Bag Llaw Mamgu – Rhan 5

Daeth Mo a Mamgu i lawr at y llyn y noson wedyn, yn union fel roedd yr haul yn machlud. Roedden nhw’n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fod yn gyflym, os oedd ganddyn nhw siawns o achub draig y môr cyn i’r pysgotwr gyrraedd yno.

“Blodyn porffor yw e,” meddai Mamgu wrth Mo. “Mae’n tyfu yng nghanol y garlleg gwyllt. Cyflym, cer i chwilio amdano. Wnai gadw golwg mas.”

Cydiodd yn ei bag llaw yn dynn a theimlodd Mo ei galon yn taranu yn ei frest mewn ofn.

“Beth os daw’r pysgotwr?”

“Gadewch e i mi,” meddai Mamgu. “Cer nawr. Cer i nôl y blodyn.”

Dechreuodd Mo i edrych o dan y coed, yng nghanol y garlleg gwyllt, ond roedd y golau’n pylu’n gyflym, a nid oedd ei lygaid yn addasu i’r tywyllwch. Syllodd a syllodd. Roedd e ar ei bengliniau’n chwilio yn y gwair. Ac yna, yn sydyn, fe’i clywodd.

Pesychodd Mamgu, yn uchel. Hwn oedd y signal.

Aeth cryndod ofnadwy i lawr asgwrn cefn Mo.

Swatiodd i lawr yn y garlleg gwyllt, prin y gallai anadlu.

Clywodd Mo lais isel a bygythiol. Y pysgotwr oedd e. “Beth wyt ti’n’i wneud fan hyn, hen wraig?”

“Dw i jyst allan am dro gyda’r nos,” clywodd Mo Mamgu yn dweud. “Beth amdanat ti? Rwyt ti wedi gwisgo braidd yn od ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, rhaid dweud. Ac ife gwaywffon yw hwnna?”

“Dim o dy fusnes di, yr hen ystlum. Nawr, symuda ’mlan, cyn i mi dy orfodi di.”

“Wrth gwrs, syr,” meddai Mamgu, yn esgus bod yn gwrtais. Cododd ei llais ychydig. “Ond, efallai y bydd rhaid i mi grafu o amgylch o dan rhai o FONCYFF Y COED cyn mynd.”

“Beth wyt ti’n sôn am? Symuda!” Roedd y pysgotwr yn swnio’n wyllt gacwn a chlywodd Mo olion traed Mamgu yn diflannu i’r pellter. Roedd e ar ei ben ei hun. Ac nid oedd ganddo’r blodyn porffor.

Am beth roedd Mamgu wedi bod yn sôn? Boncyffion coed? Oedd hi wedi bod yn ceisio gwylltio’r pysgotwr?

Boncyffion coed!! Neges iddo fe oedd!

Mor dawel ag y gallai, cropiodd i waelod y goeden agosaf a dechrau teimlo yn y ddaear. Roedd ei fysedd yn cyffwrdd â rhywbeth: coesyn bach a phen blodyn gyda phetalau meddal. Blinciodd, erfyn ar ei lygaid i weld yn y tywyllwch. Ai ei ddychymyg ef oedd hi neu a oedd y blodyn yn ei fysedd yn lliw porffor llachar? Roedd yn rhaid ei fod.

Torrodd y coesyn yn ofalus, er mwyn peidio niweidio unrhyw un o’r planhigion eraill gerllaw. Rhoddodd ef yn ei boced. Arhosodd, ei wynt yn ei ddwrn, i weld beth fyddai’n digwydd nesaf.

Clywodd sŵn y pysgotwr yn gwichian i lawr at ymyl y dŵr ac, yn araf bach, yn mynd i mewn i’r llyn. Yna roedd tawelwch. Distawrwydd oer, gwag, ydoedd. Doedd dim synau adar. Dim symudiadau anifeiliaid bach y nos. Roedd popeth yn aros i weld beth fyddai’n digwydd.

Yna – TWRW ENFAWR.

Yn saethu allan o’r llyn daeth y ddraig, mewn panig llwyr, yn ofni am ei bywyd. Mewn ton enfawr o ddiferion sgleiniog, cododd ei hun allan o’r dŵr a dechrau fflipio a fflapio dros y ddaear tuag at y coed ble roedd Mo yn cuddio. Roedd Mo yn fodlon ei gweld hi’n symud mor gyflym. Nid oedd yn meddwl y byddai’r pysgotwr yn gadael iddi fynd mor hawdd â hynny.

“Dere ’ma! Dere i fi! Wnai dy helpu di!” hisiodd, mor uchel ag y meiddiai, ac yna bu bron iddo ddifaru, oherwydd dyna lle roedd draig enfawr menw panig mawr yn carlamu tuag ato fe.

Yn lwcus, dyma hi’n dod i stop sydyn pan welodd hi ef, ei llygaid yn enfawr ac yn llawn arswyd.

“Helo,” meddai Mo, “Rydw i’n mynd i dy helpu di. Rydw i’n mynd i ddod o hyd i ffordd i dy helpu di i ddianc i ddiogelwch. Dwi angen i ti agor dy geg.”

Ond roedd hi’n ysgwyd ei phen enfawr. Y swyn, meddyliodd Mo, ni alla hi byth adael oherwydd y swyn. Rhaid iddi warchod trysor y brenin beth bynnag. Hi yw’r ceidwad. Yn union fel y daeth y meddwl hwn iddo, clywodd e rywbeth arall.

“MOOOOO!” Mamgu oedd hi. Wedi dod yn ôl. Nid oedd hi wedi mynd yn bell, ni fyddai hi byth wedi’i adael.

Dyna lle oedd hi, yn carlamu drwy’r coed tuag ato, ei bag llaw yn hedfan.

“Gyflym! ’Na fe’n syth!” roedd hi’n gweiddi. “Mae’r pysgotwr yn dod!”

A dyna lle roedd e – sglain arian yn y llyn wrth i’r pysgotwr ymddangos, yn dywyll ac yn ofnadwy yn ei siwt wlyb, o’r dwr, a’i lygaid yn sgleinio gyda buddugoliaeth wrth iddo godi’r waywffon yn uchel, yn barod i’w blymio yn ochr y ddraig. Ond – SMAC! Roedd Mamgu wedi ei drawio dros ei ben gyda’i bag llaw.

“Nawr!” gwaeddodd hi ar dop ei llais.

“Dwi angen i ti fy nhrystio i,” meddai Mo wrth y ddraig.

Trodd y ddraig ei llygaid mawr tywyll ato. Agorodd ei cheg.

Cododd y pysgotwr o’r llyn unwaith yn rhagor, ei ddannedd yn disgleirio, gan droi ei waywffon ar Mamgu y tro hwn.

Llenwodd Mo gydag ofn.

SMAC – Glaniodd bag llaw Mamgu ar ben y pysgotwr am yr eildro a dyma fe’n syrthio yn ôl i fewn i’r dŵr.

A rhoddodd Mo y blodyn porffor yng ngheg y ddraig.

A newidiodd popeth.