Clychau’r gog yw fy hoff flodyn. Yn y gwanwyn, byddai’r ddaear islaw’r coed derw mawr yn cael ei gorchuddio ganddyn nhw, a’r blodau’n ymestyn mewn ton fawr o las cyn belled ag y gallai’r llygad weld. Weithiau, roedd eu harogl, ac arogl y garlleg gwyllt a dyfai wrth eu hochr, yn ddigon cryf i orchuddio arogleuon a ddaeth i lawr o’r fryngaer. Mwg y tanau ac arogl tail a choginio bwyd – arogleuon fy nghartref.
Dyma beth rwy’n meddwl am y lle yma’n lle hudolus. Sai’n meddwl y gwnaeth unrhyw un arall, pan adawon nhw’r gaer werdd i fynd i hela, stopio i sylwi ar y clychau’r gog. Ond fe wnes i bob amser. A sylwais ar bethau eraill hefyd.
Dwi’n meddwl mai’r tro cyntaf i mi stopio i sylwi ar bethau oedd pan wnes i gyfarfod y blaidd llwyd.
Roeddwn i wedi gweld bleiddiaid o’r blaen, wrth gwrs. Roeddwn i wedi gweld disgleirdeb eu llygaid yn cael eu dal yn fflamau’r coelcerthi y gwnaethom eu cynnau i’w cadw draw oddi wrth yr anifeiliaid. Roeddwn i wedi gweld fflach tafod coch drwy’r coed wrth i barti ddilyn ar gynffon blaidd. Ond dyma’r tro cyntaf i mi ddod wyneb yn wyneb â blaidd, dim ond fi a’r blaidd, yma, yn y goedwig.
Roeddwn i wedi bod yn dilyn baedd gwyllt a’i moch bach hi. Roedd gen i ddwy gwningen ar fy nghefn yn barod, yn barod i fynd adref gyda fi, ac yn bwriadu ychwanegu eu crwyn at y flanced roeddwn i’n ei gwneud ar gyfer y gaeaf. Ond roeddwn i wedi gweld traciau baedd gwyllt, ac olion carnau llai ei babanod yn rhedeg ar ei hôl, a roedd rhaid i mi eu dilyn. Gwanwyn oedd hi, roedd bwyd ychydig yn brin fel y mae bob amser yn y gwanwyn, a roedd fy mola’n rymblan wrth feddwl am gig mochyn gwyllt i swper.
Camais drwy’r coed ar draed ysgafn, gan edrych drwy’r amser ar y ddaear o’m blaen. Ac yna clywais ef. A stopiais. Reit yn y fan hon.
Yno yr oedd hi eto: brigyn yn torri. Ac edrychais lan a dyna lle oedd hi.
Tafod pinc yn lolian rhwng dannedd hir, miniog. Llygaid miniog, melyn. Ffwr llwyd onibai am fand o wyn am ei gwddf. Bleiddast oedd hi.
Teimlais fy nghalon yn neidio i fewn i fy ngwddf. Roedd ei llygaid hi, y llygaid melyn, yn fy sugno i mewn. Y fath wylltineb oedd ynddi. Aeth popeth yn aneglur am eiliad, ac yna fe wnes i dalu sylw. Ymestyn am fy ngwaywffon. Fi neu hi oedd e. Naill ai byddai hi’n fy nghymryd i, neu byddwn i’n ei chymryd hi.
Ond cyn i mi allu taflu fy ngwaywffon, trodd y blaidd ei phen i ffwrdd fel pe bai wedi diflasu, a llithrodd i’r coed. Dilynais hi, roedd yn rhaid i mi – roeddwn i bob amser wedi cael fy nysgu, os rwyt ti’n gweld blaidd, rwyt ti’n ei redeg i lawr, neu bydd yn tyfu’n hyderus, ac yn dechrau ymosod ar y gaer, a chymryd ein hanifeiliaid.
Symudodd y blaidd drwy’r coed mor gyflym nes bod hi’n anodd i mi gadw lan gyda hi, ond eto nid oedd yn ymddangos ei bod hi ar frys. Dechreuais anadlu’n gyflwm. Penderfynais fy mod i’n mynd i fynd â’i chroen yn ôl i’r gaer, a gwneud blanced croen blaidd i’r gaeaf yn lle’r un groen cwningen. Fe wnes i ei dilyn hi trwy’r coed gyda fy llygaid, gan geisio dod o hyd i’r foment berffaith i daflu fy ngwaywffon.
Yn lle, gwelais i hi’n stopio, nid yn bell i ffwrdd, a rhoi ei thrwyn tua’r ddaear. A gwelais wedyn beth fyddwn i wedi sylwi petawn i wedi bod yn talu mwy o sylw o’r blaen – bod ei bol yn yn hongian tua’r llawr, a roedd hi’n feichiog.
Sai’n gwybod be ddaeth drosta i. Roeddwn i’n gwybod na allwn i ei lladd, nid tra roedd hi’n cario bleiddiaid bach. Nid oedd e’n gywir, rywsut. Felly wnes i droi, a mynd yn ôl i fyny tuag at arogl y mwg, yn ôl i fyny tuag at y pentref ar ben y fryngaer, a gadael llonydd iddi. Ni ddywedais wrth unrhywun beth oedd wedi digwydd. Roeddwn i’n gwybod y bydden nhw’n meddwl bod rhywbeth o’i le gyda fi, i adael i flaidd fynd yn rhydd, yn enwedig un oedd yn mynd i ddod â mwy o fleiddiaid i mewn i’r byd.
O hynny ymlaen, roeddwn i’n meddwl llawer am y blaidd llwyd, drwy’r amser a dweud y gwir. Roeddwn i’n meddwl na fyddwn yn ei gweld hi eto.
Ond fe wnes i. Yn wir, wnaeth hi ddim gadael llonydd i mi. Efallai oherwydd roeddwn i wedi gadael iddi hi fynd heb ei niweidio hi’r diwrnod hwnnw, gwelais y blaidd llwyd drwy’r amser. Roedd e fel pe bai ei bod hi wedi penderfynu ymddiried ynof i, a byddai’n ymddangos ar yr adegau rhyfeddaf, mwyaf annisgwyl. Byddwn i lawr wrth yr afon, yn diberfeddu pysgodyn, ac yn teimlo’r gwallt ar gefn fy ngwddf yn sefyll i fyny, ac yno byddai hi. Byddwn i’n rhedeg trwy’r coed ar draed meddal tawel ar ôl fflach carw coch, ac yn sydyn yn edrych i’r ochr a byddai’n rhedeg gyda mi, bob amser yn cadw i fyny, bob amser yn agos iawn i mi.
Gwelais hi trwy gydol y gwanwyn hwnnw wrth i’r clychau’r gog dyfu’n drwchus ar y ddaear a’i bol hi dyfu’n fwy ac yn fwy. Ac yna un diwrnod fe ddes i arni, yn union yr un man ag y gwelais i hi gyntaf, reit fan hyn. Roedd hi’n gorwedd ar y ddaear o dan goeden, ei thafod pinc yn hongian allan, ac o’i chwmpas roedd ei bleiddiaid bach hi.
Es i ddim yn rhy agos. Doeddwn i ddim eisiau ei dychryn hi. Ond ni wnes i unrhyw hela y diwrnod hwnnw. Gwyliais o bellter wrth i’r bleiddiaid bach chwyrnu a gwichian a chodi ar bawennau bach crynedig. Fy ffefryn oedd yr un oedd yn llwyd i gyd fel ei mam, heblaw am y smotiau bach ar ei thrwyn.
Ar ôl hynny, roeddwn bob amser yn ofalus i ddod i’r goedwig ar ben fy hun. I fyth sôn am y bleiddiaid wrth neb. Roeddwn i angen i’r blaidd gyda’r smotiau ar ei thrwyn i dyfu lan yn gryf ac yn ddiogel yn union fel ei mam.
Dere gyda fi nawr. Allet ti arogli coginio? Mae’n amser swper yn y fryngaer, ac mae angen i mi sicrhau fy mod yn ôl cyn i rywun fy ngholli. Ddim eisiau cael rywun yn dod i chwilio amdana i, nid gyda’r bleiddiaid o gwmpas. Allet ti fy nilyn? Dyma fy llwybr cyfrinachol, fi yw’r unig un sy’n gwybod amdano. Cer yn dawel. Os rwyt ti’n ceisio peidio â gwneud sŵn, ni fydd yr helwyr eraill yn dy glywed na chwaith y bleiddiaid.
Cyn i ti fynd, cymera rwbiad o’r clychau’r gog yma. Efallai rwyt ti’n gallu gweld rhai ar hyn o bryd, wedi’u gwasgaru o gwmpas o dan y coed.
Wrth i ti ddod yn nes at y fryngaer, wrth ddringo i fyny ei hochr orllewinol, rwyt ti’n sylweddoli…mae rhywbeth o’i le…
Tyfodd i fyny yn gyflym, y blaidd gyda’r smotiau ar ei thrwyn. Yn union fel roedd yn rhaid i mi ei wneud.