Un tro, roedd yna frenin. Fel llawer o frenhinoedd, roedd e’n gyfoethog iawn. Roedd e wrth ei fodd yn cyfri ei ddarnau aur, yn sgleinio ei dlysau, ac yn mwynhau ei gyfoeth i gyd. Nid oedd e’n hoff iawn o rannu. Ei drysor oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd, ac roedd am gadw’r cyfan iddo fe ei hun.
Wrth i amser fynd heibio, tyfodd y brenin hwn yn hen. Trodd ei farf yn llwyd. Gwyddai, yn fuan, y bydd ei amser drosodd. Nid oedd yn poeni llawer am hynny. Ond roedd e yn poeni am ei drysor. Nid oedd am i neb arall gael eu dwylo arno. Roedd angen iddo fe ddod o hyd i ffordd o’i gadw’n ddiogel, am byth bythoedd, fel ei fod e bob amser yn eiddo iddo fe, a dim ond fe, am weddill amser.
Dyna sut roedd Mamgu Mo bob amser yn dechrau’r stori. “Beth ddigwyddodd nesaf?” byddai Mo yn gofyn iddi.
Byddai Mamgu’n dweud, “Dyma’r rhan o’r stori y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi’i hanghofio.”
Byddai’n dal ei bag llaw yn dynn wrth iddi siarad, oherwydd roedd gan Mamgu Mo ei bag llaw gyda hi bob amser, ac weithiau daeth cyfrinachau allan ohono.
“Wyt ti eisiau gwybod beth ddigwyddodd nesaf?” bydd Mamgu’n gofyn i Mo. “Achos dwi’n gwybod. Dwi’n gwybod popeth.”
Nid oedd Mo yn siŵr bod Mamgu yn gwybod popeth, ddim mewn gwirionedd. Ond byddai’n dal ati gyda’i stori, a bydd Mo yn gadael iddi wneud, oherwydd roedd e’n yn caru ei straeon hi.
“Nid brenin yn unig oedd y brenin hwn,” meddai Mamgu. “Roedd e hefyd yn ddewin. Gweithiodd ei hud, a dyma fe’n creu ogof, o dan y llyn, yn y fan hon. Dyma fe’n gwau ryw fath o swyn a gosod ei drysor tu fewn i’r ogof, o dan y dwr tywyll.”
“Ond gall rhywun nofio i lawr, os oedden nhw’n gallu dal eu hanadl yn ddigon hir?” Byddai Mo yn dweud. “Rhywun fel fi, a oedd yn nofiwr da. Gall rhywun fynd i mewn i’r ogof a chymryd trysor y brenin.”
“Roedd y brenin wedi meddwl am hynny,” meddai Mamgu. “Rhoddodd e swyn arall ar yr ogof o dan y dwr a’r trysor yr oedd e’n caru gymaint. Roedd y swyn yn golygu bod yn rhaid cael creadur yn gwarchod y trysor bob amser. Rhaid cael ceidwad bob amser ar gyfer yr ogof o dan y llyn. Rhaid i’r ceidwad i fod yn gryf, a rhaid iddo warchod y trysor am byth.”
“Ond pwy yw’r ceidwad nawr?” byddai Mo yn gofyn.
“Pwy a wyr?” meddai Mamgu, a dylyfu gên yn enfawr. “Mae hynny cyn belled ag y gallai i fynd. Dyna’r holl stori dwi’n ei gwybod.”
Byddai’r stori’n byrllymu o gwmpas pen Mo pryd bynnag y daeth e i lawr yma. Byddai’n meddwl am yr ogof, o dan ddŵr y llyn. Byddai’n sefyll lle rwyt ti’n sefyll nawr, yn edrych allan ar draws y dŵr, a byddai’n meddwl am drysor y brenin. Ond yn bennaf oll byddai’n meddwl am geidwad yr ogof – y creadur a warchododd yr holl aur ac arian a thlysau i’r brenin a oedd wedi hen ddiflannu.
Mae’n rhaid ei fod yn fywyd unig, meddyliodd Mo, i lawr yno yn nyfnder y llyn ar dy ben dy hun bach. Ac mae’n rhaid ei fod yn greadur mawr a brawychus, i gael y gwaith o warchod trysor brenin yn y lle gyntaf.
Ac yna byddai’n ysgwyd y stori allan o’i ben, ac yn parhau ar ei ffordd.
***Beth am i ni fynd gydag ef, nawr.