Cyn i mi allu meddwl am gynllun, roedd yn rhaid i mi fynd i dŷ crwn fy nheulu, i’w helpu i baratoi ar gyfer y rhyfel oedd i ddod. Roedd gennym ein hanifeiliaid ein hunain, ein gwartheg a’n moch, ac roedd yn rhaid i ni geisio dod o hyd i ffordd o’u hamddiffyn pan oedd yr ymladd yn digwydd. Dechreuais fynd â nhw i’r fuarth. Fy hoff fuwch aeth i mewn olaf. Gwyliais i hi’n cerdded yn araf y tu ôl i’w ffrindiau, a dymunais cael bod mor ymlaciedig â hi. Nid oedd y gwartheg byth yn ymddangos yn ofnus o unrhyw beth. Dim ond pan fyddai’r bleiddiaid yn ymosod y byddent yn dechrau mynd i banig, gyda’u llygaid yn rholio ag ofn, yn stampio ac yn crynu tu ôl i’w ffens.
Wrth i mi aros i’r fuwch i wneud ei ffordd araf, cofiais un noson oer o aeaf, y flwyddyn ar ôl genedigaeth y blaidd gyda’r smotiau ar ei thrwyn. Roedd y rhybydd wedi mynd allan ar y fryngaer bod y bleiddiaid unwaith eto yn ymosod arnom ni. Suddodd fy nghalon. Beth os oedd hi, y blaidd gyda’r smotiau ar ei thrwyn, yn un ohonyn nhw? Roeddwn i’n dyheu i’r bleiddiaid adael, a mynd i rywle arall, ond roedden nhw’n ymosod bob gaeaf pan oedd bwyd yn brin ac roedden nhw’n llwglyd. Roeddwn i’n gwybod pam eu bod yn gwneud. Ond roedd y pentrefwyr eraill yn wyllt gacwn. Pe bai’r bleiddiaid yn ymosod, bydden nhw yn eu hymladd, gan ddathlu pan laddwyd un, ac yna’n eu herlid yn ôl i’r goedwig, yn eu rhedeg i lawr nes ddaeth toriad y wawr.
Y noson honno, roeddwn i wedi ymuno â gweddill y pentrefwyr i gadw llygaid mas am y bleiddiaid. Roedden nhw wedi bod yn dawel i ddechrau, yn sleifio yn y tywyllwch ar hyd ymyl y pentref, eu llygaid yn disgleirio yng ngolau’r tân. Ond wrth i’r lleuad godi’n uwch yn yr awyr, dechreuodd eu boliau i rymblan yn newynog, a dyma nhw’n dechrau rhedeg atom ni, eu cegau’n hongian ar agor, yn pantio. Gwyliais fy mhobl yn ymladd yn ôl, ac ymladdais hefyd, ond nid mor gryf ag oeddwn i’n gallu. Roeddwn i’n chwifio fy ngwaywffon ar y tywyllwch, yn gweiddi ar y bleiddiaid i’w curo’n ôl, ond wnes i ddim niwed i’r un ohonynt.
Ac yna fe ddigwyddodd. Neidiodd blaidd o’r tywyllwch, mor dywyll fel ei fod e’n rhan o’r tywyllwch, dros ein pennau ac i fewn i’r fuarth. Roedd e wedi cymryd dafad cyn i ni wybod beth oedd yn digwydd. Ffrwydrodd ddicter ymhlith y pentrefwyr i gyd. Yn lle amddiffyn ein pentref, dyma nhw nawr yn dechrau ymosod ar y bleiddiaid. Dechreuon nhw redeg y bleiddiaid yn ôl i lawr y bryn tuag at y goedwig.
Ac fel y gwnaethant, gwelais i hi, y blaidd gyda’r smotiau ar ei thrwyn, wedi’i dychryn yn llwyr yn awr, yn rhedeg tu ôl i’r bleiddiaid eraill. Ac roeddwn i’n gwybod beth fyddai’n digwydd iddi pe bai un o’r pentrefwyr yn ei dal.
Fe wnes i’r unig beth y gallwn feddwl ei wneud.
“Dilynwch fi, ffordd ’ma!” galwais ar dop fy llais. “Bydden nhw’n cymryd y llwybr gorllewinol, gallwn ni eu dala nhw ar waelod y bryn!”
A gan fod fy mhobl yn ymddiried ynof fi, yn credu fy mod i’n gwybod y goedwig a’i chyfrinachau, daethant gyda mi.
Dihangodd y bleiddiaid y noson honno, bob un ohonyn nhw. Fe wnes i’n siŵr ohono.
Cofiais hwn yn awr wrth i mi gau y giât bren ar ôl ein gwartheg. Wrth i mi feddwl am y frwydr oedd yn ein hwynebu ni gyd, y frwydr nad oeddem ni’n barod amdani o gwbl.
Efallai roedd yna rywbeth roeddwn i’n gallu’i wneud, wedi’r cwbl.
“Wnai ddychwelyd cyn gynted ag y gallaf,” dywedais, ac yna bant â fi, yn ôl i lawr y llwybr hwn, yn ôl tuag at y goedwig yn llawn clychau’r gog, tuag at y bleiddiaid.
Dere gyda fi nawr. Mae gymaint i’w wneud, cyn i ryfel ddod i’r gaer werdd. Paid ag anghofio cymryd rhwbiad cyn i ti fynd.