Arhosodd Mo nes iddi nosi, ac yna aeth yn ôl at y llyn. Roedd e’n teimlo’n sicr y byddai’r pysgotwr nad oedd yn bysgotwr go-iawn yn aros iddi fynd yn dywyll, pan allai fod yn sicr na fydd unrhywun yn ei weld.
Ni ddywedodd Mo air wrth Mamgu am beth roedd e’n bwriadu gwneud, roedd e’n gwybod na fyddai hi’n gadael iddo fe fynd ar ei ben ei hun yn y nos, a byddai eisiau dod gydag ef. Ond roedd Mo yn meddwl y gallai gwneud hwn ar ei ben ei hun.
Daeth o hyd i ardal o gyrs trwchus i lawr ar lan y llyn a oedd yn ddigon mawr i fachgen bach guddio ynddi, a swatiodd yno. Cyn bo hir aeth ei draed yn wlyb iawn ac yn oer iawn. Dechreuodd e grynu gyda’r oerfel. Roedd e’n dechrau sylweddoli bod hyn i gyd yn syniad drwg iawn. Roedd e ar fin penderfynu y byddai’n mynd adref a gofyn i Mamgu wneud paned mawr o siocled poeth iddo, pan welodd e rywbeth allan o gornel ei lygad.
Y pysgotwr. Dyna lle oedd e – y dyn anferth – ac roedd e’n dringo ALLAN O’R LLYN. Un funud roedd gwyneb y llyn wedi bod yn llyfn ac yn awr, roedd y pysgotwr yn tynnu ei hun allan ohono, yn diferu’n wlyb. Roedd yn gwisgo rhyw fath o siwt wlyb, y cyfan yn llyfn ac yn ddu yng ngolau’r lleuad, ac yn ei law roedd e’n cario – rhyw fath o arf. Rhywbeth a fflachiodd yn beryglus. Gwaywffon.
Roedd yn ddigon agos i Mo ei glywed yn siarad i’w hun.
“Ychydig yn agosach a byddwn i wedi ei chael hi. Nos yfory, dyna fydd y diwedd arni hi.”
Ac yna camodd y pysgotwr i ffwrdd ar hyd y llwybr, tuag at y tai ac i ffwrdd o’r llyn, gan adael llwybr o olion traed llaith.
Roedd Mo wedi’i ddychryn yn llwyr. Roedd e wedi bod yn gywir. Roedd y pysgotwr yn gweithredu ryw ddrygioni. Ond pwy oedd hi? Pwy bynnag oedd hi, roedd y pysgotwr yn amlwg yn bwriadu ei brifo.
Roedd Mo ar fin rhedeg adref a dweud popeth wrth Mamgu pan welodd e wyneb y llyn yn gwneud rhywbeth rhyfedd. Rhyw fath o fyrlymu am eiliad. Edrychodd arno trwy’r cyrs. Na – nid oedd yn byrlymu, roedd rhywbeth yn dod i lan, rhywbeth arall yn ymddangos o’r dwr. Ond roedd y peth hwn oedd yn cymryd ei hamser. Ar yr arwyneb roedd rhywbeth wedi ymddangos – rhywbeth oedd yn edrych fel talcen ariannaidd mawr cennog. Ac o dan y talcen roedd dau lygad mawr tywyll, yn sgleinio, yn syllu o gwmpas.
Prin y meiddiai Mo anadlu.
Yn araf, araf iawn, fel pe bai hi unrhyw eiliad yn gallu brawychu a phlymio yn ôl i lawr i’r dyfnder, ymddangosodd ben, gyda thrwyn ariannaidd hir. Yna daeth corff, yn llipa ac yn hir a chennog, ac yna cynffon a phedair coes gyda chrafangau miniog. Yna tynnodd y ddraig ei hun i fyny ar y lan ac i mewn i’r coed. Gorweddodd hi yn y garlleg gwyllt, yn union lle roedd Mo wedi gweld bod yna sathru ar y ddaear o’r blaen. Ochneidiodd hi anadl ddofn. Dechreuodd fwyta rhywfaint o’r garlleg.
Sylweddolodd Mo yn sydyn ei bod wedi ei hanafu. Roedd rhai o’u chennau arian ar goll. Mae’n rhaid ei bod hi’n dod allan o’r llyn i fwyta’r garlleg oherwydd roedd e’n gwneud iddi hi deimlo’n well.
Wrth iddo sylweddoli hyn, rhoddodd y ddraig ochenaid ddofn, drist arall. Torrodd calon Mo drosti. Roedd y pysgotwr drwg wedi gwneud hwn iddi, er mwyn cyrraedd trysor y brenin. Ac roedd yn swnio fel na fyddai’n stopio, dim nes iddo ei lladd, a dod o hyd i ffordd i mewn i’r ogof drysor o dan y dŵr tywyll.
Roedd yn rhaid i Mo wneud rhywbeth i helpu. Ond beth allai ei wneud? Dim ond bachgen bach oedd e.
Ond roedd yna rywun a allai helpu. Rhywun a oedd yn gwybod popeth oedd i wybod am drysor y brenin a’r ogof. Rhywun â bag llaw yn llawn cyfrinachau.
Allet ti ddyfalu pwy oedd hi?