Mae Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn mynychu Cynhadledd Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU.

Gweld yr holl newyddion...

Mynychodd Aoife Williams Gynhadledd Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU ym Mhrifysgol Warwick ddydd Sadwrn 26 Hydref – dydd Sul 27 Hydref. Ers dros ugain mlynedd, mae Aelodau o’r Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r DU wedi dod ynghyd i drafod a phleidleisio ar bolisi, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai, dadleuon a chyfleoedd rhwydweithio yng Nghynhadledd Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU. Y digwyddiad eleni yw’r cyntaf i gael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol, wrth iddi weithio i greu maniffesto newydd Senedd Ieuenctid y DU. Yn ystod y gynhadledd, bydd aelodau o’r senedd ieuenctid yn cymryd rhan mewn trafodaethau, cyflwyniadau a dadleuon ar y materion mwyaf dybryd sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Bydd y trafodaethau hyn yn cyfrannu at y gwaith o greu maniffesto newydd Senedd Ieuenctid y DU. Ffocws y Gynhadledd Flynyddol yw datblygu maniffesto Senedd Ieuenctid y DU. Bydd y maniffesto’n eang ac wedi’i rannu’n benodau sy’n adlewyrchu adrannau Llywodraeth y DU i sicrhau y gall pob mater cymdeithasol a godir yn y maniffesto gysylltu â phortffolio gweinidogol wrth i ni aelodau’r senedd ieuenctid ddefnyddio’r maniffesto hwn i eirioli dros y newidiadau y maent am eu gweld mewn cymdeithas dros y flwyddyn i ddod.