Gwneud Safiad: Sesiynau newydd ar Ymyrraeth Gwylwyr i herio Casineb at Fenywod

Gweld yr holl newyddion...

Beth ddigwyddodd?  

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Kindling Interventions i dreialu cyfres o sesiynau ar Ymyrraeth Gwylwyr gyda’r nod o herio a mynd i’r afael â chasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched. Mae’r sesiynau hyn, sydd wedi’u cynllunio i arfogi cyfranogwyr ag ymagwedd pedair haen at ymyrraeth, yn cynnig arweiniad ymarferol ar sut i ymyrryd mewn gwahanol sefyllfaoedd — boed hynny yn y foment neu ar ôl digwyddiad, ac a yw’r ymyrraeth yn cynnwys y dioddefwr, y cyflawnwr, dieithriaid, neu ffrindiau a theulu. Fel cyngor, rydym yn cefnogi’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn weithredol, gan fod yr hyfforddiant hwn yn cyfrannu at ein hymrwymiad corfforaethol pwysig i fod yn gyngor sydd wedi dileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod. Mae Hyfforddwr Hawliau Plant Caerdydd sy’n Dda i Blant, Charlotte Bowden, wedi ei phenodi’n hyfforddwr llawrydd ar gyfer y prosiect hwn, gan ddod â’i harbenigedd a’i hangerdd dros degwch rhywedd i’r fenter. 

Pam? 

Mae’r fenter hon yn mynd i’r afael ag angen hanfodol a nodwyd yn adroddiad rhywedd Caerdydd sy’n Dda i Blant https://www.childfriendlycardiff.co.uk/wp-content/uploads/Lleisiau-dros-Newid.pdf, a amlygodd y thema allweddol o fynd i’r afael â chasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched. Mae’r sesiynau ar Ymyrraeth Gwylwyr wedi’u cynllunio i rymuso unigolion i weithredu yn eu cymunedau, gan feithrin diwylliant lle mae ymddygiad o’r fath yn cael eu herio’n weithredol ac na chaiff ei oddef.   Mae cyfranogiad Charlotte Bowden yn y prosiect hwn yn deillio o’i hymrwymiad i sicrhau tegwch rhywedd, ymrwymiad a sbardunwyd gan y gwaith rhywedd y mae wedi cymryd rhan ynddo drwy ei rôl yn nhîm Caerdydd sy’n Dda i Blant. 

Ac felly? 

Mae gan beilot y sesiynau am Ymyrraeth Gwyliwr y potensial i greu newid sylweddol yn y ffordd yr eir i’r afael â chasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghaerdydd a thu hwnt. Trwy arfogi mynychwyr â strategaethau ymyrraeth ymarferol, nod y sesiynau yw adeiladu cymuned sy’n rhagweithiol wrth sefyll yn erbyn ymddygiadau niweidiol. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd â chanfyddiadau adroddiad rhywedd Caerdydd sy’n Dda i Blant ac mae hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad ehangach Caerdydd i degwch rhywedd a diogelwch ei thrigolion.