Cerddodd Eleri i’r goedwig ar ei choesau bychain bach. Clywodd synau nad oedd hi erioed wedi eu clywed o’r blaen: crafu a llusgo, hwtian a gweiddi, mwmian a gwichian. Roedd y goedwig yn teimlo’n ferw o fywyd, ac mor wahanol i’r llyn. Roedd ei mam wedi dweud bod rhaid iddi gerdded yma, ac ar ben hynny, roedd rhaid iddi siarad ag unrhyw greaduriaid y byddai’n dod ar eu traws hefyd. Doedd hi ddim wedi gweld neb eto, ond roedd hi’n sicr wedi eu clywed nhw. Allwch chi eu clywed nhw hefyd?
Arhosodd Eleri am ennyd i orffwys yn yr union fan lle rydych chi nawr, ac edrychodd trwy’r coed. Roedd hi’n gallu gweld amlinelliad bancyn y gronfa ddŵr, ac yn sydyn roedd hi eisiau rhedeg. Rhedeg i fyny’r bancyn, dros y top a hedfan, hedfan yr holl ffordd nôl i’r twnnel. Doedd hi ddim eisiau bod yn y goedwig yma gyda’i holl goed tal yma a synau mawr, roedd hi am fod nôl adref gyda’i mam a’i thad. Roedd hi am weld ei brodyr a bod yn glyd braf eto.
‘Bzzz, bzzz – wyt ti ar goll – bzzz, bzzz?’
Trodd Eleri’n sydyn. Pwy oedd hyn yn siarad â hi? Doedd neb i’w gweld yno.
‘Bzzz – fan hyn – bzzz.’ Edrychodd i’r chwith a gwelodd gacynen felen a du yn eistedd ar blanhigyn piws.
‘Ym, ydw dwi’n credu fy mod i ychydig bach ar goll, ac rwy’n ofnus’, meddai Eleri.
‘Mae ofn arnat ti?! Bzzz – ond rwyt ti mor fawr!’
Roedd Eleri’n synnu. Doedd hi erioed wedi meddwl amdani ei hun fel un mawr o’r blaen ond, i’r gacynen yma, rhaid ei bod hi fel cawr mawr!
‘O, diolch i ti’ meddai Eleri. ‘Ond mae’r coed gymaint yn fwy na fi! Ddwlen i aros i siarad â ti, ond mae angen i mi ddychwelyd i fy nhwnnel ar ochr draw’r llyn…’
‘Waw, rwyt ti wedi dod o’r holl ffordd o ben draw’r – bzzz – llyn, ac fe hedfanaist ti yma? Allen i byth â gwneud hynny. Rwyt ti’n fawr AC yn ddewr – bzzz!’
Meddyliodd Eleri am hyn am funud. Oedd, roedd hi wedi hedfan yma, yr holl ffordd ar draws y llyn. Ac roedd hi wedi cerdded i lawr y bryn mawr hefyd. Efallai y gallai hi gadw i fynd wedi’r cyfan.
‘O diolch, rwyt ti mor garedig. Ond, mae rhaid i fi gasglu nodwydd o ben un o’r coed pinwydd mawr ar ddiwedd y llwybr cyn mynd nôl adre, a dwi ddim yn cael hedfan yma yn y goedwig. Does dim syniad gen i sut i fynd ati. Elli di fy helpu?’
‘Bzzz – sori, ond dydw i ddim erioed wedi gallu hedfan i ben coeden gyda fy adenydd bach i. Pam na gerddi di ymhellach i lawr y llwybr a gofyn i un o’r gwiwerod? Nhw yw’r rhai chwim â chynffonau fflwfflyd. Maen nhw’n hoffi clebran – bzzz – felly fe glywi di nhw’n siarad pan fyddan nhw’n agos. Maen nhw’n gallu dringo’n uchel, efallai gallan nhw gael y nodwydd o ben y goeden i ti. Bzzz bzzz – pob lwc!’
Ac i ffwrdd â’r gacynen gan chwifio. Doedd Eleri ddim wedi gweld gwiwer o’r blaen, ond roedd hyn yn swnio fel syniad da. Cerddodd ymhellach i’r goedwig. Dilynwch y llwybr a gymerodd Eleri gan gadw llygad am unrhyw wiwerod cymwynasgar ar y ffordd!
(stori gan Christina Thatcher)