Llwybr Stori Fferm y Fforest
Y Lleiaf a’r Dewraf
(Taith gerdded 50 munud)
Mae enw’r hen goeden wedi ei hanghofio, ac hebddi mae hi’n marw. Os bydd yr hen goeden yn marw, bydd y goedwig yn marw hefyd, oherwydd bod popeth wedi’i gysylltu. Dim ond Llygoden sy’n gallu cychwyn ar daith i ddod o hyd i enw’r hen goeden, ond mae Llygoden yn fach iawn. A fydd e’n llwyddiannus?