
Ar 4 Chwefror, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Caerdydd gyfweliadau ar gyfer rôl newydd gyffrous o fewn y Cyngor Ieuenctid i benodi Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Crëwyd swydd y Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant gan CIC i edrych ar aelodaeth y cyngor ieuenctid ac i weithio gyda’r weithrediaeth ac aelodau eraill i gael gwared ar rwystrau, gweithio ar gynwysoldeb a herio unrhyw fathau o wahaniaethu.
Daeth y panel o bobl ifanc i’r casgliad bod dau ymgeisydd yn berffaith ar gyfer y rôl. Penodwyd Rain Preece a Shivani Kothegal yn Swyddogion Cydraddoldeb a Chynhwysiant newydd.
Gyda’i gilydd byddant nawr yn gweithio ar y Grŵp Llywio Cydraddoldeb Rhywiol ac yn datblygu cynllun o sut y gallant wella Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn awr, ac ar gyfer y dyfodol.