Adroddiadau
Cydraddoldeb Rhyw – Adroddiad Cyfnod Ymgynghori ac Ymgysylltu
Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw dogfennu a thynnu sylw at ganfyddiadau’r ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu arloesol a chreadigol a gynhaliwyd gan Gaerdydd sy’n Dda i Blant (CDdB), gan ganolbwyntio ar brofiadau byw merched a menywod ifanc (* y cyfeirir atynt fel merched drwy gydol yr adroddiad hwn) yng Nghaerdydd. Nod yr ymarfer hwn, sy’n rhan allweddol o’n ffocws ar Gyfartal a Chynhwysol gyda phwyslais penodol ar degwch rhywedd, yw casglu mewnwelediadau manwl i’r heriau, y rhwystrau a’r cyfleoedd a wynebir gan y ddemograffeg hon mewn agweddau amrywiol ar fywyd y ddinas.
Nod yr adroddiad yw trosi’r canfyddiadau hyn yn gamau gweithredu ac argymhellion eang, gan alluogi CDdB a’i bartneriaid ehangach i ddatblygu ymyriadau a pholisïau wedi’u targedu. Y nod cyffredinol yw gwella tegwch rhywedd yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo’u rhywedd, yn cael cyfle cyfartal i ffynnu a chymryd rhan ym mywyd y ddinas.