Comisiynydd Plant Cymru – Cynlluniau Cenhadon
Cenhadon Gwych
Cenhadon Gwych cynllun Comisiynydd Plant Cymru â’r nod o hyrwyddo hawliau’r plant a’r CCUHP ymhlith plant Cyfnodau Allweddol 1 a 2.
Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw:
- Dweud wrth bawb yn yr ysgol am y Comisiynydd a’i phwerau
- Gwneud yn siwr bod disgyblion eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
- Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol i fwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa.
Cynllun Myfyrwyr Genhadon
Mae ein Cynllun Myfyrwyr Genhadon yn hyrwyddo hawliau pobl ifanc a CCUHP ymhlith disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4, a 5.
Mae ysgolion yn ethol dau Lysgennad ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Uwchradd tair dasg arbennig:
- Dweud wrth ddisgyblion eraill am rôl y Comisiynydd
- Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
- Cwblhau tasgau i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Mae’r tasgau hon yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith
Cenhadon Cymunedol
Plant a phobl ifanc sy’n rhan o grŵp o ddiddordeb arbennig ac sydd wedi gwirfoddoli i fod yn genhadon i fwydo i mewn i waith y Comisiynydd yw’r Cenhadon Cymunedol .