Dyma sut roedd fy nghaer werdd yn edrych. Ond lot, lot yn fwy. Rwyt ti’n sefyll ar rhan bach iawn ohoni. Allet ti weld sut mae’r rhagfuriau’n codi o dy gwmpas di? Pa mor dal yr ydyn nhw, sut maen nhw’n taflu cysgodion mawr ar y ddaear? Ond cofia, roedden ni dal yn adeiladu’r rhagfuriau pan roedd y stori hon yn digwydd. Felly byddai wedi edrych ychydig yn wahanol. Roedd pentyrrau o bridd dros y lle, a’r rhagfuriau wedi eu haner-adeiladu, a ninnau yn dal yn nghanol rhywbeth a oedd yn mynd i gymryd amser maith i ni orffen. Roeddem yn llai ddiogel na ti, pe bai bryngaer arall yn dewis ymosod ar hyn o bryd.
Roedden ni wedi bod yn casglu ein pobl o’r pentrefi i’r dwyrain a’r gorllewin i ddod i’n helpu ni i adeiladu’r rhagfuriau, a bu gwleddoedd bob nos i wobrwyo’r gweithwyr am eu gwaith caled. Roedd y gaer werdd yn teimlo fel petai bod gwyl yn digwydd drwy’r amser: dod yn ôl ati oedd fy hoff ran o’r diwrnod, oherwydd roedd rhywbeth yn coginio bob amser, a chaneuon yn cael eu canu, a phlant yn sgrialu o amgylch a chwarae yn y baw.
Ond heddiw, pan gyrhaeddais y fryngaer, sylweddolais yn syth bin fod rhywbeth o’i le.
Y bobl oedd wedi dod i’n helpu ni i gloddio, roedden nhw i gyd yn gadael. Doedd dim dathlu ar ôl diwrnod o gloddio fel arfer, o gwmpas pwll tân mawr gyda chig i’w fwyta a chaneuon i’w canu a straeon i’w hadrodd. Yn lle hynny, roedd pawb yn rhuthro o amgylch mewn panig. Roedd pobl y gaer werdd yn casglu arfau. Roedd y tanau gwledda wedi cael eu diffodd. Nid oedd y plant yn chwarae: yn hytrach, roedden nhw’n cwtshio gyda’i gilydd mewn grwpiau bach, ofnus.
Roedd rhyfel yn dod i’r gaer werdd, cyn bod y gaer werdd yn barod amdani.
Erbyn i mi gyrraedd copa’r bryn, roeddwn i’n deall beth oedd yn digwydd. O’r gaer werdd, gallwch weld bryngaer arall i’r gogledd ac un i’r dwyrain. Ac o’r caerau hynny roedden ni’n gallu clywed swn drymiau’n curo. Roedd mwg yn codi i’r awyr. Roedden nhw’n paratoi ar gyfer brwydr. Roedden nhw’n mynd i ymosod arnom ni.
Roedden ni bob amser yn gwybod bod hyn yn risg. Roedd adeiladu ein caer ein hunain, ei gwneud hi mor gryf a mor bwerus, yn fygythiad iddynt.
Ond roedd rhyfel wedi dod yn rhy fuan. Nid oedd y rhagfuriau gwyrdd wedi eu gorffen. Nid oedden ni’n gallu amddiffyn ein cartref. Nid oedden ni’n gallu amddiffyn ein hunain.
Byddai rhyfel gyda ni erbyn iddi nosi.
Roeddwn i’n gallu gweld ar wynebau’r pentrefwyr eu bod nhw wedi eu dychryn yn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw wedi dechrau casglu eu hanifeiliaid – eu moch, a’u gwartheg – a chymaint o’u heiddo ag y gallent eu cario.
“Mae aros yn ddibwrpas,” medden nhw wrtha i. “Pobl dwy gaer yn erbyn un? Byddwn ni i gyd yn cael ein lladd, ein hanifeiliaid yn cael eu lladd a’n tai yn cael eu llosgi. Gallwn ni adael nawr, tra bod hi’n bosib gwneud, a dychwelyd yma unwaith y bydd y perygl drosodd.”
“Ond dyma ein cartref ni,” dywedais i wrthyn nhw. “Plîs, arhoswch. Mae’n rhaid i ni aros. Mae’n rhaid i ni amddiffyn ein caer werdd.”
Ond doedd neb yn gwrando arna i. Roedd wynebau pawb yn llawn ofn a phanig.
“Rho i mi nes bydd yr haul yn dechrau machlud,” dywedais. “Wnai feddwl am rywbeth.”
Ond doedd gen i ddim syniad o gwbl. A gan wylio fy mhobl yn disgwyl ar ben y bryn a’u pethau wedi eu gwasgaru o’u cwmpas, gan ddisgwyl imi ddod lan â chynllun, cefais fy llenwi gydag ofn.
Dere gyda mi nawr. Cerdda gyda mi. Mae cerdded yn helpu, yndydy, i glirio dy ben? I roi syniadau i ti? O leiaf rwy’n gobeithio y bydd. Os oes gennyt ti unrhyw syniad beth i\w wneud, beth am ei ddweud nawr?
Cyn i ti fynd, cymera rywbiad o’r fryngaer.