ac yn dod draw, ond wnaeth neb. Roedden nhw’n dal i redeg a neidio a chrafu a chloddio.
‘Helo!’ galwodd Eleri ychydig bach yn uwch. ‘All rhywun fy helpu?’
Dal dim byd. Roedd y gwiwerod yn chwim ac yn brysur.
‘GWIWEROD!’ Gwaeddodd Eleri yn ei llais mwyaf a mwyaf dewr. Stopiodd yr holl wiwerod yn stond ac edrych arni.
‘Diolch. A fyddai un ohonoch chi’n gallu fy helpu os gwelwch yn dda? Chi’n gweld, mae angen i mi gael nodwydd o ben un o’r coed pinwydd ar ddiwedd y llwybr, a dwi ddim yn gwybod sut i wneud hynny oherwydd dwi ddim yn cael hedfan yn y goedwig am fy mod i’n ceisio cael fy mhlu lli…’
‘Aros nawr’ meddai un o’r gwiwerod ar garlam, gan sboncio i lawr un o’r coed agosaf ati. ‘Rydyn ni’n gallu rhedeg a neidio a siglo o’r coed, ond allwn ni ddim â mynd yr holl ffordd i ben yr hen goed pinwydd yna ar ddiwedd y llwybr. Mae hi’n rhy beryglus a gallem ni syrthio. Does dim un wiwer yma erioed wedi mynd mor uchel â hynny.’
‘O’ meddai Eleri. Yn sydyn roedd hi eisiau crio. Beth oedd hi’n mynd i’w wneud? Sut oedd hi byth yn mynd i gael nodwydd heb hedfan? Edrychodd i lawr ar ei thraed.
‘Hei, paid â phoeni’ meddai’r wiwer chwim. ‘Lawr wrth nant mae hen froga doeth. Mae e wedi bod yn byw yma’n hirach na neb. Mae e wrth ei fodd ar y cysgod a’r dŵr felly dyna ble bydd e’n cuddio. Beth am ofyn am ei gymorth e i gael y nodwydd pinwydd yna? Mae’n siŵr y bydd syniad clyfar ganddo fe.’
‘O diolch, diolch’ meddai Eleri’n teimlo’n fwy gobeithiol. ‘Fe af i lawr i ffeindio’r broga doeth yna a gweld a yw e’n gallu helpu.’
Cododd yr holl wiwerod bawen i ffarwelio ag Eleri wrth iddi barhau ar hyd y llwybr. Cododd Eleri adain nôl a chlywodd hi nhw’n dechrau clebran, crafu a chloddio eto. Roedd hi’n dechrau hoffi synau’r goedwig.
Beth yw eich hoff sŵn chi yma? Efallai bod hwn yn gyfle da i gymryd seibiant bach i wrando ar synau’r goedwig. Allwch chi glywed y cacwn, y gwiwerod neu rywbeth arall?
(stori gan Christina Thatcher)