Rhan 2
Pan gyrhaeddais i’r cylch efydd mawr, nes i stopio, ac edrych o amgylch yn ofalus. Roedd y bae dal i fod yn dawel ac yn ddu, a gyd o’n i’n gallu clywed roedd swn y dwr yn cosi yn erbyn ochr y cei.
“Draig!” triais i eto. “Draig y môr! Dwi wedi dod i dy helpu di!”
Yna ddaeth swn, ond nid swn fel swn sblashio a gwichian y ddraig fach. Roedd y swn yma’n mynd fel hwn: snic-snic-clic-clic.
Rhedodd iâs i lawr fy nghefn. Pwy – neu beth – oedd yn gwneud sut fath o swn?
Daeth y swn eto. Snic-snic clic-clic. A daeth swn arall hefyd. Swn nifer fawr o goesau’n sgytlo.
Efallai rwyt ti’n gallu cuddio tu ôl i’r cylch mawr o efydd, ond roeddwn i wedi mynd yn glwm mewn bag siopa fy mam, a doeddwn i ddim wedi symud mewn amser. Ac yn sydyn yn ymddangos o’r tywyllwch daeth y golwg mwyaf od. I ddechrau ’da, roedd e’n edrych fel dyn, dyn hynod o dal a main iawn. Ond wedyn, wrth iddo fe agosau, weles i bod gan y dyn yma grafangau enfawr cranc ar waelod ei freichiau, a choesau ychwanegol ar bob ochr er mwyn sgytlo. Roedd e’n gwisgo siwt smart iawn a thei bach o amgylch ei wddf a’i grafangau oedd yn gwneud y swn snic-snic-clic-clic.
Rhewais i wedi fy nychryn yn llwyr achos roeddwn i’n gwybod yn union pwy oedd hwn. Roedd mam wedi dweud gymaint o storis amdano fe. Mr Cranc oedd e. Roedd pawb yn y bae yn ’nabod Mr Cranc. Dyn busnes creulon oedd e, oedd yn twyllo arian allan o bobl da, a roedd e mor farus doedd e byth yn stopio. Roedd pawb yn gwbod bod gan Mr Cranc chwant bwyd enfawr ac ofnadwy arno fe, a’i hoff beth i fwyta oedd arian, a dyna pam roedd e bob amser angen mwy. Ond roedd e hefyd yn bwyta pethau eraill. Pethau fel plant. Plant fel fi.
Stopiodd Mr Cranc ei sgytlo pan welodd e fi. “Ti’n fach ac yn denau iawn,” meddai, gan edrych yn drist.
“O ydw,” wedes i, yn obeithiol. Efallai rwyt ti’n meddwl roeddwn i’n ddewr, ond roeddwn i wir wedi fy nychryn. Roedd fy nghalon yn curo fel drwm yn fy mron a roeddwn i bron methu meddwl yn syth.
Cymerodd Mr Cranc ei hances boced yn ofalus a phlygu fe ar flaen ei grys. “Ond er chwaith dy fod ti’n fach, mae’n rhaid i mi dy fwyta di,” meddai, gan swnio’n ymddiheuriol, wrth iddo fe gymryd allan cyllell a fforc.
“O na,” dywedais, “na, plîs, paid neud hwnna!”
“A pham ddim?”
Doeddwn i ddim yn gallu meddwl am reswm. Be byset ti’n dweud i stopio hanner-ddyn, hanner-granc rhag dy lyncu di? Efallai elli di ’weud e nawr, yn uchel ac yn gadarn, jyst rhag ofn bod e’n gwrando.
Ond doeddwn i ddim yn gallu meddwl am unrhywbeth o gwbl, heblaw am –
“Dim ond pryd o fwyd bach iawn byswn i. A dwi ddim yn meddwl fy mod i’n flasus iawn.”
“Siomedig iawn,” meddai Mr Cranc. “Ond pan mae plant bach dynol yn ddigon amharchus i ddod am dro bach i fewn i fy nheyrnas i gyda’r nos, mae’n rhaid i mi eu bwyta nhw. Felly, esgusoda fi, tra bod fi’n cychwyn. Pa ran ohonot ti ddylai gnoi gynta? Penelin, dwi’n meddwl. Dwi’n hoff iawn o benelin.”
“Aros!” dywedais i, yn wyllt. “Nid mynd am dro ydw i! Dwi yma i helpu. Mae yna greadur bach sydd ar goll, ac mae angen iddo fe fynd adre, a dyna pam dwi yma. Nid bod yn amharchus ydw i – SYR.”
Am eiliad, ’nath Mr Cranc stopio’i brocio gyda’i fforc a roedd e’n gwrando arna i.
“Pa fath o greadur?”
“Draig y môr bach yw e,” dywedais i. “Dwi’n mynd i’w roi e ym mag siopa fy mam a chario fe i’r morglawdd, fel fy mod i’n gallu ei ryddhau i fewn i’r Môr Hafren, a mae’n gallu mynd adre i Ynysoedd yr Haf.”
Yn sydyn, dyma Mr Cranc yn patio’i lygaid gyda’i hances boced. “Stori dorcalonnus yw hon,” meddai. Roedd e’n edrych fel petai bod e ar fin neud penderfyniad. O’r diwedd, dywedodd e, “Wel, dwi byth yn gwneud hwn. Mae pawb yn fy adnabod i fel dyn creulon iawn. Ond, ar yr achlysur hon, dwi’n mynd i dy adael di i fynd, heb dy gnoi, a gyda phob un penelin. Nagydw i’n garedig iawn?”
“O wyt,” wedes i’n gyflym. “Caredig iawn.”
“Paid ti â meiddio gweudtho unrhywun,” dywedodd e. “Dwi ddim am i’r newyddion fynd allan fy mod i ddim mor ffiaidd â maen nhw’n ei feddwl.”
“Wrth gwrs,” wedes i.
“Nawr,” meddai Mr Cranc. “Os ei di lawr i ochr y dwr, dwi’n meddwl bod yna rywun yn aros amdanat ti.”
A rhoddodd y cyllell a fforc yn ôl yn ei boced a bant â fe, snic-snic, clic-clic.
A wyddoch chi be, yn y dwr tywyll roedd yna ben bach pigog a dau lygaid mawr trist. Mor gyflym â phosib, es i lawr, a phenlinio wrth ymyl y dwr.
“Draig fach,” dywedais i, “dwi yma i dy achub di. Ond yn anffodus mae angen i ti ddringo i mewn i fy mag siopa, neu fyddai ddim yn gallu dy gario di i’r morglawdd a dy ruddhau di.”
Edrychodd y ddraig fach mewn braw ar y bag siopa.
“Dwi’n addo wnai ddim clymu’r top,” dywedais i, “mae jyst angen rywbeth arna i er mwyn dy gario di. Rwyt ti’n eitha – mawr.”
Ti’n gweld, er chwaith y ffaith roedd y ddraig fach lot yn llai nag unrhyw ddraig arall roeddwn i’n gallu dychmygu, roedd e dal i fod run faint â chi bach. A roedd ei gynffon yn hir iawn ac yn creu problemau mawr. Pan roeddwn i, o’r diwedd, wedi llwyddo perswadio’r ddraig i fewn i’r bag, roedd ei gynffon dal i fod yn hongian allan a roeddwn i’n syrthio drosto fe. Yn y diwedd, llwyddais i bacio’r ddraig yn ddiogel yn y bag.
“Reit te, bant â ni,” dywedais i a gwichiodd y ddraig fach yn hapus. Codais i’r bag ar fy nghefn – a bron â gollwng e ’to! Roedd y ddraig mor drwm! Roedd hwn yn mynd i fod yn daith hir ac anodd. Roeddwn i’n gobeithio nad oedden ni’n cwrdd ag unrhyw greaduriaid eraill ar ein taith ni i’r môr.