Rhan 6
Nid oedd Llygoden erioed wedi bod i’r guddfan adar o’r blaen. Rhywle ble ddaeth pobl oedd hi, ac er chwaith y ffaith eu bod nhw’n trio bod yn dawel, roedden nhw’n gwneud iddo fe deimlo’n ofnus. Felly wrth i ti gropian lan ato fe heddiw, cadwa dy lais i lawr. Rhag ofn bod Llygoden neu rai greaduriaid eraill o amgylch.
Allan ar y gwlyptir roedd nifer fawr o adar. Ceisiodd Llygoden i alw arnyn nhw ond nid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw felse bod nhw’n ei ddeall. Neu roedden nhw’n rhy brysur am eu busnes nhw. Dechreuodd e golli gobaith. Roedd Llwynog yn gywir. Roedd e lot yn rhy fach i neud gwahaniaeth. A nid oedd yr adar eisiau helpu…efallai dim ond eisiau helpu eu hun roedden nhw…
Erbyn hwn roedd yr haul ar fin codi eto. Roedd y bore wedi dod. Roedd Llygoden wedi colli trac o amser yn llwyr. Nid oedd ganddo fe glem am ba mor hir roedd e wedi bod yn teithio.
Cwtshiodd e i lawr yn y gwair hir a rhoi ei bawennau dros ei lygaid. Roedd e mor flinedig. Gyd roedd e am ei wneud oedd cysgu. Doedd dim ots os oedd e’n rhoi lan, nag oedd? Doedd dim ots achos nid oedd neb wir yn dibynnu arno fe. Byddai’r dyn gwyrdd yn gallu dod o hyd i rywun arall i gyflawni’r dasg, rhywun oedd lot yn fwy addas i wneud rywbeth mor bwysig. Rhywun clyfar fel Llwynog, neu gryf fel Mochyn Daear, neu ddoeth fel Tylluan.
Ar y funud honno, teimlodd Llygoden rywbeth meddal yn brwshio yn ei erbyn. Agorodd ei lygaid mewn braw ond nid oedd yna unrywbeth yno. Ymhell, bell, uwch ei ben roedd yna smwt fach ddu yn ymdroelli.
Caeodd Llygoden ei lygaid eto a tro yma clywodd e swn adenydd a daeth yr un teimlad meddal a tro ’ma agorodd ei lygaid i weld aderyn bach du yn hofran uwch ei ben.
“Pwy wyt ti?” gofynnodd.
“Gwennol ydw i,” meddai Gwennol mewn llais uchel. “A ti yw Llygoden a mi rwyt ti ar daith. Mae newyddion am dy daith di wedi ymestyn ymhell ar draws y byd a dyna sut glywais i amdani.”
“Ydw, fi yw Llygoden,” meddai Llygoden, ac er chwaith ei fod e mor flinedig, dyma fe’n ailadrodd beth dywedodd e i holl greaduriaid eraill y goedwig. “Rydw i ar daith. Taith arbennig ar gyfer holl greaduriaid eraill y goedwig. Mae’r dyn gwyrdd wedi gofyn i fi i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden, achos rydym ni wedi’i anghofio, ac hebddo, bydd yr hen goeden yn marw. Ac heb yr hen goeden, bydd y goedwig hefyd yn marw. Achos rydym ni gyd yn ein cysylltu.”
Daeth Gwennol i ymdroelli lawr ac hongian yn yr awyr uwchben Llygoden.
“Mi rwyt ti wir yn Lygoden Ddewr,” meddai hi.
“Nac ydw,” dywedodd Llygoden. “Achos nid ydw i wedi bod yn llwyddiannus. Dwi wedi trio fy ngorau glas. Dwi wedi cerdded a cherdded. Am filltiroedd a milltiroedd a milltiroedd. My fy mhawennau wedi blino, mae fy nghynffon wedi blino, mae fy nhrwyn a fy nghlustiau a fy llygaid wedi blino, ond dwi ddim wedi dod o hyd i enw coll yr hen goeden. Dwi wedi ffaelu. A nawr fe fydd yr hen goeden yn marw. Ac wedyn fe fydd y goedwig yn mynd yn sâl ac yn marw hefyd. Achos nes i ddim llwyddo i gyflawni tasg y dyn gwyrdd.”
“Nid dy fai di yw hi,” meddai Gwennol. Hedfanodd hi i lawr a glanio ar gangen coeden. Nid oedd hi’n edrych fel petai roedd hi’n glanio’n aml. Roedd hi’n gwybod sut i gysgu ac hedfan ar yr un pryd. Ond am unwaith roedd hi am stopio fel bod hi’n gallu siarad gyda Llygoden. “Dwi wedi hedfan am amser hir iawn,” dywedodd hi. “Ar draws y byd. Cannoedd ar filoedd o filtiroedd. A dwi wedi gweld sut mae’r hen goeden yn cysylltu gyda popeth yn y byd. Sut mae popeth yn cael eu dal mewn cydbwysedd ganddi hi. Ond dwi hefyd wedi gweld sut y gall pethau gael eu hadnewyddu, eu hail-wneud, os rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd.”
“Gan dy fod ti wedi teithio mor bell, wyt ti’n gwybod enw’r hen goeden?”
“Nac ydw,” meddai Gwennol. “Mae’r gwybodaeth ’na ar goll am byth. Nid oes neb yn gwybod enw coll y goeden nawr.”
Suddodd galon Llygoden. Dyna oedd y diwedd arni felly. Byddai’r goeden yn marw. Byddai’r goedwig hefyd yn marw. Nid odd yna dim byd i’w wneud.
“Ond,” meddai Gwennol, “mae yna ffordd arall.”
“Ffordd arall?”
“Weithiau, pan mae pethau wedi cael eu colli am byth, mae’n rhaid i ni alaru drostyn nhw. Ac wedyn, mae’n rhaid i ni symud ymlaen a chreu pethau newydd. Dwi’n gwybod dy fod ti wedi bod yn casglu anrhegion ar gyfer yr hen goeden. Dwi’n gwybod dy fod ti wedi bod yn meddwl amdani hi ac wedi adrodd ei stori i’r anifeiliaid eraill. Gwaith da oedd hwnna, Llygoden. Nawr, mae angen i ti feddwl am enw newydd i’r hen goeden, a’i rannu gyda’r holl greaduriaid eraill, ac yn y ffordd ’na, bydd yr hen goeden yn cael ei hadnewyddu, a bydd bywyd yn dychwelydd iddi, a bydd cydbwysedd yn dod yn ôl i’r goedwig.”
Tyfodd obaith yng nghalon Llygoden. Gymaint o obaith nes bod e’n dychmygu ei fod e wedi tyfu i bum waith ei faint, er mewn gwirionedd nath e aros yn lygoden fach iawn. “Ti’n siwr bydd hwn yn gweithio, Gwennol?”
“Dyma yw’r unig ffordd,” meddai Gwennol.
Felly dyma Llygoden yn dweud diolch iddi, a dechrau ar ei daith hir yn ôl i’r goeden. Ac wrth iddo fe fynd, cariodd e’i holl anrhegion ar ei chyfer hi. A chynlluniodd pa enw dylai rhoi iddi hi. Gallet ti ei helpu fe, hefyd. Meddyliodd a meddyliodd, ac wrth iddo fe gerdded, dyma nifer fawr o greaduriaid eraill y goedwig yn ymuno ar ei daith. Daeth Tylluan, a Dyfrgi, a Glas y Dorlan. Hedfanodd Crëyr uwchben. Dyma Iâr Fach y Dwr yn sgytlo tu ôl, tra’n cwyno bod ganddi hi bethau i’w wneud. Dyma Llwynog hyd yn oed yn dod.
Wrth iddyn nhw gerdded, dyma nhw’n siarad am Llygoden. Llygoden ddewr. Llygoden oedd wedi cyflawni ei dasg hollbwysig. Llygoden oedd wedi gweithio mor galed ac wedi aros mor gadarn.
A phan gyrhaeddodd Llygoden yr hen goeden, beth wyt ti’n feddwl digwyddodd? Mae’n amser mynd yno, i ffeindio allan!