Roedd y stori a ddywedodd Mamgu wrth Mo yn un yr oedd llawer o bobl yn gwybod, ond, yn araf deg, dros amser, wedi anghofio. Roedd fersiynau o’r stori wedi’u hadrodd dros y blynyddoedd – rhai ohonyn nhw’n fwy cywir nag eraill – ac fel llawer o chwedlau, roedd darnau wedi cael eu hychwanegu, manylion wedi’u gorliwio, nes bod pawb yn gwybod fersiwn ychydig yn wahanol a’r unig beth roedd pawb yn cytuno arno oedd bod ogof a thrysor brenin ynddi, o amser maith yn ôl, o dan y llyn.
A dweud y gwir, beth fyset ti’n ei feddwl pe bawn i’n dweud wrthyt ti mai Mamgu Mo oedd yr unig berson oedd â’r stori’n hollol gywir? A bod Mo ei hun yn iawn, hefyd, am un peth. Roedd yn llygad ei le mai bywyd unig oedd hi, i fod yn geidwad yr ogof drysor o dan y llyn. Yr hyn nad oedd yn gywir amdani oedd bod y creadur a oedd yn gwneud y swydd yn un frawychus. Roedd hi’n eithaf mawr, ond doedd hi ddim yn arbennig o frawychus o gwbl, o leiaf onibai os nad oeddet ti’n ceisio mynd i mewn i’r ogof.
Roedd hi’n ddraig. Ond nid draig arferol, draig y môr oedd hi. Amser maith yn ôl, roedd hi wedi cael ei dal gan y brenin a’i gorfodi i warchod yr ogof o dan y llyn. Doedd ganddi hi ddim dewis: roedd yr swyn a oedd wedi gwneud yr ogof hefyd yn ei dal hi’n dynn. Fel y dywedodd Mamgu, roedd rhaid cael ceidwad ar gyfer yr ogof, drwy’r amser.
Am filoedd o flynyddoedd, roedd draig y môr wedi aros yno yn nyfnderoedd tywyll y llyn, heb wneud dim, oherwydd nid oedd neb wedi ceisio mynd i mewn i’r ogof a chymryd trysor y brenin. Nawr ac yn y man, byddai’n agor ei llygaid mawr gwyrdd i edrych ar y golau haul ymhell uwch ei phen yn dawnsio ar arwyneb y llyn. Byddai’n meddwl cymaint y byddai wrth ei bodd yn teimlo’r awel ar ei gruddiau. Sut y byddai hi wrth ei bodd yn nofio yn y môr, lle roedd hi wedi byw cyn iddi gael ei dal a’i rhoi yn y llyn. Roedd cymaint mwy o le yn y môr. Lle i neidio a chwarae a sblashio yn y tonnau. Yma, roedd yn rhaid iddi gyrlio i fyny ar waelod y llyn er mwyn peidio â symud gwyneb y dŵr. Roedd yn rhaid iddi aros nes ei bod yn dywyll i dynnu ei hun i fyny at lan y llyn a gorwedd yn y goedwig a hyd yn oed wedyn ni fyddai’r swyn yn gadael iddi fynd yn bell o’r dwr.
Roedd hi’n gweld eisiau’r môr: yn hiraethu amdano. Roedd hi’n gweld eisiau ei theulu. Weithiau byddai’n crio dagrau mawr dreigllyd i lawr yno yn y dŵr tywyll.
Ond ni allai hi adael. Ni fyddai swyn y brenin yn gadael iddi wneud.
Ac felly arhosodd hi, wrth i’r byd o amgylch y llyn newid. Wrth i dai dyfu i fyny o’i gwmpas. Wrth i blant fel Mo reidio eu beiciau o gwmpas y llyn, a physgotwyr yn dod i daflu eu llinellau ynddo, ac adar yn nofio ar yr arwyneb ac yn gwneud eu nythod o amgylch glan y llyn.
Arhosodd y ddraig i lawr yno trwy popeth. Tan un diwrnod.