Cymorth
Sefydliadau eraill a all eich helpu
Ydych chi’n poeni bod eich hawliau neu hawliau rhywun arall yn wynebu risg? Eisiau clust i wrando?
Dyma rai mannau defnyddiol i ofyn am gyngor a chymorth.
Cewch help a chyngor ar amrywiaeth eang o faterion, drwy ffonio, siarad â chwnselydd ar-lein, anfon e-bost i Childline neu bostio ar eu byrddau negeseuon. Mae gwasanaeth Childline yn rhoi llais i bobl ifanc pan nad oes neb arall yn gwrando. Pa bynnag broblemau neu beryglon rydych yn eu hwynebu, mae’n lle i chi droi am gymorth – unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Mae Childline yma bob dydd, drwy’r dydd.
Sgwrsiwch, postiwch neu e-bostiwch
Rhadffôn – 08001111
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio gyda sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Ni fyddan nhw’n eich beirniadu a byddant yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth mae ei hangen arnoch i newid pethau.
Mae Meic yma bob dydd, 8am – hanner nos
Cyngor a sgwrs ar-lein
Rhadffôn – 080880 23456
Testun – 84001
Dewis
Mae Dewis yn cynnig ystod o wybodaeth am wasanaethau i blant a phobl ifanc. Drwy fynd i’r wefan cewch wybodaeth a allai eich helpu i ganolbwyntio ar beth sy’n bwysig i chi ar hyn o bryd. Mae’r wefan yn cynnwys dolenni at eu cyfeirlyfr adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol a allai eich helpu.
Comisiynydd Plant Cymru – Cyngor ac Ymchwiliad
Gwasanaeth di-dâl a chyfrinachol i gynghori a chefnogi plant a phobl ifanc neu‘r rhai sy’n gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.
Mae’r gwasanaeth hwn yma i chi rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn – 01792 765600
Rhif rhadffôn – 0808 801 1000
E-bost – cyngor@complantcymru.org.uk
A oes gennych syniad neu awgrym ar sut y gallwn wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant?