Rhan 4
Roeddwn i a’r ddraig wedi blino’n lân erbyn i ni gyrraedd y man yma. Ond o’r diwedd roedden ni’n agos at y morglawdd. Ond yn anffodus roedd y ddraig fach wedi mynd yn drymach ac yn drymach ac yn drymach gyda phob un cam gymerais i tuag at môr. Roeddwn i’n sicr ei fod e wedi bod yn tyfu yn bag, fel gyda phob cam yn agosach at fod yn rhydd, y mwyaf oedd e’n tyfu.
“Jyst un cam arall,” roeddwn i’n adrodd i fi fy hun. Roedd rhaid i fi sicrhau bo ni’n cyrraedd y man gywir i roi’r ddraig fach y siawns gorau o gyrraedd yr ynysoedd. Roeddwn i’n gwbod bod y cerrynt yn y môr yn gallu bod yn gryf iawn a er chwaith y ffaith roeddwn i’n siwr ei fod e’n nofiwr da, doeddwn i ddim eisiau iddo fe gael e ’sgubo i’r cyferiaid anghywir a mynd ar goll eto.
Ond erbyn y pwynt yma roeddwn i wir wedi blino’n lân a ffeindiais fy hun yn gosod y bag siopa i lawr. “Jyst am eiliad,” dywedais i. “Jyst am saib bach.”
Mewn braw, sylweddolais i bod y ddraig fach nawr bron yn ddwywaith y maint roedd e o’r blaen. Roedd e wedi tyfu gymaint. Roedd e hefyd yn edrych yn bryderus iawn, fel bod e’n gwybod nad oeddwn i’n mynd i fedru cario fe’r holl ffordd.
“Wyt ti’n gallu cerdded?” gofynnais i, ond ’nath e ddangos ei draed i mi, oedd fel esgyll fflat. Doedd e ddim yn gallu gwneud llawer ar y tir a bod yn onest, dim ond fflopio o amgylch. Roedd angen iddo fe fod yn ôl yn y môr.
“Mae’n iawn, ’nai dy gal di yno,” wedes i, ond doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus iawn. Roedd fy nghorff gyfan yn brifo nawr, a theimlais fel petai, os oeddwn i’n gorwedd i lawr, gallwn i fynd i gysgu’n syth.
Yn sydyn, clywais i swn siffrwd.
“O na. Beth yw hwnna?”
Yna, ar hyd y llwybr o’n blaen ni ddaeth y crocodeil mwyaf anferthol a welais i yn fy mywyd. Roedd e’n enfawr. Roedd ganddo fe res ar ben res o ddannedd miniog sgleiniog a chynffon hir iawn.
Nid oedd dim byd i’w wneud ond gwylio mewn anobaith wrth iddo fe ddod yn agosach ac yn agosach. Caeais fy llygaid, gan ddisgwyl gael fy llyncu’n fyw, ond wedyn clywais i fe’n stopio. A chlywais i snap-snap-snap, wrth iddo fe agor ei geg.
Agorais fy llygaid a gweld bod y crocodeil yn syllu arnom ni. Doedd e ddim felse fe eisiau byta ni wedi’r cyfan. Odd e’n edrych felse fe eisiau helpu.
Roedd y ddraig fach yn amlwg yn meddwl yr un peth achos aeth e’n fflipio a fflopio yn gynhyrfus tuag at y crocodeil anferth a thrio dringo ar ei gefn. Wel roedd y noson hon yn mynd o od i ryfedd iawn ond penderfynais i drystio’r ddraig. Felly codais ef, gyda trafferth, a’i roi yn ôl yn y bag siopa, ac wedyn dringo ar gefn y crocodeil fy hun, gan ddal y bag yn dynn yn fy mreichiau. Rhoddodd y ddraig fach ei ben allan o’r bag pan – whooooosh! Dechreuodd y crocodeil i redeg mor gyflym â’r gwynt tuag at y morglawdd. Cododd fy nghalon. Roedd popeth yn mynd i fod yn iawn…
Ond yn sydyn, nid oedd y crocodeil yn rhedeg ar y tir ragor ond yn yr awyr. Cododd e’n uwch ac yn uwch ac yn uwch a daliais i arno fe gydag un llaw gan gipio’r bag siopa gyda’r llall a theimlais fy nghalon yn plymio i fewn i fy mola. Roeddem ni mor uchel. Oddi tano ni roedd Bae Caerdydd yn fap bach o olau disglair a dwr yn disgleirio ond roeddem ni dal i fod yn codi, a nawr roedd darnau bach o gwmwl yn plethu o amgylch fy nhraed a roedd y gwynt yn oer iawn, iawn…
Beth oedd yn mynd i ddigwydd i ni? A oedd y crocodeil yn mynd i’n gollwng ni?
Roedd ofn yn corsi drwydda i ond nid oedd y ddraig fach felse fe wedi dychryn o gwbl. A sylweddolais i – y tynnaf o’n i’n dal pigau’r crocodeil, yr uchaf roedd e’n codi i’r awyr.
“Ymlacia!” dywedais i wrth fy hun. Roedd hi’n anodd iawn neud. Ceisiais ymlacio fy llaw. Ceisio mwynhau’r profiad. Ceisiais i fwynhau’r profiad o hedfan ar gefn crocodeil uwchben dinas Caerdydd.
Ac yn syth i mi wneud hwnna, dechreuodd y crocodeil i blymio i lawr eto, yn llyfn ac yn ofalus, a gwelais y bae unwaith eto, a’r morglawdd, ac ar yr ochr arall, Môr yr Hafren. Ac yn yr aber roedd y ddwy ynys dywyll, Ynysoedd yr Haf. Pan welodd y ddraig nhw, dyma fe’n gwichian mewn cynnwrf. Lawr, lawr, lawr daethom ni nes bod ni’n glanio’n swp ar y morglawdd. Llithrais oddi ar gefn y crocodeil a roeddwn i mor hapus i deimlo tir gadarn o dan fy nhraed. ’Nes i droi nôl i weud diolch wrth y crocodeil ond roedd e wedi rhewi mewn unman. Mae e dal yno nawr. Beth am i ti ddod o hyd iddo? Os wyt ti’n eistedd ar ei gefn yn ystod y dydd bydd e’n aros ble mae e. Ond os wyt ti’n gwneud gyda’r nos, efallai byddet ti’n ffeindio dy hun yn codi’n gyflym i fewn i’r awyr. Yn dal ei gefn yn dynn. Yn edrych i lawr ar y bae islawr. Jyst cofia, mae angen ymlacio, a mwynhau, a ddoi di’n saff yn ôl i lawr.