Rhan 1
Helo! Diolch am ymuno gyda fi. Mae gen i stori i ti heddi. Mae’n dechre fan hyn, reit ble wyt ti nawr.
Pan oeddwn i o amgylch dy oedran di, roeddwn i’n dod fan hyn drwy’r amser. Jyst cyn i’r morglawdd gael ei adeiladu, cyn roedd Cei’r Fôr-forwyn yn edrych fel y mae e nawr.
Dwi hefyd yn cofio beth roedd hi fel pan roedden nhw’n adeiladu’r morglawdd. Roedden ni gyd ar bigau’r drain i ffeindio mas beth roedd e’n mynd i edrych fel.
Dwi’n cofio dod lawr fan hyn y diwrnod ’nath y morglawdd agor i’r cyhoedd. Dwi’n cofio sefyll yn union ble rwyt ti’n sefyll nawr. Nes i edrych ar y cerflun yma hefyd. Nes i ddilyn llinell ei bys hi’n pwyntio allan tuag at y morglawdd, tuag at yr aber agored yn y pellter.
Dwi’n cofio’r diwrnod hwnnw mor dda o achos be ddigwyddodd nesa. O fy amgylch i roedd pawb yn bwyta hufan iâ a cherdded ling-di-long o amgylch a siarad am sut roedden nhw am fynd am dro ar draws y morglawdd. Nid oedd neb yn talu sylw i’r dwr yn y bae. Ond roeddwn i yn gwneud. A weles i’r dwr yn symud. Weles i’r dwr yn byrlymu. Weles i rywbeth yn ymddangos, am eiliad fach, ar yr arwyneb.
Es i lawr y grisiau tuag at ochr y dwr i archwilio ymhellach. Efallai dim ond aderyn oedd wedi plymio i fewn i’r dwr, neu bysgodyn, neu ddarn o froc môr oedd hi, ryw gyfoeth bach wedi cael ei dynnu lan gan storm. Ond i fi roedd e felse fe wedi bod yn fwy. Roedd e wedi edrych fel petai roedd ganddo fe wddf hir a phen bach pigog ac adenydd wedi’u plygu ar ei gefn.
Dyna le ddaeth e eto! Nid aderyn oedd e. Nid pysgodyn. Nid ryw ddarn o froc môr chwaith.
“Helo!” galwais i’r creadur, mor uchel ag o’n i’n meiddio, achos roedd pobl ymhobman. “Mae’n iawn!”
Daeth beth bynnag oedd e’n agosach i mi a sblashio o amgylch tamaid bach a weles i unwaith eto’r adenydd bach na a’r cefn hir gyda pigau arno. Roedd e hefyd yn edrych fel bod cynffon o rywfath ganddo. Nid oeddwn i’n gallu gweithio mas pa liw oedd e. Un funud odd e’n wyrdd, y nesa’n las, y nesa’n llwyd. Holl liwiau gwahanol dwr y bae.
Es i lawr a rhoi fy ngwyneb mor agos i’r dwr ag o’n i’n gallu. A dyna pan ges i’r sioc fwya yn fy mywyd. Yn syllu arna i o ddyfnder y dwr roedd pâr o lygaid anferth, tywyll, a llawn tristwch. Roedd y llygaid yn syllu arna i allan o wyneb gyda chennau bach drosto fe i gyd, trwyn bach, a phigau ar ei dalcen. Roedd hwn, yn amlwg, yn rywfath o ddraig fach.
“Pwy wyt ti?” gofynnais i.
Edrychodd y ddraig fach o amgylch a sblashio’r dwr yn drist gyda’i gynffon.
“Wyt ti’n byw fan hyn?”
Plygodd ben y ddraig fach yn isel mewn tristwch.
“Wyt ti ar goll?” gofynnais i wedyn achos roedd y ddraig fach yn edrych mor drist.
Cododd y ddraig ei ben unwaith eto a gwichian arna i. A sylweddolais rywbeth yn sydyn. “Wyt ti – dwyt ti ddim yn dod o’r bae o gwbl nagwyt ti? ’Nest ti fynd yn styc fan hyn, pan roedden nhw’n adeiladu’r morglawdd?”
Sblashiodd y ddraig fach y dwr gyda’i gynffon, y tro ma’n gyffrous, felly roeddwn i’n gwbod fy mod i ar y trywydd gywir. Meddyliais yn galed iawn. Meddyliais am beth rwyt ti’n gallu gweld o’r bae, os wyt ti’n edrych allan tuag at y Môr Hafren ar ddiwrnod clir. Dwy ynys. Roedd pawb yn eu galw nhw’n Ynys Echni ac Ynys Rhonech – Flatholm a Steepholm – ond roedd mam wedi dweud wrtha i bod gyda nhw enw arall hefyd. Ynysoedd yr Haf. Roedd hi wedi dweud wrtha i bod yr ynysoedd na’n lle hudol, nid yn rhan o’n byd ni, ond yn rhan o’r arallfyd.
“O na!” wedes i gan ddeall yn sydyn. “Dwyt ti ddim yn dod o’r byd yma, nagwyt ti? Ti’n dod o’r ynysoedd. Mae’n rhaid dy fod ti wedi cael dy ddal yma yn y bae a nawr dwyt ti ddim yn gallu mynd adre.”
Dechreuodd ddagrau i bowlio lawr bochau bach y ddraig ond y funud honno ymddangosodd criw o dwristiaid a roedd rhaid i fi godi ar fy nhraed yn gyflym ac esgus nad oeddwn i’n edrych ar dim byd. A phan edrychais i nôl ar y dwr, roedd y ddraig fach wedi diflannu’n llwyr.
Drwy gydol y dydd pendronais i, yn meddwl am ddim byd onibai’r ddraig fach ’na a pha mor drist oedd e, a sut gallwn i ei helpu. Gyd o’n i’n gallu gweld oedd ei lygaid mawr du yn syllu arna i o’r dwr, yn erfyn am help. Penderfynais i i wneud fy ngorau glas i’w helpu. Felly, y noson honno, pan roedd pawb arall wedi mynd i’r gwely, gadawais i fy nhy mor dawel â phosib a mynd tuag at y bae. Roeddwn i wedi paratoi ac yn cario bag siopa fwyaf fy mam.
A ti’n meddwl ma hwn yn swnio’n ddewr, yndwyt ti? Ond doeddwn i ddim yn teimlo’n ddewr o gwbl! Ti’n gweld odd straeon mam ddim jyst yn sôn am Ynysoedd yr Haf allan yn y môr. Roedd hi hefyd wedi dweud wrtha i am greaduriaid Cei’r Fôr-forwyn. Odd hi’n gweud, gyda’r nôs, roedd y bae yn dod i fyw, a phob math o greaduriaid yn dod allan. Roeddwn i’n gwbod byddai rhai i mi fod yn ofalus iawn.
Des i nôl yn union i’r man ’ma a galw am y ddraig fach. Ond doedd dim sôn amdano. Beth allai’i ’neud?
Penderfynais i gerdded ar hyd ochr y cei a pharhau i edrych i fewn i ddwr tywyll y bae a gweld os oedd unrhywbeth yn symud.
Wyt ti’n gallu fy nilyn i, nawr? Edrycha’n graff. Dwi’n meddwl fedra’i weld rywbeth yn symud, yn y dwr, lan ar bwys y cylch mawr o efydd. Efallai dyna le mae’r ddraig fach. Cerdda’n dawel, mae’n ofnus iawn!