Rhan 1
Wyt ti’n gallu dod o hyd i’r hen goeden? Y goeden hynaf oll yw hi. Ti sy’n gallu penderfynu pa goeden yw hi. Wyt ti’n gallu gweld sut mae’n edrych? Sut mae ei changhennau’n plygu a chwifio yn y gwynt? Mae’r hen goeden wedi bod yma am gannoedd o flynyddoedd. Dyma yw ei stori hi.
Roedd yr hen goeden yn marw. Roedd ei changhennau’n plygu’n isel tua’r ddaear. Roedd pawb yn y goedwig yn gwybod ei bod hi’n marw, ond nid oedd neb yn gwybod sut i’w gwella hi. Felly, dyma geidwad yr hen goeden, y dyn gwyrdd, yn casglu holl anifeiliad y goedwig at ei gilydd, yn y man yma, yn union ble rwyt ti’n sefyll. Dyma fe’n dweud, “Mae’r hen goeden yn marw achos rydym ni, a holl greaduriaid eraill y wlad, wedi anghofio ei henw hi. Rydym ni wedi anghofio taw hi yw calon y goedwig, pa mor bwysig ydy hi. Ac os mae’r hen goeden yn marw, fe fydd y goedwig, hefyd, yn marw, achos rydym ni gyd yn gysylltiedig â’n gilydd.”
Aeth y dyn gwyrdd yn ei flaen. “Achos bod enw’r hen goeden wedi cael ei anghofio, nid yw hi’n bosib i ni ei gwella hi, na diogelu’r goedwig, heb gofio’i henw. Ydy unrhywun yn ddigon dewr i fynd ar daith i ddod o hyd i enw’r hen goeden, dod â fe nôl yma, a gyda fe ei gwella hi ac amddiffyn y goedwig?
Nawr, ymysg anifeiliaid y goedwig roedd yna nifer oedd yn meddwl eu bod nhw’n ddigon dewr am dasg arbennig fel hwn. Roedd yna Fochyn Daear, a oedd yn gryf iawn gyda chyhyrau mawr, ond roedd Mochyn Daear gyda tymer drwg ac yn gwylltio’n hawdd, felly nid oedd yr anifeiliaid eraill yn siwr taw fe oedd yr opsiwn gorau. Roedd yna Dylluan, a oedd yn hynod o ddoeth, ac yn gwybod lot o bethau nad oedd unrhywun arall yn gwybod, ond roedd hi’n flinedig iawn ac weithiau’n syrthio i gysgu heb rybudd yn ystod y dydd. Roedd yna Wenci, ond roedd Gwenci wedi’i drysu’n hawdd, ac yn aml yn arogli rhywbeth o ddiddordeb a rhedeg i ffwrdd i’r cyfeiriad anghywir.
Felly roedd yna lot fawr o ddadlau ymysg yr anifeiliaid ynglun â phwy ddylai ymgymryd y dasg anodd a pheryglus hon. Tan fe godwyd lais bach iawn uwchben y lleill.
“Yyy, fe alla i drio,” meddai Llygoden.
Nawr roedd Llygoden yn fach iawn. Roedd e’n brawychu’n hawdd. Roedd gyda fe goesau bach iawn ac er ei fod e’n rhedeg yn gyflym iawn, cymerodd e amser hir i wneud pethau achos roedd e mor fach. Ac edrychodd yr anifeiliaid eraill ar Llygoden mewn ansicrwydd achos nid oedden nhw’n meddwl ei fod e’n mynd i fedru cyflawni’r dasg.
“Dwi ddim am gamu ar bawennau unrhywun arall,” dywedodd Llygoden, “dwi jyst ishe trio helpu. Dwi ddim yn ddewr iawn na chwaith yn glyfar iawn ond hoffwn i drio bod o les i bawb.”
Clywodd y dyn gwyrdd y geiriau yma, a sythodd ei ysgwyddau. “Llygoden fydd yr un sydd yn teithio ymlaen i ddod o hyd i enw coll yr hen goeden a gwella’r goedwig.”
A theimlodd Llygoden ei galon bitw fach yn pwmpio’n galed iawn yn ei fron wrth iddo fe drio teimlo’n ddewr, a thrio peidio gwrando ar swn sibrwd yr anifeiliaid eraill. Roedd e’n gwybod ei bod nhw’n amau nad oedd e’n ddigon dewr. Achos roedd e’n amau ei hun hefyd.
“Ble ddylai fynd gynta?” gofynnodd i’w hun. “Yn wir does gen i ddim syniad. Dwi’n siwr bod rhai o’r anifeiliaid eraill lot yn fwy addas i dasg fel hon. Rydw i mor fach. Ond nath y dyn gwyrdd fy newis i felly mae’n rhaid i mi fyd. Dwi’n siwr bod hi’n well dechrau na gerdded ling-di-long, felly bant â fi.” Ac achos roedd e’n teimlo’n well yn syth ar ôl setlo ar gynllun, ailadroddodd e hwn i’w hun wrth iddo fe redeg ar ei ffordd.
“Bant â fi. Bant â fi. Bant â fi.”
Efallai y gellid di ’neud yr un peth â Llygoden? Beth am ei gysuro fe wrth iddo fe redeg? Mae e angen i ti deithio wrth ei ymyl. Mae e’n mynd tuag at y bont.