Grymuso Dyfodol Caerdydd: Hyfforddiant newydd ar Hawliau Plant yn cael ei ryddhau yn fuan!

Gweld yr holl newyddion...

Beth ddigwyddodd?

Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant yn cymryd cam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo hawliau plant trwy lansio dau fodiwl hyfforddi newydd, sy’n helpu i gefnogi oedolion yn eu rôl bwysig fel deiliaid dyletswydd Hawliau Plant. Mae’r modiwl cyntaf yn canolbwyntio ar Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant (AEHPau), gan arwain gweithwyr proffesiynol ar yr hyn ydynt, pam eu bod yn bwysig, a sut i’w cwblhau’n effeithiol, gan ddefnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) fel ein canllaw. Mae’r ail fodiwl wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer rheolwyr, gan gynnig trosolwg cynhwysfawr o hawliau plant a chamau ymarferol i sicrhau bod pob tîm yn cynnal eu cyfrifoldeb cyfreithiol. Disgwylir i’r ddau fodiwl gael eu cyflwyno ar draws holl adrannau’r cyngor, gan sicrhau ymgysylltiad ac effaith eang.  

Pam? 

Mae’r modiwlau hyfforddi hyn yn hanfodol ar gyfer ymgorffori ymagwedd hawliau plant ledled awdurdod lleol Caerdydd. Mae’r modiwl AEHP yn mynd i’r afael â’r angen am asesiadau systematig sy’n sicrhau bod polisïau a phenderfyniadau yn parchu ac yn hyrwyddo hawliau plant. Mae modiwl y rheolwyr yn ymateb i alw cynyddol am arweinyddiaeth sy’n deall ac yn hyrwyddo hawliau plant yn weithredol. Mae bod yn Ddinas sy’n Dda i Blant yn ei gwneud yn ofynnol i ni fel awdurdod lleol sicrhau bod pob penderfyniad a wneir yn ystyried budd gorau plant, rhywbeth y mae’r ddau fodiwl yn cyd-fynd ag ef.  

Ac felly? 

Wrth gyflwyno’r modiwlau hyfforddi hyn, disgwylir iddynt wella ymwybyddiaeth a gweithrediad hawliau plant ledled Caerdydd yn sylweddol. Trwy arfogi staff a rheolwyr â’r wybodaeth a’r offer i gynnal AEHPau ac arwain gyda ffocws ar hawliau plant, mae Caerdydd yn gosod y sylfaen ar gyfer newid cadarnhaol, hirhoedlog. Bydd yr hyfforddiant hwn yn gwella arferion cyfredol a hefyd yn gosod safon ar gyfer mentrau yn y dyfodol, gan sicrhau bod hawliau plant yn parhau i fod wrth wraidd holl weithredoedd a phenderfyniadau awdurdodau lleol.