Hawliau plant a’r CCUHP

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn, neu CCUHP, yw sail holl waith UNICEF. Hwn yw’r datganiad mwyaf cyflawn o hawliau plant a gynhyrchwyd erioed, a dyma’r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol a gadarnhawyd yn fwyaf eang erioed.

Mae gan y Confensiwn 54 erthygl sy’n cwmpasu pob agwedd ar fywyd plentyn ac mae’n nodi’r hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mae gan bob plentyn ymhob hawl arnynt. Mae hefyd yn egluro sut y mae’n rhaid i oedolion a llywodraethau gydweithio i sicrhau y gall pob plentyn fanteisio ar ei holl hawliau.

Mae gan bob plentyn hawliau waeth beth fo’i ethnigrwydd, ei rywedd, ei grefydd, ei iaith, ei allu neu unrhyw statws arall.

Rhaid ystyried y Confensiwn yn ei gyfanrwydd: mae’r hawliau i gyd yn gysylltiedig ac nid oes unrhyw hawl yn bwysicach nag un arall. Mae’r hawl i ymlacio a chwarae (Erthygl 31) a’r hawl ar ryddid mynegiant (Erthygl 13) cyn bwysiced â’r hawl i fod yn ddiogel rhag trais (Erthygl 19) a’r hawl ar addysg (Erthygl 28).

Y Confensiwn hefyd yw’r cytundeb hawliau dynol sydd wedi ei gadarnhau’n fwyaf eang yn y byd – mae hyd yn oed wedi’i dderbyn gan endidau nad ydynt yn rhan o wladwriaeth, megis Byddin Rhyddhau Pobl Sudan (SPLA), mudiad gwrthryfela yn Ne Sudan. Mae pob aelod-wladwriaeth y Cenhedloedd Unedig ac eithrio’r Unol Daleithiau wedi cadarnhau’r Confensiwn. Daeth y Confensiwn i rym yn y DU yn 1992.

Beth yw hawliau plant:
0 i 12 mis | 1 i 2 flywdd oed2 i 3 flywdd oed | 3 i 5 flywdd oed 

Mae gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, adnoddau gwych ar ei gwefan fel y poster hawliau plant hwn

Ffynhonnell: www.unicef.org.uk

Ewch i Llinell amser hawliau plant

Erthyglau CCUHP:

Isod, ceir fersiwn wedi’i chrynhoi o’r erthyglau a amlinellir yn CCUHP.

Mae fersiwn llawn ar gael o wefan UNICEF (PDF)

Erthygl 1: Mae gan bawb o dan 18 oed yr hawliau hyn.

Erthygl 2: Mae gan bob plentyn yr hawliau hyn, yn ddiamod. Dylai pob plentyn gael ei drin yn gyfartal.

Erthygl 3: Dylai oedolion bob amser wneud yr hyn sydd orau i chi.

Erthygl 4: Dylai’r Llywodraeth wneud yn siŵr bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael yr hawliau hyn.

Erthygl 5: Dylai’r Llywodraeth barchu hawl eich teulu i’ch helpu i gael gwybod am eich hawliau.

Erthygl 6: Mae gennych hawl ar fywyd, i dyfu ac i gyrraedd eich potensial llawn.

Erthygl 7: Mae gennych yr hawl i enw, cenedligrwydd ac, mor bell â phosib, i adnabod rhieni a derbyn gofal ganddynt.

Erthygl 8: yr hawl i gadw hunaniaeth, gan gynnwys enw, cenedligrwydd a chysylltiadau teuluol.

Erthygl 9: Mae gennych yr hawl i fyw gyda’ch rhieni, os mai dyma sydd orau i chi.

Erthygl 10: Mae gennych yr hawl i weld eich teulu hyd yn oed os ydynt yn byw mewn gwlad wahanol.

Erthygl 11: Mae gennych yr hawl i beidio cael eich herwgipio neu eich cymryd allan o’r wlad yn anghyfreithlon.

Erthygl 12: Mae gennych hawl i gael eich clywed a’ch cymryd o ddifrif.

Erthygl 13: Mae gennych yr hawl i ganfod a rhannu gwybodaeth, a dweud eich barn.

Erthygl 14: Mae gennych hawl i ymarfer eich crefydd eich hun, cyn belled nad ydych chi’n atal pobl rhag cael arfer eu hawliau.

Erthygl 15: Mae gennych yr hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau.

Erthygl 16: Mae gennych yr hawl ar breifatrwydd.

Erthygl 17: Mae gennych hawl i gael gwybodaeth onest gan y cyfryngau y gallwch ei deall, cyn belled â’i bod yn ddiogel.

Erthygl 18: Mae gennych hawl i gael eich magu gan y ddau riant, os oes modd.

Erthygl 19: Mae gennych hawl i gael eich amddiffyn rhag cael eich brifo neu eich trin yn wael.

Erthygl 20: Mae gennych yr hawl i gael gofal priodol os nad ydych yn gallu byw gyda’ch teulu eich hun.

Erthygl 21: Os na allwch fyw gyda’ch rhieni, mae gennych hawl i fyw yn y lle gorau i chi.

Erthygl 22: Os ydych yn ffoadur, mae gennych yr un hawliau ag unrhyw blentyn arall yn y wlad.

Erthygl 23: Os ydych yn anabl, mae gennych yr hawl ar ofal arbennig a chymorth er mwyn gallu byw bywyd llawn ac annibynnol.

Erthygl 24: Mae gennych yr hawl i gael dŵr glân, bwyd iach, amgylchedd glân a gofal iechyd da.

Erthygl 25: Os nad ydych chi’n byw gyda’ch teulu, mae gennych chi’r hawl i gael profi eich gofal yn rheolaidd.

Erthygl 26: Mae gennych hawl ar gefnogaeth gan y Llywodraeth os nad oes gan eich teulu ddigon o arian i fyw.

Erthygl 27: Mae gennych yr hawl i gael tŷ, bwyd a dillad priodol. Rhaid i lywodraethau helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn.

Erthygl 28: Mae gennych hawl i gael addysg.

Erthygl 29: Mae gennych yr hawl i fod y gorau y gallwch fod. Rhaid i addysg eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch talentau i’r eithaf.

Erthygl 30: Mae gennych yr hawl i siarad eich iaith eich hun a dilyn ffordd o fyw eich teulu.

Erthygl 31: Mae gennych yr hawl i ymlacio a chwarae.

Erthygl 32: Mae gennych yr hawl i gael eich gwarchod rhag gwneud gwaith peryglus.

Erthygl 33: Mae gennych yr hawl i gael eich diogelu rhag cyffuriau peryglus.

Erthygl 34: Ni ddylai unrhyw un eich cyffwrdd mewn ffyrdd sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, yn anniogel neu’n drist.

Erthygl 35: Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich cipio, eich gwerthu nac eich masnachu.

Erthygl 36: Mae gennych yr hawl i gael eich cadw’n ddiogel rhag pethau a allai niweidio eich datblygiad.

Erthygl 37: Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich cosbi mewn ffordd greulon neu gas.

Erthygl 38: Mae gennych yr hawl i gael eich gwarchod yn ystod rhyfel a pheidio ag ymladd yn y fyddin os ydych o dan 15.

Erthygl 39: Mae gennych yr hawl ar help arbennig os ydych wedi cael eich brifo neu’ch trin yn wael.

Erthygl 40: Mae gennych yr hawl ar gymorth cyfreithiol ac i gael eich trin yn deg os ydych wedi cael eich cyhuddo o dorri’r gyfraith.

Erthygl 41: Os yw’r deddfau yn eich gwlad yn eich diogelu yn well na’r hawliau yn y rhestr hon, dylai’r cyfreithiau hynny aros yn eu lle.

Erthygl 42: Rhaid i’r Llywodraeth roi gwybod i blant a theuluoedd am hawliau plant.

Erthyglau 43-54: Mae’r Erthyglau hyn yn ymwneud â sut mae’n rhaid i oedolion a’r Llywodraeth gydweithio i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei hawliau.