Mae amser maith, maith wedi mynd heibio ers i mi fyw yma ar ben y bryn hwn, ers i’r fryngaer ddisgleirio’n wyrdd ac roedd pobl yn gwybod ei bod hi’n lle hudolus. Adeiladwyd yr eglwys hon gannoedd o flynyddoedd ar ôl i mi fyw yma. Mae pobl wedi mynd a dod, wedi gwneud eu cartrefi yma, wedi dod yma i fagu teuluoedd neu bori eu hanifeiliaid neu ddathlu dyddiau arbennig neu addoli eu duwiau. Mae’r goedwig dderw wedi mynd yn awr – nawr, wrth edrych i lawr o’r gaer, fe welwch y ddinas sydd wedi tyfu yn ei lle, miloedd o dai yn tyfu lan yn lle miloedd o goed. Mae fy olion traed ar y ddaear wedi cael eu gorchuddio gan darmac a phalmentau. Ond cerddais yma. A gwnaeth y bleiddiaid gerdded hefyd.
Mae’r bleiddiaid wedi hen fynd, hefyd. Ni chadwodd y bobl a ddaeth ar fy ôl ein haddewid iddyn nhw. Buon nhw’n eu hela nes, o’r diwedd, nid oedd yr un flaidd ar ôl. Ond, clywais sôn, efallai bod y bleiddiaid yn dychwelyd i’r wlad hon. Gannoedd o flynyddoedd ar ôl iddyn nhw ddiflannu, mae’r amser wedi dod i’r bleiddiaid ddod yn ôl.
Tybed a fydden nhw byth yn dod yn ôl yma, i’r lle hwn, i’r gaer werdd. Oherwydd bydd y lle hwn bob amser yn arbennig. Bydd hi bob amser yn hudol.
Cymera eiliad cyn i ti adael i anadlu’r aer lan fan hyn, i feddwl sut deimlad yw bod ar ben y byd, fel yr wyt ti ar hyn o bryd. Cymera rhwbiad olaf o’r eglwys hon. Ac wrth i ti wneud dy ffordd yn ôl i lawr, paid ag anghofio, rwyt ti’n cerdded yn olion traed y bleiddiaid.