Math o theatr yw theatr ddeddfwriaethol lle mae’r gynulleidfa’n cymryd rhan mewn datrys problemau cymdeithasol a gwleidyddol a gyflwynir gan yr actorion. Y nod yw annog deialog a chydweithio rhwng aelodau’r gymuned a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, a chreu cynigion pendant ar gyfer newid.
Mae’r term “deddfwriaethol” yn cyfeirio at y ffaith bod yr atebion arfaethedig yn cael eu cyflwyno fel deddfwriaeth bosib, a bwriedir i’r ddeialog sy’n digwydd yn ystod y perfformiad arwain at gynigion pendant y gellir eu cyflwyno i lunwyr polisi neu benderfynwyr eraill. Diben theatr ddeddfwriaethol yw grymuso dinasyddion cyffredin i gymryd rhan weithredol wrth lunio’r polisïau sy’n effeithio ar eu bywydau, a chreu lle ar gyfer deialog a chydweithio rhwng aelodau’r gymuned a’u cynrychiolwyr.
Gan weithio gyda Tom Bevan, bydd aelodau o grŵp Tegwch rhwng y Rhywiau Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cynnal gweithdai a rhaglenni preswyl drwy gydol mis Mehefin i edrych ar yr hyn y gallant ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen hon, gan arwain at berfformiad a fydd, gobeithio, yn cael ei gyflwyno mewn gŵyl hawliau plant y byddwn yn ei chynnal ym mis Gorffennaf.