Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi datblygu pecyn cymorth Gweithredu Cymdeithasol i Blant dan 11 oed fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hawliau a chyfranogiad plant. Bydd y canllaw newydd o’r enw “Sut i Newid y Byd” yn cael ei lansio yn Techniquest ar 6 Tachwedd 2024. Mae dros 50,000 o blant yng Nghaerdydd, ac mae gan bob un ohonynt hawliau drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yng Nghymru, mae gan bob oedolyn yn eich ysgol, y Cyngor, a’r llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliau hynny’n cael eu bodloni. Mae meddyliau, syniadau a lleisiau plant yn bwysig. Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi creu’r canllaw hwn i gefnogi plant i eirioli drostynt eu hunain a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol yn eu cymunedau ac ar draws y ddinas. Mae hyn yn cyfrannu at agenda cyfranogiad ehangach y Ddinas sy’n cefnogi pobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd gan ganolbwyntio ar ddinasyddiaeth weithgar a datblygiad cyfannol. Bydd defnyddio ein pecyn cymorth yn cefnogi pobl ifanc i wneud eu cymuned, eu gwlad a’r byd yn lle gwell. Bydd yn eu tywys ar sut i rannu a datblygu eu syniadau, ond hefyd i nodi’r bobl iawn i siarad â nhw i’w galluogi i wneud newidiadau mawr yn lleol ac yn fyd-eang.
Sut i Newid y Byd! Gweithredu Cymdeithasol i Blant dan 11 oed
Postiwyd ar Tachwedd 20, 2024
Gweld yr holl newyddion...