Y Gaer Werdd – Rhan 1

Dychmyga dy fod ti’n dal mesen yn dy law, yn union fel yr un hon. Efallai rwyt ti’n gallu dod o hyd i un rhywle gerllaw. Teimla ei phwys yn dy law. Dychmyga sut, pan fydd yr amser yn iawn, y bydd yn barod i dyfu. Byddai’n dechrau gwthio gwreiddiau i lawr i’r ddaear drwchus, llaith, ac eginau i lan tuag at yr awyr lachar uwchben. A dros amser maith, maith, dros gannoedd o flynyddoedd, bydd y fesen yn tyfu’n goeden derw, gyda boncyff trwchus a changhennau enfawr sydd yn gallu cofleidio’r awyr.

Dychmyga goedwig gyfan, anferth, o goed derw hynafol, enfawr, yn ymestyn am filltiroedd maith. Dychmyga sut brofiad fyddai cerdded drwy’r goedwig honno. I glywed y dail yn cremnshian o dan eich traed, a gweld golau’r haul yn diferu i lawr drwy ganghennau’r coed uwchben. Efallai, os rwyt ti’n gwrando’n ddigon astud, fe fyddet ti’n gallu clywed swn brigyn yn torri wrth i rywbeth symud drwy’r coed o dy flaen di. Rwyt ti’n stopio, prin yn anadlu, gan estyn am dy waywffon di, neu am dy fwa a saeth. Achos gallai’r peth hwnnw fod yn faedd gwyllt, neu’n garw, a dy waith di yw ei hela, i ddod ag ef yn ôl i dy bentref, i’r bobl sy’n byw yn y gaer werdd.

Ac weithiau rwyt ti’n stopio, prin yn anadlu, oherwydd gallai fod yn rhywbeth arall sy’n symud trwy’r coed. Rhywbeth sy’n hela hefyd. Rhywbeth a allai fod yn chwilio amdanat ti.

Blaidd.

Ond doedd gen i ddim ofn bleiddiaid. Roeddwn i’n gwybod ble roedden nhw’n mynd. Gallwn i eu dilyn nhw yn yr un ffordd â roedden nhw’n dilyn eu hysglyfaeth nhw. Weithiau, roeddwn i’n eu gwylio yn symud trwy’r goedwig, ar bawennau distaw, a byddwn yn gadael iddyn nhw basio, er na fyddai unrhyw heliwr arall wedi gwneud. Roedden ni i fod i amddiffyn ein hunain rhagddyn nhw, eu gyrru nhw i ffwrdd o’r gaer, neu bydden nhw’n cystadlu â ni am y baedd gwyllt a’r ceirw, ac weithiau’n torri i mewn i’r gaer a chymryd ein hanifeiliaid, ar nosweithiau oer yn y gaeaf pan roedd hi’n dywyll iawn a bwyd yn brin iddynt. Roeddwn i wedi amddiffyn y gaer werdd rhag y bleiddiaid sawl noson, wrth ymyl fy mhobl, ein tanau’n llosgi, ein llygaid yn straenio i weld y bleiddiaid yn symud yn y tywyllwch.

Ond rydw i’n mynd yn rhy gyflym.

Fy enw i yw Gwen. Roeddwn i’n arfer byw ar y fryngaer hon, amser maith yn ôl. Rydw i wedi bod yma trwy’r amser hwn, yn troedio’r llwybr hwn yr wyt ti’n sefyll arno, wrth i’r byd newid o’m cwmpas. Ac mae gen i stori i ti heddiw. Mae’n stori sy’n dechrau gyda’r gaer werdd, y fryngaer hon, ac yn gorffen gyda’r bleiddiaid.

Wyt ti’n barod i’w glywed? Bydd yn rhaid i ti fod yn ddewr, i ddod gyda mi. Nid chwedl i’r gwangalon mai hi.

Mae’n dechrau fel hyn.

Mae’n dechrau cyn i’r gaer gael ei hadeiladu’n iawn. Roedden ni ar ganol ei hadeiladu. Roedd pawb yn cydweithio gyda’i gilydd. Ti’n gweld, roedd y lle hwn yn arbennig. Roedd yn arbennig cyn i fy mhobl ddod i fyw yma. Os wyt ti’n sefyll ar dop y bryn, fel rwyt ti’n mynd i’w wneud mewn ychydig, rwyt ti’n gallu gweld am filltiroedd, i’r gorllewin, i’r gogledd, i’r dwyrain – a roedd pobl wedi bod yn dod yma ers miloedd o flynyddoedd, i wersylla, i fyw am rai fisoedd, i ddathlu ac i ddod at ei gilydd, i wledda ac i adrodd straeon. Ond nawr, roedden ni wedi penderfynu ei fod yn lle i ni fyw drwy’r amser, i ni adeiladu ein tai crwn a goleuo tanau a magu plant ac anifeiliaid. Ac i wneud hynny, byddai’n rhaid i ni gadw’r lle’n ddiogel, felly fe ddechreuon ni adeiladu, i gloddio yn y ddaear a chodi rhagfuriau tal a fyddai’n amddiffyn y fryngaer rhag unrhyw un a geisiai ymosod arnom ni.

Wrth i ni gloddio yn y ddaear gyda’n gilydd, gan weithio ysgwydd wrth ysgwydd, roedd y ddaear roeddem ni’n adeiladu i mewn i ragfuriau ein cartref newydd yn disgleirio’n wyrdd. Roedd e fel hud a lledrith. Y gaer werdd. Roedd pobl yn gwybod bryd hynny, os nad oeddent yn gwybod o’r blaen, fod hwn yn lle arbennig.

Pan oeddem wedi gorffen cloddio, y lle hwn fyddai’r lle mwyaf diogel yn y byd.

Ond roeddwn i bob amser yn gwybod bod y lle hwn yn hudolus, ers cyn i ni ddechrau adeiladu’r rhagfuriau. Roeddwn i wedi cerdded y llwybrau cyfrinachol hyn, y rhai rydyn ni’n mynd i gerdded gyda’n gilydd. Roeddwn i wedi gweld y goedwig yn ystod pob tymor o’r flwyddyn, ac roedd hi wedi dangos ei hud i mi. A roeddwn i wedi cwrdd â’r bleiddiaid.

Dere gyda fi nawr, yn gyflym, ar draed distaw. Efallai y byddet ti’n eu gweld nhw hefyd.

Cyn i ti ddod, cymera rwbiad o’r fesen hon. Caria fe gyda ti wrth i ni gerdded gyda’n gilydd trwy’r goedwig hynafol hon.