Gweithredu Cymdeithasol

Cyflwyno Pecyn Cymorth Sut i Newid y Byd

Mae’r pecyn cymorth Sut i Newid y Byd wedi’i gynllunio i helpu disgyblion oedran cynradd yng Nghaerdydd i archwilio camau cymdeithasol lleol, deall eu hawliau, a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer Cymru, mae’n ategu Pecyn Cymorth Eiriolaeth Ieuenctid UNICEF ac yn cyd-fynd â nod Caerdydd i gefnogi disgyblion iau mewn cyfranogiad ystyrlon.

  • Pam y Pecyn Cymorth hwn? Wedi’i ddatblygu mewn ymateb i adborth gan ysgolion cynradd, mae’r pecyn cymorth hwn yn llenwi bwlch o ran cefnogi prosiectau dan arweiniad disgyblion i gysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lleol.
  • Sut mae’n Cyd-fynd â’r GYPH: Mae Sut i Newid y Byd yn cefnogi ysgolion sy’n gweithio tuag at statws GYPH arian ac aur, gan fynd i’r afael â Deilliannau 8 a 9.
  • Cymorth Cwricwlwm: Wedi’i greu mewn cydweithrediad â thîm cwricwlwm Cyngor Caerdydd, mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys map cwricwlwm i ddangos ei fod yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Sut i Newid y Byd – Canllaw i weithredu cymdeithasol i ddisgyblion yng Nghaerdydd(pdf 3mb)

Mae eich meddyliau, eich syniadau a’ch lleisiau yn bwysig. Fe wnaethon ni’r canllaw hwn fel y gallwch chi ddefnyddio’ch llais i wneud eich cymuned, eich gwlad a’r byd yn lle gwell. Trwy rannu eich syniadau a siarad â’r bobl iawn, gallwch wneud newidiadau mawr yn lleol ac yn fyd-eang.

cyflwyniad ategol (pptx 6mb)

dogfen mapio cwricwlwm (docx)

pecyn archwilio grŵp (pdf 1mb)

Gweithgaredd 1: ysgrifennu at eich cynghorydd lleol

Gweithgaredd 2: Datrys Problemau Mwy