Ychydig wythnosau wedyn aeth Mo a Mamgu â’r broga bach i lawr at lan y môr. Roedden nhw wedi eisiau gwneud yn siŵr ei bod hi wedi gwella’n gyfan gwbl yn gyntaf, o’i hanafiadau. Roedden nhw wedi ei chadw yn y bath yn nhŷ Mamgu, gyda digon o ddŵr a bwyd broga, yn ogystal â phethau dirgel o’r bag llaw, a phan roedd hi wedi gwella, roedd Mamgu wedi dweud ei bod hi’n barod, a bod yr amser wedi dod.
Fe wnaethon nhw ei rhoi hi yn y bag llaw, a mynd â hi i lawr i’r môr, ar y bws, i Draeth Sblot.
“Ydy hwn yn mynd i weithio?” gofynnodd Mo i Mamgu.
“Arhosa di,” meddai Mamgu.
Penliniodd Mo a thynnu’r broga bach allan o fag llaw Mamgu. Daliodd hi yng nghledr ei law. Blinciodd arno gyda’i llygaid broga mawr tywyll.
“Bydd yn rhydd,” meddai, a rhoddodd hi yn y môr.
Am eiliad doedd dim byd ond tonnau’r môr a phen bach broga yn siglo ar yr arwyneb. Ac wedyn, yn union fel roedd Mamgu wedi dweud, dyna lle oedd hi, yn ei holl ogoniant dreigiaidd, draig y môr yr oedden nhw wedi’i hachub o’r llyn, yn union fel y bu cyn iddi lyncu’r blodyn porffor.
Trodd i edrych arnyn nhw am un tro olaf, plygu ei phen mawr ariannaidd mewn diolch, ac yna plymio i’r môr. Neidiodd uwchben y tonnau am un tro olaf, llawen, cyn diflannu, am byth, yn ôl i’r lle y daeth hi, lle’r oedd hi bob amser wedi dyheu am fod.
“Bant â hi,” meddai Mamgu, yn gyfforddus.
Dyma nhw’n dal y bws adref gyda’i gilydd. Roedd Mamgu yn ffidlan yn ei bag llaw eto. Tynnodd diwb o fints allan a chynnig un i Mo, ond ni gymerodd ef un. Roedd yn ysu cael dweud rhywbeth.
O’r diwedd, dywedodd Mamgu, “Be’ sy’?”
“Y swyn! Roeddwn i’n meddwl ’nest ti ddweud bod yr swyn yn golygu bod yn rhaid cael ceidwad bob amser ar gyfer ogof drysor y brenin.”
“Oes.”
“Felly sut roedden ni’n gallu mynd â’r ddraig yn ôl i’r môr a’i rhyddhau hi?”
Gwenodd Mamgu wên lawn cyfrinachau. Cyffyrddodd â’i bag llaw. Nid am y tro cyntaf, roedd Mo yn meddwl tybed pa gyfrinachau eraill oedd ganddi yno.
“Dewch i ni ddweud na fydd e’n ceisio unrhyw driciau i ddwyn y trysor eto.”
A dyma Mo yn deall o’r diwedd.
Pan roddodd y blodyn i’r ddraig, roedd y swyn a’i daliodd hi’n dynn wedi’i dorri. Ond roedd swyn yr ogof yr un mor gryf o hyd. Ac roedd yna un creadur byw wedi bod yn y llyn bryd hynny – y pysgotwr, wedi’i daro dros ei ben gyda bag llaw Mamgu.
“Fe sy’ lawr ’na nawr, yndy e?” meddai Mo. “Ceidwad yr ogof, dros y brenin. Ydy e’n ddraig hefyd, nawr, neu wedi aros fel pysgotwr?”
“Mae’n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod,” meddai Mamgu, ond roedd Mo yn meddwl ei bod hi’n gwybod yn iawn, oherwydd roedd Mamgu yn gwybod popeth.