Rhan 5

Roedd yr aber agored nawr yn agos iawn a gyda chymorth y ddraig fach llwyddais i’w fflopio fe lawr tuag at ochr y môr. Pa fath o ddiwrnod yw hi gyda ti? Ydy’r môr yn crashio yn erbyn y morglawdd? Ydy hi’n dawel a llyfn fel darn o wydr?

Wel wrth i fi a’r ddraig fach edrych allan tuag at y môr, sylweddolais i bod yr haul yn codi i’r dwyrain heibio’r ynysoedd. Ond roedd y môr yn edrych yn beryglus iawn. Roedd e’n smashio a chrashio o amgylch a roedd y gwylanod yn cylchdroi uwchben y tonnau wrth i’r haul godi. Roedd yna gerrynt cryf allan yn Môr yr Hafren. A roedd y ddraig fach yn edrych felse fe’n pryderi hefyd.

“Dwi ddim yn siwr bod e’n syniad da i ti fynd nawr,” dywedais i wrtho. “Gellid di gal dy ’sgubo i’r cyferiaid anghywir ac allan i’r mor agored.”

Ond roeddwn i hefyd yn poeni bod hi bron yn fore a bydd mam ar ddihûn ac yn edrych amdanaf i. Bydd pobl yn cyrraedd y bae yn fuan a ni fyddai’r ddraig wedi’i guddio tro ’ma. Roeddwn i’n gallu gweld bod y ddraig yn paratoi ei hun, ar fin neidio i fewn i’r dwr gwyllt, ond wrth iddo fe ’neud, clywais i swn. Swn sniffian. Ac wedyn swn crio.

Lawr ar bwys y môr, yn eistedd ar garreg mawr, roedd môr-forwyn. Roedd hi’n crio fel bod ei chalon hi’n torri.

“Yy, esgusoda fi?” dywedais i. “Ydyn ni’n gallu dy helpu di?”

“’Dyw neb yn gallu fy helpu i,” dywedodd hi. “Dwi mor unig.”

Sychodd ei dagrau ar gefn ei llaw, sniffian a chwythu’i thrwyn ar ddarn o wallt hir gwyrdd.

“Ti’n fod dynol,” dywedodd hi wrtha i wedyn. “Sut wyt ti’n gallu fy ngweld i? Dwi’n anweledig i bobl feidrol.”

“Pwy â wyr,” dywedais i. “ond nid dyma yw’r peth mwyaf od sydd wedi digwydd i mi heno. Mae hi siwr o fod i’w wneud a fy ffrind yma.” A phwyntiais at y ddraig fach.

Aeth ei llygaid hi yn fawr iawn, iawn. “Ble ddest ti o hyd i fe?”

“Yn y bae,” dywedais i. “Dwi wedi dod a fe yma fel bod e’n gallu croesi i’r ynysoedd, ble mae e’n byw. Ond mae’r dwr yn wyllt a dwi’n poeni ni fydd e’n llwyddo cyflawni’r daith yn ddiogel. Mae’n rhy beryglus iddo fe.”

Gwthiodd y fôr-forwyn ei gwallt hir gwyrdd o’i llygaid a chropian yn agosach. Ymestynodd law allan tuag at y ddraig fach a dyma fe’n llyfu ei llaw hi’n hapus.

“Ceidwadwr yr ynysoedd yw e,” meddai hi. “Mae e’n gwarchod yr ynysoedd, achos nid yw’r ynysoedd yn y byd yma, ond yr arallfyd. Mae’n rhaid bod e wedi mynd ar goll rywsut. Ti’n deall beth mae hwn yn feddwl?” Ysgytwais fy mhen. “Dwi’n unig hefyd, achos rydw i, hefyd, yn dod o’r ynysoedd, ond dwi ddim wedi medru croesi yn ôl i fy myd fy hun. Ond gyda’r ddraig fach, fyddai’n gallu. Rydym ni’n dau yn gallu mynd gyda’n gilydd. A mynd adre.”

“Wyt ti’n meddwl y fedri di nofio’r holl ffordd?” dywedais i, gan edrych ar y môr yn byrlymu.

“Nofio?” dywedodd y fôr-forwyn, ac yn sydyn dyma hi’n plymio o’i charreg i fewn i’r dwr gwyllt. Neidiodd o’r dwr fel dolffin, gan wneud triciau a chylchdroi ar yr arwyneb, a sylweddolais ei bod hi, wrth gwrs, yn mynd i fod yn iawn. Ac hefyd, roedd fy nraig fach i yn mynd i fynd adre.

Plygais i lawr a helpu’r ddraig i fflopio i ochr y môr. Cododd ei ben a chwyrnu dwr halennog o’i drwyn i fewn i fy ngwyneb.

“Hwyl fawr,” dywedais i, gan deimlo’n drist iawn yn sydyn. “A phob lwc. Efallai un diwrnod fyddai’n gallu dod i’r ynysoedd i ymweld â ti.”

Gwichiodd a sblashio’i gynffon. Dwi’n meddwl roedd hwnna’n meddwl ei fod e’n cytuno.

Gydag un golwg olaf o’i lygaid mawr tywyll diflannodd y ddraig fach i fewn i’r tonnau. Gwelais i fe’n nofio tuag at y fôr-forwyn, a chymerodd hi fe ger ei gefn pigog, a dyma’r ddau yn nofio gyda’i gilydd mewn llinell syth a chryf tuag at yr ynysoedd. Gwyliais i nhw’n mynd mor hir ag oeddwn i’n gallu. Efallai rwyt ti hefyd yn gallu gweld yr ynysoedd heddiw. Neu efallai maen nhw wedi diflannu i fewn i’r niwl. Dydyn nhw ddim yno drwy’r amser, ti’n gweld. Nid o’r byd yma maen nhw. O’r byd arall.

Ac o’r diwedd, doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd o gwbl, felly wnes i droi, a mynd tuag adre. Mae angen i fi esbonio i mam pam mae ei bag siopa hi’n llawn cennau a gwymon, ond dwi’n meddwl bydd hi’n deall. Dwi’n meddwl bydd hi’n browd ohonaf fi.

Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd pan gyrhaeddodd y ddraig fach a’r fôr-forwyn Ynysoedd yr Haf. Dwi ddim cweit wedi llwyddo mynd yno i’w gweld nhw eto. Ond efallai un diwrnod fe wnaf – efallai fyddet ti’n gwneud hefyd. Ond tan bryd hynny, bydd angen i ni ddychmygu fel mae hi yno.