Yn ddiweddar, dathlodd Caerdydd sy’n Dda i Blant, mewn partneriaeth â Plan UK, gyflawniadau rhyfeddol y bobl ifanc a wnaeth gais llwyddiannus am gyllid o dan gynllun gweithredu cymdeithasol Young Changemakers. Roedd y digwyddiad arbennig hwn, a gynhaliwyd ddiwedd mis Ebrill yng Nghaerdydd, yn dangos y prosiectau arloesol sy’n cael eu harwain gan ieuenctid lleol gyda’r nod o fynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â rhywedd. Dechreuodd y diwrnod gyda gweithdy llafar creadigol a newidiodd i fod yn arddangosfa brynhawn lle rhannodd cyfranogwyr ifanc y cerrig milltir dylanwadol a gyflawnwyd trwy eu mentrau.
Roedd y fenter hon yn hanfodol i rymuso pobl ifanc yng Nghaerdydd i gymryd rolau gweithredol yn eu cymuned, yn enwedig o ran tegwch rhywedd. O dan ein blaenoriaeth o fod yn ‘Gyfartal a Chynhwysol’, gwnaethom gydnabod yr angen brys i fynd i’r afael â materion rhywedd wrth feithrin sgiliau arwain ac eiriolaeth ymhlith yr ieuenctid. Mae’r prosiect hefyd yn cyd-fynd â’n cenhadaeth ehangach i ymgorffori hawliau plant yng ngwead y ddinas, gan sicrhau bod lleisiau ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond yn allweddol wrth lunio cymuned fwy cynhwysol a theg.
Roedd y digwyddiad dathlu nid yn unig yn tynnu sylw at greadigrwydd ac ymroddiad ieuenctid Caerdydd ond hefyd yn gosod cynsail ar gyfer prosiectau dan arweiniad ieuenctid yn y dyfodol. Wrth i’r mentrau hyn ddwyn ffrwyth yn llwyddiannus, mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi dangos y rôl bwerus y gall pobl ifanc ei chwarae yn sbarduno newid cymdeithasol. Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd Adroddiad Rhywedd Caerdydd sy’n Dda i Blant, sy’n crynhoi canfyddiadau yr holl brosiectau rhywedd y mae Caerdydd sy’n Dda i Blant wedi gweithio arnynt ac wedi darparu argymhellion yn seiliedig ar y canfyddiadau. Gobeithio bydd yr adroddiad yn gonglfaen ar gyfer trafodaethau a chamau gweithredu parhaus yn y gymuned i weithredu ei argymhellion, gan gadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i wneud Caerdydd yn flaenllaw ym maes hawliau plant a thegwch rhywedd.