Mynd tua Nantes: Ieuenctid Caerdydd yn ymuno â Rhaglen Gyfnewid Gemau Olympaidd Paris 2024!

Gweld yr holl newyddion...

Beth ddigwyddodd?  

Cymerodd Cyngor Ieuenctid Caerdydd a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ran mewn rhaglen gyfnewid ddiwylliannol gan ddod â dinasoedd gefeillio o Ffrainc, yr Almaen a Chymru ynghyd.   Roedd y rhaglen gyfnewid wythnos o hyd, a ariannwyd drwy raglen Taith gyda chefnogaeth gan International Links (Global) Ltd., yn llawn gweithgareddau hwyliog, gwibdeithiau i ddinas Nantes, teithiau ac ymweliadau â safleoedd hanesyddol fel yr amgueddfa beiriannau.  Roedd y grŵp hefyd yn gallu bod yn bresennol mewn gêm bêl-droed rhwng Sbaen a Japan, fel rhan o Gemau Olympaidd Paris 2024. Roedd pob nos yn cynnwys rhyw fath o weithgaredd cyfnewid diwylliannol lle gallai gwledydd rannu cerddoriaeth, diwylliant pop a chwaraeon o’u gwledydd priodol.   

Pam? 

Mae rhaglenni cyfnewid yn cadarnhau hawliau’r bobl ifanc i ryddid i symud ac yn meithrin parch at y ddwy ochr drwy ymgolli ym mywyd diwylliannol gwlad arall.  Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc o Gaerdydd gymryd rhan mewn dathliadau rhyngddiwylliannol gyda phobl ifanc eraill o Nantes a gwledydd eraill sy’n rhan o’r trefniant gefeillio amlochrog hwn. Mae’r ffocws ar weithgareddau addysg awyr agored, dinasyddiaeth weithredol ac iechyd a lles. Mae hyn hefyd yn rhan o gerrig milltir ehangach i’r ddinas eleni wrth ddathlu 60 mlynedd o efeillio rhwng Nantes a Chaerdydd.   

Ac felly? 

Trwy’r rhaglen gyfnewid, mae pobl ifanc wedi cael y cyfleoedd i ehangu eu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw, dod â gwersi yn ôl i’w rhannu â phobl gartref, ond hefyd i feithrin perthynas fel grŵp o bobl ifanc o’u cenedl eu hunain, gan ddysgu pethau amdanynt eu hunain a’u galluoedd eu hunain. Maen nhw wedi meithrin cyfeillgarwch cryf ac, fel rhan o’u cyfrifoldebau, roedd gofyn iddynt ddogfennu eu taith y maen nhw wrthi’n ei golygu ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o’i rhannu ag Ieuenctid Caerdydd. Mae hyn yn rhan o sicrhau bod adborth wedi’i ymgorffori yn y gwaith a wnawn fel Dinas sy’n Dda i Blant a bod y broses yn cael ei harwain gan bobl ifanc, wedi’i datblygu gan bobl ifanc ac ar gyfer pobl ifanc.