Beth ddigwyddodd?
Gwnaeth tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â Thîm Cwricwlwm y Cyngor, i fwrw ymlaen â’r prosiect ‘Arloeswyr Cynllunio’—menter mapio cymunedol sy’n cyfuno offer digidol a gweithdai wyneb yn wyneb. Roedd carreg filltir ddiweddaraf y prosiect yn cynnwys dros 300 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Llanisien a’i hysgolion cynradd clwstwr, a ddefnyddiodd blatfform ‘Maptionnaire’ i fapio pethau cadarnhaol a negyddol eu hardal leol, gan gynnwys gweithdai i archwilio cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr ardal. Dilynwyd hyn gan ymdrech ehangach gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan ymgysylltu â thua 300 o bobl ifanc ledled y ddinas i adeiladu proffiliau cymunedol manwl gan ddefnyddio’r un platfform.
Pam?
Cychwynnwyd y prosiect ‘Arloeswyr Cynllunio’ i gasglu gwell gwybodaeth am sut mae plant a phobl ifanc (PaPhI) yn rhyngweithio â’u cymunedau lleol a’u hamgylchedd adeiledig, ac yn eu canfod. Trwy gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol mewn ymarferion mapio a gweithdai, nod y prosiect oedd sicrhau bod eu safbwyntiau a’u hanghenion yn cael eu cynrychioli’n gywir mewn cynlluniau datblygu lleol. Mae’r data hwn yn hanfodol ar gyfer llywio ymyriadau a gweithgareddau sydd wedi’u teilwra fwy ar draws gwahanol rannau o Gaerdydd, gan ganiatáu ymagwedd sy’n Dda i Blant ar gynllunio dinesig a datblygu cymunedol.
Ac felly?
Bydd y mewnwelediadau a gesglir o ardal Llanisien yn arwain at adroddiad a chynllun cynefin a ddatblygwyd ar y cyd â’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Bydd y cynllun hwn yn adnodd gwerthfawr i dimau a datblygwyr cynllunio awdurdodau lleol, gan ddarparu dealltwriaeth gliriach o’r gymuned leol o safbwynt trigolion ifanc. Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd eisoes wedi dechrau defnyddio’r data Maptionnaire i rymuso eu Swyddogion Datblygu Ieuenctid newydd i deilwra gweithgareddau a mentrau allgymorth yn unol ag anghenion penodol gwahanol ardaloedd. Mae’r prosiect hwn yn gwella’r broses o gynnwys lleisiau pobl ifanc mewn cynllunio dinesig a hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddylunio a darparu gwasanaethau ieuenctid ledled y ddinas, gan wneud Caerdydd yn amgylchedd mwy ymatebol a chynhwysol i’w thrigolion iau.