Cynllun Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd – Grŵp Adolygu

Gweld yr holl newyddion...

Mae Cynllun Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd (CTDdFf) Caerdydd – Grŵp Adolygu wedi cynnwys Arthur Templeman-Lillie a Mikaeel Moulani, aelodau Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC), ar ei banel yn ddiweddar. Mae’r grŵp hwn yn chwarae rhan hanfodol yn llunio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd o dan arweiniad proses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) (gweler ynghlwm). 

Mae prif gyfrifoldebau’r Grŵp Adolygu yn cynnwys rhoi adborth, cymeradwyo syniadau, a chynnig heriau adeiladol wrth i’r cynllun CTDdFf fynd rhagddo. Mae eu harbenigedd yn rhychwantu meysydd allweddol fel effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Ar ben hynny, maent yn cynrychioli buddiannau’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y prosiectau posibl. Er nad yw’r grŵp yn gwneud penderfyniadau terfynol ar unrhyw gynllun neu brosiect CTDdFf, mae ei argymhellion yn hanfodol. Mae’r rhain yn cynnwys creu rhestr fer o opsiynau i’w hasesu yng Nghyfnod 2 WelTAG ac argymell opsiwn a ffefrir ar gyfer asesu yng Nghyfnod 3 WelTAG. 

Mae’r broses WelTAG, sydd yng Nghyfnod Un ar gyfer cynllun CTDdFf ar hyn o bryd, yn cynnwys nodi a darparu tystiolaeth o broblemau cysylltiedig â thrafnidiaeth presennol ac yn y dyfodol, arwain y gwaith o osod amcanion, ac asesu opsiynau yn seiliedig ar eu heffaith ar les. Bydd y cam cychwynnol hwn yn arwain at Achos Amlinellol Strategol ac Adroddiad Asesu Effaith, fydd yn amlinellu rhestr fer o opsiynau i’w datblygu ymhellach yng Nghyfnod Dau. Mae Cyngor Caerdydd yn arwain yr ymdrech hon, sy’n cyd-fynd â Gweledigaeth Drafnidiaeth y ddinas i 2030 a Strategaeth Un Blaned. Nod y mentrau hyn yw creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, cynaliadwy sy’n hyrwyddo iechyd, lles, ac allyriadau carbon is. Mae’r broses hefyd yn cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru ac argymhellion gan adolygiadau a chomisiynau trafnidiaeth amrywiol.