Rhan 7
Felly, nawr rwyt ti yma, mae’n amser wedi dod i ddangos yr anrhegion rwyt ti wedi cario mor bell i’r hen goeden.
Y synau wrth ymyl y bont. Y pethau arbennig a phrydferth rydych chi wedi gweld ar eich taith. Y rhwbiadau rhisgl. Olion yr anifeiliad. Dangosa nhw nawr. Rwyt ti hefyd wedi gweithio more galed.
A phob tro i’r hen goeden weld anrheg, edrychodd hi’n gryfach ac yn gryfach. Dyma hi’n sefyll yn dalach. Ymddangosodd ddail newydd ar ei changhennau. Dyma eginau bach yn dechrau blaguro.
“Dyna ti,” dywedodd Llygoden. “Ti’n gweld. Ti mor bwysig. Mae pawb yn dy gofio di. Rwyt ti wedi cysylltu gyda popeth.”
Roedd yr hen goeden felse hi’n browd. Safodd hi’n gryfach.
Yna, trodd Llygoden at yr anifeiliaid eraill. Fel arfer doedd e ddim yn hoffi siarad cyhoeddus ond y tro ’ma roedd e’n teimlo fel bod e wedi neud mor dda, y dylai’r anifeiliaid rhoi eiliad mwy o sylw iddo fe. Cododd ei lais bitw bach.
“Nawr,” dywedodd e, “mae’n amser i ni ddewis enw newydd ar gyfer yr hen goeden. Mae gen i rai syniadau, ond bydd syniadau pawb yn cael eu hystyried. Fe fyddem ni’n dewis gyda’n gilydd, a gofyn i’r hen goeden pa un yr hoffai hi, a dyna fydd ei henw hi am byth bythoedd. A tro mae fe fyddem ni’n edrych ar ôl ei henw hi a’i chadw hi’n saff a’i phasio hi lawr y cenhedlau at ein plant ni a ni fydd neb byth yn ei hanghofio.”
Dwi ddim yn gwybod pa enw nath Llygoden a’r anifeiliaid eraill ei ddewis. Ond efallai bod gyda chi syniad nawr. Beth am ddweud yr enw i’r hen goeden? Mae hi bob amser yn caru clywed ei henw newydd.
Ac felly roedd pethau’n dda yn y goedwig eto, ac aeth Llygoden am ei fusnes, yn heglu o amgylch ei ddarn bach o dir. Ond, weithiau, roedd e’n dod i ymweld a’r dyn gwyrdd, yn union lle rwyt ti’n sefyll nawr, a roedd y dyn gwyrdd pob amser yn gwenu arno, ac yn diolch iddo am gymaint roedd e wedi’i neud i ddiogelu’r hen goeden a’r goedwig gyfan. Fel wedai’r dyn gwyrdd bob tro:
“Does dim ots pa mor fach wyt ti, rwyt ti bob amser yn gallu gwneud y byd yn well.”